![Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/cwm-bychan-view-from-mynydd-sygun.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr Rhedeg Craflwyn
Mae’r llwybr rhedeg yma’n cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, ond mae’n rhoi cyfle i chi weld dyffryn Nant Gwynant yn ehangach, pentref Beddgelert yn ogystal â llethrau isaf copa uchaf Cymru, Yr Wyddfa a Mynydd Sygun, lle mae hen weithfeydd copr.
Taith redeg heriol
Dyluniwyd y llwybr hwn ar gyfer rhedwyr mynydd profiadol. Dim ond rhannau o’r daith sydd wedi eu nodi ag arwyddion. Felly gofalwch bod gennych fap a chwmpawd hefo chi, edrychwch ar y tywydd cyn cychwyn a byddwch yn barod am ddiwrnod allan yn y mynyddoedd.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Craflwyn, LL55 4NG. Cyfeirnod Grid SH599489
Cam 1
O faes parcio Craflwyn dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny trwy’r coetir. Lle mae’r llwybr yn fforchio, dilynwch y marciwr saeth du i’r dde. Ewch ymlaen heibio mainc y ddraig ac yna i fyny grisiau gyda rhaeadr fach ar y chwith i chi.
![Rhaeadr fechan yng Nghraflwyn, Eryri](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/waterfall-craflwyn-snowdonia.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 2
Ar ben y grisiau dilynwch y llwybr i’r dde, trwy goed bedw ac i lannerch. Daliwch i fynd ymlaen gan ddilyn y saethau du ac anwybyddu dau lwybr sy’n mynd i’r dde. Arhoswch i edmygu’r olygfa o Gadair y Cawr ar y dde cyn mynd ymlaen i’r chwith a dringo i fyny grisiau (anwybyddwch y gamfa ar y dde i chi). Dilynwch y llwybr wrth iddo ddolennu i fyny, croeswch gamfa fach dros ffens ac anelu i fyny am y ffridd.
![Cadair y Cawr yng Nghraflwyn, yn edrych dros Ddinas Emrys a Mynydd Sygun yn Eryri](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/giants-chair-at-craflwyn.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 3
Anelwch am y dwyrain tuag at Fylchau Terfyn. Croeswch gamfa ar y wal a dal i fynd gan ddilyn y marcwyr du. Pan fyddwch yn cyrraedd y bont yn agos i hen adfail, trowch i’r chwith ar drac a pharhau ar i fyny. Trowch i’r chwith eto wrth yr adfail nesaf. Daliwch i fynd hyd y llwybr nes y byddwch yn cyrraedd camfa arall dros wal. Dilynwch yr arwyddion i lawr tuag at Lwybr Watkin. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Llyn Gwynant a Moel Siabod yn y pellter.
Cam 4
Pan fyddwch yn cyrraedd llwybr (llwybr Watkin) trowch i’r dde a mynd i lawr llethrau’r Wyddfa. Cofiwch bod y marcwyr ffordd du yn dod i ben yma.
Cam 5
Ar waelod y llwybr, trowch i’r dde i lôn ac yna i’r dde eto wrth gyrraedd y briffordd. Ar ôl pasio Caffi Gwynant, cymrwch y troad nesaf i’r chwith, gan groesi Afon Glaslyn. Ac yna’r cyntaf i’r dde, tuag at Fferm Llyndy Isaf. Dilynwch y llwybr heibio’r fferm a rhedeg ar hyd glannau Llyn Dinas, byddwch yn mynd trwy sawl giât ar y ffordd.
Cam 6
Ar ben y llyn, trowch i’r chwith ar hyd llwybr o gerrig sy’n mynd i fyny’r bryn yn igam-ogam. Ar y top daliwch i fynd am hanner milltir (anwybyddwch y llwybr cyntaf ar y dde). Lle mae’n fforchio, cadwch i’r dde.
Cam 7
O Fwlch y Sygun dilynwch y llwybr chwith (tua’r de) yna cadwch i’r dde, i lawr Cwm Bychan. Ar y gwaelod ewch ymlaen heibio’r maes parcio a thrwy’r coed nes y dewch chi at yr afon.
![Golygfa o raffordd Cwm Bychan, olion y diwydiant copr yn Eryri, Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/cwm-bychan-ropeway-beddgelert-snowdonia-wales-856916.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 8
Trowch i’r dde wrth yr afon a dilyn y Glaslyn ar i fyny. Byddwch yn ofalus ar y tir anwastad, caregog ac wrth groesi’r rheilffordd. Ewch yn syth ymlaen at y groesfan reilffordd. Ewch heibio pont droed ar y chwith a dilyn yr afon ar i fyny, cyn croesi stryd a mynd trwy giât. Ar ôl mynd trwy Fwlch Aberglaslyn, dilynwch y llwybr ar hyd yr afon gyda llethrau isaf Mynydd Sygun ar y dde i chi.
Cam 9
Wrth y giât nesaf, trowch i’r dde i lôn gul a dilyn hon at Waith Copr Sygun. Yma, trowch i’r chwith i’r briffordd brysur a chwith eto nes cyrhaeddwch chi faes parcio Craflwyn ar y dde.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Craflwyn, LL55 4NG. Cyfeirnod Grid SH599489
Map llwybr
![Llwybr rhedeg yn archwilio dyffryn Nant Gwynant yn cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, Eryri](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/map-route-for-craflwyn-ranger-run.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/nant-gwynant-beddgelert-snowdonia-wales-1456408.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.
![Llwybr cerdded wrth ochr afon ym Meddgelert, Eryri, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/river-beddgelert-snowdonia-wales-1154144.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.
![Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/aberglaslyn-pass-beddgelert-wales-1190987.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.
![Golygfa o lyn yn ymestyn i’r pellter gyda bryn creigiog ar un ochr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/yr-aran-lake-wales-1409950.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan, gyda chopa’r Aran yn y pellter, Eryri, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/craflwyn-and-beddgelert/library/heather-hafod-y-llan-165464.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.
![Cerddwr ar bont droed yn edrych dros Lyn Idwal yng Nghwm Idwal, Eryri, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/carneddau-and-glyderau/library/winter/walking-cwm-idwal-snowdonia-wales-1474991.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
10 o lwybrau cerdded gorau Eryri
Ewch allan i’r awyr agored ac i ganol byd natur gydag un o’n llwybrau cerdded y gallwch eu lawrlwytho, sydd wedi eu trefnu gan geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.