Skip to content

10 o lwybrau cerdded gorau Eryri

Cerddwr ar bont droed yn edrych dros Lyn Idwal yng Nghwm Idwal, Eryri, Gogledd Cymru
Cerdded yng Nghwm Idwal, Eryri | © National Trust Images/Gwenno Parry

Yn Eryri y mae rhai o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd yn y wlad, felly pa well ffordd o’u gweld nag ar droed? O lwybrau rhaeadrau dramatig i anturiaethau yn y mynyddoedd, dysgwch am y llwybrau gorau i’w dilyn yn y rhan hardd hon o Gymru.

Taith bedd Gelert
Bydd y daith yn eich arwain ar hyd llwybr gwastad o ganol y pentref, ar hyd glan Afon Glaslyn at safle bedd Gelert. Byddwch hefyd yn dod i ddeall chwedl Gelert a’r Tywysog Llywelyn a roddodd enw i’r pentref.Crwydrwch hyd lwybr y chwedlau
Taith gylchol Craflwyn, Hafod y Llan a Llyn Dinas
Ewch oddi ar y llwybrau prysur ac archwilio ochr wyllt Nant Gwynant. Mae’r llwybr yma yn cynnwys llethrau unig yr Aran, rhaeadrau trawiadol ar Lwybr Watkin, coetir hynafol a llyn hardd.Cofiwch eich esgidiau cerdded
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Cerddwch yn ôl traed cymeriadau chwedlonol Cymru i safle hynafol Dinas Emrys, ond troediwch yn ofalus, mae draig yn cysgu dan y ddaear.Cychwynnwch ar eich ymgyrch
Taith Aberglaslyn, Bryn Du a Beddgelert
Mae cymaint o lwybrau i’w crwydro o gwmpas Beddgelert, ond hwn yw ffefryn personol y ceidwad lleol.Crwydrwch Fryn Du
Cerddwyr yn dilyn llwybr cul ar lan afon Glaslyn, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Cerddwch ar hyd llwybr y pysgotwyr ar hyd bwlch Aberglaslyn, Eryri | © National Trust Images/Chris Lacey
Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Taith gylchol amrywiol gyda rhai o’r golygfeydd gorau yn yr ardal. Mae’r daith yn cychwyn a gorffen ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor.Cerddwch trwy Fwlch Aberglaslyn
Taith Cwm Idwal
Mae’r daith gerdded hon yn cynnig rhai o’r golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol hynaf Cymru.Crwydrwch i dirwedd o oes yr ia
Taith gylchol Llyn Ogwen
Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma lle mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.Crwydrwch hyd lwybr y llyn
Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen, yn adlewyrchu mynyddoedd dan eira
Dyfroedd llonydd Llyn Ogwen | © National Trust Images / Joe Cornish
Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd
Mae hon yn daith wych ar lan dŵr, gan eich arwain ar hyd Afon Gamlan wyllt a heibio rhaeadr ryfeddol Rhaeadr Ddu.Dilynwch Afon Gamlan
Taith Ystâd Dolmelynllyn
Cewch weld Rhaeadr Ddu ryfeddol ac adfeilion difyr gwaith aur Cefn Coch.Darganfyddwch un o ryfeddodau Cymru
Taith Dinas Oleu, Abermaw
Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, a roddwyd gan Fanny Talbot yn oes Fictoria i bobl Abermaw.Dilynwch yn olion traed Fanny Talbot

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

A hiker sitting looking at the view from the Brecon Beacons
Erthygl
Erthygl

Mynyddoedd yng Nghymru 

Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru, o heriau Tryfan yng ngogledd Eryri i fynyddoedd eiconig Pen y Fan a Phen-y-fâl yn ne Cymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Eryri 

Darganfyddwch gopaon trawiadol, llynnoedd rhewlifol a choetiroedd hynafol Eryri, tirwedd ysbrydoledig sy’n drysorfa o chwedlau.

The exterior of Gwernouau Cottage, Betws-Y-Coed, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yng Ngogledd Cymru 

O fynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri i'r anghysbell Ben Llŷn, mae Gogledd Cymru yn gyrchfan wyliau i'ch ysbrydoli. (Saesneg yn unig)

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.