Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes
Dewch i grwydro’r penrhyn hwn o rostir hyfryd, sydd â golygfeydd gwych dros lannau Sir Benfro, ac sy’n llawn bywyd gwyllt fel morloi llwyd, adar môr a llamidyddion. Mae’r llwybr cylchol hwn yn eich tywys dros dir amaeth, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a thrwy weddillion caerau o Oes yr Haearn.
Beth yw’r parc ceirw?
Mae’r ardal ym mhen pellaf y penrhyn wedi’i henwi ar ôl ymgais aflwyddiannus i greu parc ceirw ar ddiwedd y 18fed ganrif a throad y 19eg ganrif. Mae’n gartref i gaer bwysig o Oes yr Haearn, a dyma’r lle gorau i weld morloi bach ar ddiwedd yr haf.
Cyfanswm y camau: 7
Cyfanswm y camau: 7
Man cychwyn
Maes parcio Traeth Marloes, cyfeirnod grid: SM789082
Cam 1
O ben deheuol maes parcio Traeth Marloes trowch i’r dde ger y ffôn argyfwng, a dilynwch yr arwyddion i’r toiledau. Ewch ymlaen ar hyd y lôn ac, wrth i chi basio Cors Marloes, cadwch lygad am adar y gwlyptir. Wedi pasio’r Gors, trowch i’r chwith tuag at lwybr yr arfordir. Mae traeth poblogaidd Marloes wedi’i guddio’n llwyr pan mae’r llanw’n uchel. Mae Ynys Gateholm, i’ch dde ohonoch, yn anheddiad cynhanesyddol, a dim ond pan mae’r llanw’n isel y gellir croesi iddi.
Cam 2
Wrth gyrraedd llwybr yr arfordir fe welwch Draeth Marloes i’r chwith ohonoch. Trowch i’r dde, fodd bynnag, a pharhau tuag at Ynys Gateholm. Pan fyddwch gyferbyn â’r ynys, fe welwch Ynys Sgogwm o’ch blaen ac Ynys Sgomer yn dod i’r golwg ar y dde.
Cam 3
Ewch ymlaen ar hyd llwybr yr arfordir a thrwy’r gaer Oes yr Haearn. Mwynhewch ffurfiau dramatig y creigiau gwaddodol ar hyd y glannau. Daw Ynys Sgomer ac Ynys Ganol i’r golwg yn raddol. O’r gaer Oes yr Haearn, gellir gweld Ynys Gwales ar y gorwel, sy’n wyn gyda huganod (neu fulfrain llwyd) yn yr haf.
Cam 4
Parhewch ar hyd llwybr yr arfordir o gwmpas y parc ceirw (ym mhen pellaf Penrhyn Marloes). Dilynwch y llwybr i fyny i Bwynt Wooltack am olygfeydd o Sgomer a Phenrhyn Dewi.
Cam 5
Ewch drwy’r gât i’r heol a throwch i’r chwith tuag at Martin’s Haven, lle mae pobl yn dal y cwch i fynd i Sgomer. Ychydig cyn y traeth dilynwch lwybr yr arfordir i’r dde ac i fyny’r stepiau. Mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen tua’r dwyrain, gyda Bae Sant Ffraid i’r chwith ohonoch a fferm West Hook i’r dde. Mwynhewch y golygfeydd gwych ar draws Bae Sant Ffraid tuag at Niwgwl, arfordir Solfach, Penrhyn Dewi ac Ynys Dewi.
Cam 6
Ar ôl ychydig dros filltir (1.6km), gadewch lwybr yr arfordir, a throwch i’r dde drwy gât sy’n cau ei hun a heibio i arwydd fferm West Hook yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyn croesi tri chae i’r heol.
Cam 7
Trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd yr heol heibio i fferm Trehill. Ychydig dros 400 llath (400m) heibio’r fferm, trowch i’r dde ger dau fwthyn sydd wedi eu huno ac ewch i lawr y trac sy’n arwain yn ôl i’r maes parcio. (Ychydig dros 100 llath (100m) heibio’r troad, mae trac ar y dde’n arwain at guddfan arall sy’n edrych dros Gors Marloes.)
Man gorffen
Maes parcio Traeth Marloes, cyfeirnod grid: SM789082
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Martin’s Haven – llwybr y parc ceirw
Llwybr byr ond trawiadol o gwmpas Penrhyn Marloes gyda llawer o forloi (rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Ymweld â Thraeth a Chors Marloes
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.