
Martin’s Haven – llwybr y parc ceirw
Mwynhewch olygfeydd arfordirol dramatig a bywyd gwyllt bendigedig ar y llwybr byr ond trawiadol hwn o gwmpas Penrhyn Marloes. Does dim ceirw i’w gweld, ond mae llawer o forloi (gan gynnwys rhai bach yn yr hydref), grug a blodau gwyllt, creigiau campus a golygfeydd o’r môr. Gallwch weld y rhan fwyaf o ynysoedd Sir Benfro o’r fan hon.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Martin's Haven, cyfeirnod grid: SM760090
Cam 1
Ym mhen pellaf y maes parcio, ewch drwy’r gât i’r chwith a dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y cae y tu ôl i Rath Cottage.
Cam 2
Dilynwch y llwybr ar hyd yr arfordir yn y parc ceirw, gan fwynhau’r golygfeydd o’r ynysoedd. Mae Sgogwm i’w gweld i’r de (i’r chwith ohonoch), ac mae Gwales a’i mulfrain llwyd ar y gorwel. Mae dyfroedd peryglus Jack Sound yn byrlymu rhwng y parc ceirw ac Ynys Ganol. Os nad yw hi’n rhy wyntog, eisteddwch am eiliad a gwylio adar y môr.
Cam 3
Mae’r baeau creigiog o dan y clogwyni’n cael eu defnyddio gan forloi.
Cam 4
Trowch i’r dde a cherddwch tua’r tir mawr gan groesi’r parc gyda chaban gwylwyr y glannau i’r chwith ohonoch. Mae caban gwylwyr y glannau bellach yn wylfan weithredol sy’n cael ei gweithredu gan y National Coastwatch Institute. Mwynhewch y golygfeydd – mae hwn yn lle gwych am bicnic ar ddiwrnod braf.
Cam 5
Dilynwch y llwybr ar hyd pen uchaf amddiffynfeydd y gaer arfordirol – mae hon yn gaer 3,000 oed o Oes yr Haearn.
Cam 6
Aildroediwch y llwybr yn ôl tua’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Martin's Haven, cyfeirnod grid: SM760090
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes
Llwybr cylchol gyda golygfeydd hyfryd o arfordir Sir Benfro sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ar y tir a’r môr. A pheidiwch â cholli gweddillion caerau o Oes yr Haearn ar eich taith.

Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi
Dilynwch lwybr ar hyd pentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro, dafliad carreg o Dyddewi, i ddarganfod henebion cynhanesyddol ac adar amrywiol.

Taith Treginnis o Borthclais
Taith gerdded 6 milltir o amgylch pentir Treginnis yn Sir Benfro sy’n cynnwys rhai o ffurfiannau craig hynaf Cymru, caer o’r oes haearn, mwynglawdd copr o’r 19eg ganrif a harbwr hanesyddol Porthclais.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymweld â Thraeth a Chors Marloes
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)