
Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Darganfyddwch rai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar y llwybr bywyd gwyllt arfordirol hwn. Rhyfeddwch at glogwyni calchfaen ag adar môr sy’n bridio, gan gynnwys gwylogod, yn ogystal â thraethau, twyni a llynnoedd dŵr croyw gyda lilis a chyfle i weld dyfrgwn.
Dod o hyd i’r dyfrgwn
Cadwch olwg am y mamaliaid swil hyn ar eich taith gerdded, yn enwedig ar Gam 8. Pont yr Wyth Bwa yw’r lle gorau i’w gweld.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio yng Nghei Stagbwll, cyfeirnod grid: SR990958
Cam 1
O faes parcio Cei Stagbwll, dilynwch lwybr yr arfordir tua Barafundle. Cymerwch saib ar gopa’r grisiau i edrych i lawr ar Gei Stagbwll, ac ar y galchfaen yn newid i dywodfaen goch i’r chwith ohonoch.
Cam 2
Wrth gyrraedd Barafundle, ewch i lawr y grisiau i’r tywod. Croeswch y traeth, a dringwch y grisiau drwy’r coetir yn y pen pellaf.

Cam 3
Dilynwch lwybr yr arfordir tua Thrwyn Stagbwll, gan aros i edmygu’r Ffenestri Delltog, y bwâu carreg naturiol oddi tanoch.
Cam 4
Ewch yn eich blaenau ar hyd llwybr yr arfordir, gyda glaswelltir eang Cwningar Stagbwll i’r dde ohonoch. Yn y gwanwyn a’r haf mae’n fôr o flodau gwyllt a phili-palod.
Cam 5
Mae sawl llwybr yn eich tywys i lawr at lannau Llynnoedd Bosherston. Anelwch at arllwysfa’r llyn y tu cefn i Draeth Aber Llydan. Mae’r gwely cyrs ymylol cul yn lle gwych i wylio adar, gydag adar sy’n bridio yn yr haf ac adar y bwn a rhegennod dŵr yn y gaeaf.
Cam 6
Croeswch y bont garreg bitw dros yr arllwysfa a dilynwch lwybr Cangen y Gorllewin tua Bosherston. Gallwch aros yn Bosherston am rywbeth i fwyta ac yfed; fel arall, cadwch at y llwybr.
Cam 7
Croeswch Sarn Bosherston, dringwch dros y clogwyn calchfaen a chroeswch y Sarn Ganol. Dyma’r pyllau lili enwog. Fe welwch y lilis dŵr o fis Mehefin i fis Medi. Dilynwch y llwybr i lawr i’r Bont Welltog.
Cam 8
Peidiwch â chroesi’r Bont Welltog - trowch i’r chwith a dilynwch lwybr y Gangen Ddwyreiniol i fyny i Bont yr Wyth Bwa.

Cam 9
Croeswch Bont yr Wyth Bwa, a dilynwch drac y Parc Ceirw yn ôl i Gei Stagbwll.
Man gorffen
Maes parcio yng Nghei Stagbwll, cyfeirnod grid: SR990958
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: ein hunig bartner cerdded
Dysgwch ragor am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein hunig bartner cerdded. (Saesneg yn unig)

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Gwylio bywyd gwyllt â Stad Stagbwll
Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Bwyta â Stad Stagbwll
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.