
Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Taith gerdded amgylch pyllau lili bendigedig Bosherston, gyda’r opsiwn i grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan. Gellir cyrraedd y llwybr trwy gerdded i lawr tir a grisiau anwastad at lan y llyn, yn bennaf ar hyd llwybrau graen gwastad o amgylch y llyn.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio Pyllau Lili Bosherston, cyfeirnod grid: SR966948
Cam 1
O’r maes parcio, dilynwch y llwybr i lawr i’r llynnoedd.

Cam 2
Croeswch gangen orllewinol y llyn ger sarn Bosherston.
Cam 3
Dilynwch y llwybr i fyny i’r clogwyn calchfaen. Mae’r llwybr drwy’r llwyni i’r chwith yn arwain i fyny at Wersyll Pwll Pysgod, hen gaer arfordirol a adeiladwyd 3,000 o flynyddoedd yn ôl pan roedd y llynnoedd yn gilfach lanwol.
Cam 4
Ewch i lawr at y sarn ganol a’i chroesi.
Cam 5
Trowch i’r dde wrth y gyffordd nesaf ac ewch i lawr at y Bont Welltog.
Cam 6
Continue towards the sea.
Cam 7
Croeswch arllwysfa’r llyn dros bont garreg gul (byddwch yn ofalus mewn fflip-fflops) a dilynwch y llwybr ar lan y llyn tua Bosherston. Gallwch hefyd ymweld â’r traeth, gan gerdded tua’r dde i ddarganfod bywyd gwyllt Cwm Mere Pool.
Cam 8
Dychwelwch i’r maes parcio ar hyd llwybr y gangen orllewinol, gan stopio bob hyn a hyn i fwynhau’r bywyd gwyllt. Fe allech weld dyfrgi hyd yn oed.

Man gorffen
Maes parcio Pyllau Lili Bosherston, cyfeirnod grid: SR966948
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.

Llwybr beicio mynydd â Stad Stagbwll
Darganfyddwch lwybr beicio mynydd 4 milltir o hyd drwy Stad Stagbwll yn Sir Benfro sy’n cynnig golygfeydd epig o’r coetir ar hyd cyfres o ddringfeydd, neidiau a throeon.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.

Bwyta â Stad Stagbwll
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)