
Llwybr beicio mynydd â Stad Stagbwll
Cymerwch dro gwyllt â Stad Stagbwll a darganfod mwy o’r ardal. Yng Nghoed Doc y Castell a Cheriton Bottom, fe ddewch o hyd i lwybr beicio mynydd gyda dros 4 milltir o ddringfeydd, troeon a neidiau sy’n ddigon i herio’r beiciwr mwyaf profiadol. Reidiwch i gefnlen epig o goetiroedd naturiol a golygfeydd tymhorol wrth i chi ddarganfod mwy o Stad Stagbwll.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Maes parcio Coed Doc y Castell, SR 979965
Cam 1
Dechreuwch ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghoed Doc y Castell lle gwelwch arwydd croeso a map ar wal hen gwt gweithiwr coed. Dilynwch y prif drac drwy’r gât i’r gogledd, allan o’r maes parcio. Mae’r trac yn dringo’n raddol, gan basio bae prosesu pren a hen dŷ mwg cyn troi’n sydyn i’r dde ar gyfer dringfa serth fer i’r top. Dilynwch y llwybr a rennir, gan gadw’n agos at ymyl y coetir wrth i’r llwybr gulhau a gwau rhwng coed a bonion cyn cyrraedd cyffordd-T wrth hen ffin cae.
Cam 2
Trowch i’r chwith, gan ddilyn y llwybr wrth ochr y bancyn i groesi’r llethr. Wrth i’r coed deneuo ar y dde, cadwch olwg am ardal lle rydym wedi ailblannu miloedd o goed llydanddail brodorol. Disgynnwch ar hyd y llwybr hwn cyn cyrraedd ardal o goetir ffawydd, sy’n fôr o glychau’r gog yn y gwanwyn. Trowch i’r chwith yma i ddringo am ychydig cyn gwyro i’r dde i’r darn cyntaf o drac sengl pwrpasol.
Cam 3
Dilynwch y trac sengl, gan ddisgyn eto drwy’r coed trwchus at fan croesi nant a thro cam i’r dde, ac yna’r chwith, i ymuno â’r prif drac wrth ymyl bae prosesu pren. Dilynwch y trac drwy fwy o goed sydd newydd eu plannu tan fod y nant yn llifo reit wrth ymyl y llwybr, lle byddwch yn troi i’r chwith (ewch yn syth i Eglwys Cheriton Stagbwll, sy’n wyriad byr gwerth chweil) i ddringo i floc o gonifferau. Ar frig y ddringfa gyntaf hon, byddwch yn croesi’r ddisgynfa trac sengl cyn troi i’r dde, gan barhau i ddringo i dop y coetir wrth ymyl cae.
Cam 4
Ar ddechrau’r ddisgynfa, mae’r llwybr i’r chwith yn dilyn llwybr byrrach, serthach tra bod y llwybr i’r dde yn llai serth, ychydig yn hirach, ac yn cynnwys cwymp fechan dros wreiddiau. Ar ôl i’r llwybr adael y coetir aeddfed, croeswch y llwybr dringo a dilyn disgynfa agored lydan gyda naid dros fonyn, rhai ysgafellau tynn, pont bren a set olaf o gorneli sy’n dod â chi i ddringfa gul yn edrych dros y nant a groesoch yn gynharach.
Cam 5
Mae’r llwybr yn dringo i gwm newydd, gan groesi hen bont fechan cyn rhai troeon clip gwallt heriol. Ar y top, mae’r llwybr yn croesi’r llethr, yn croesi bancyn cyn disgyn i geunant lle mae angen i chi gadw eich cyflymder i fyny i’w gwneud hi dros y gwreiddiau wrth i chi ddringo’r ochr arall. Mae’r llwybr hwn, sy’n cael ei rannu, yn dramwyfa heriol sydd wedi’i gorchuddio â gwreiddiau – cymerwch ofal pan mae’n wlyb. Wrth i’r coetir ffawydd a chlychau’r gog ddod i’r golwg unwaith eto, dilynwch y llwybr i’r chwith sy’n ymdroelli i lawr dros naid fechan a bancyn serth yn ôl i lawr i fynedfa’r maes parcio.
Cam 6
Os gall eich coesau ymdopi ag un ddringfa arall, bydd rhan olaf y ddolen yn mynd â chi i’r dde o’r ffordd allan o’r maes parcio, cyn troi i’r dde eto wrth y fynedfa gyntaf yn ôl i’r coed ac i fyny bryn sy’n mynd yn gynyddol serth cyn dod allan wrth un o hen borthordai’r ystâd. Wrth i’r llwybr barhau i ddringo heibio’r ddau dŷ, mae golygfa fendigedig i’r gorllewin yn ymddangos wrth y fynedfa ger y llwybr. Mae golygfa well fyth rownd y gornel, ar safle’r Belvedere, sef hen ffoledd – cadwch olwg am fainc bren wedi’i cherfio ar y dde yn union cyn i chi basio drwy hen ffin cae a dechrau disgyn. Mae’r ddisgynfa hir olaf yn cael ei rhannu â cherddwyr a marchogion, felly byddwch yn ofalus oherwydd gall fod yn gyflym. Dilynwch y llwybr hwn yr holl ffordd i’r gwaelod, gan ddod allan i’r ffordd a throi i’r chwith i ddychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Coed Doc y Castell, SR 979965
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Gweithgareddau yn yr awyr iach
Dewch o hyd i leoliadau gorau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau awyr agored, o lwybrau beicio oddi ar y ffordd i chwaraeon dŵr a cherdded, a'r cyfan ynghanol harddwch byd natur. (Saesneg yn unig)

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.

Bwyta â Stad Stagbwll
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Y llefydd gorau am daith feic hir
Darganfyddwch lwybrau beicio gwych ledled y DU lle gallwch fwynhau taith hirach wedi'ch amgylchynu gan olygfeydd cefn gwlad trawiadol, o lwybrau i'r teulu i ddringfeydd heriol. (Saesneg yn unig)