Skip to content
Golygfa o’r Bont Wyth Bwa dros y Llyn Pysgod yn Stagbwll
Y Bont Wyth Bwa dros y llynnoedd yn Stagbwll | © National Trust Images/Chris Lacey
Wales

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll

Mae’r llwybr hwn yn rhoi’r cyfle i chi grwydro’r dirwedd a’r parcdir rhyfeddol a gynlluniwyd gan y teulu Cawdor fel cefndir i’w plasty moethus, Llys Stagbwll, a gafodd ei ddymchwel ym 1963.

Cyfanswm y camau: 9

Cyfanswm y camau: 9

Man cychwyn

Maes parcio Llys Stagbwll, cyfeirnod grid: SR976963.

Cam 1

Cerddwch o’r maes parcio i’r maes gwyrdd agored.

Cam 2

Cerddwch ar draws y maes gwyrdd o’ch blaen at y teras a mwynhau’r olygfa i lawr at y llyn. Gallwch weld y Bont Wyth Bwa a’r Parc Ceirw ar ochr arall y llyn.

Cam 3

Aildroediwch y llwybr i Barc y Porth. Cewch ddewis eich llwybr eich hun o blith y rhwydwaith o lwybrau drwy’r goedwig, ond cadwch olwg am y prif nodweddion wrth i chi grwydro o gwmpas. Yn gyntaf mae’r tŷ haf, a fyddai wedi bod yn amlwg drwy’r coed o’r llys.

Cam 4

Ewch i mewn i’r ardd flodau furiog drwy un o’r bylchau yn y wal. Roedd yr ardal hon wedi’i phlannu gyda gwelyau blodau tan y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cam 5

Chwiliwch am y sedd garreg. Allwch chi ddod o hyd i’r coed ginco gerllaw?

Cam 6

Fe welwch y tŷ iâ ar ymyl allanol y goedlan. Pydew dwfn (14 troedfedd/4.3 metr) yw hwn; byddai wedi cael ei leinio gyda cherrig a’i stwffio â haenau o wellt a’i bacio gyda rhew ar gyfer cadw bwyd. Heddiw mae’n cael ei ddefnyddio gan ystlumod.

Cam 7

O safle’r llys, mae stepiau serth yn arwain i lawr i’r Bont Gudd.

Cam 8

Gallwch adael Parc y Porth yn y fan hon i ymweld â’r ardd furiog.

Cam 9

Dychwelwch i’r maes parcio ar hyd unrhyw un o’r llwybrau nad ydych wedi eu cerdded eto.

Man gorffen

Maes parcio Llys Stagbwll, cyfeirnod grid: SR976963.

Map llwybr

Map o lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Map o lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll | © Crown copyright and database rights 2013. Ordnance Survey.

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Cangen orllewinol Llyn Bosherston, Sir Benfro
Llwybr
Llwybr

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll 

Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Ymwelydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yn Stagbwll
Llwybr
Llwybr

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll 

Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 6 (km: 9.6)
Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Llwybr
Llwybr

Llwybr beicio mynydd â Stad Stagbwll 

Darganfyddwch lwybr beicio mynydd 4 milltir o hyd drwy Stad Stagbwll yn Sir Benfro sy’n cynnig golygfeydd epig o’r coetir ar hyd cyfres o ddringfeydd, neidiau a throeon.

Gweithgareddau
Beicio
PellterMilltiroedd: 4.1 (km: 6.56)

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Elyrch ar Lynnau Stagbwll , Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Gwylio bywyd gwyllt â Stad Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)