Skip to content

Nadolig ym Mhlas Newydd

People with headphones on and Christmas jumpers at silent disco at Plas Newydd with portraits in background
Disgo tawel Nadolig ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/Paul Harris

Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer y Nadolig ym Mhlas Newydd 2024. Archebwch nawr i sicrhau eich dyddiad ac amser dewisol.

Gwisgwch eich esgidiau dawnsio'r Nadolig hwn. Mae gwahoddiad i bawb i ddisgo tawel yn yr Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd.

Dros 100 mlynedd yn ôl fe wnaeth yr ‘Ardalydd y Ddawns’, sef 5ed Marcwis Môn gynnal ei barti Nadolig ei hun yn yr union ystafell hon. Efallai bod ein dull o ddawnsio wedi newid ond mae’n dal i fod yn lle gwych ar gyfer dawnsio. Felly gwisgwch eich dillad parti gorau a dewch i ymuno â ni'r Nadolig hwn. O gerddoriaeth bop y 90au i ffefrynnau Nadolig y teulu, dewch â’ch clustffonau a dewiswch eich sianel gerddoriaeth cyn i chi ymgolli mewn dawns drwy’r dydd.

Archebwch eich tocynnau 2024 heddiw i sicrhau eich dyddiad ac amser dewisol.

Gwybodaeth hanfodol

Bydd Nadolig ym Mhlas Newydd 2024 yn rhedeg ar benwythnosau yn unig rhwng 30 Tachwedd a 29 Rhagfyr. Dyrennir tocynnau yn ôl amseroedd cychwyn cyfnodol a derbynnir tocynnau digidol neu wedi'i brintio.

Mae prisiau tocynnau ar gael yma ac mae costau mynediad arferol yn berthnasol.

Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Mae plant dan 5 yn cael mynediad am ddim, ond mae angen tocyn mynediad o hyd. Gellir archebu hyd at ddau docyn i ofalwr ochr yn ochr â thocyn talu ar gyfer y digwyddiad hwn.

Cyrraeddwch 10 munud cyn amser cychwyn y digwyddiad. Mae pob sesiwn disgo tawel yn para tua awr. Darperir clustffonau ac maent yn addas ar gyfer pob oedran.

Cynhelir y digwyddiad yn gyfan gwbl dan do. Anogir gwisgoedd parti, cofiwch wisgo'ch esgidiau dawnsio (i amddiffyn eich traed a'r llawr).

Amseroedd agor dros gyfnod y Nadolig

  • Gardd, Caffi a Siop penwythnosau yn unig: 10:30-16:00.
  • Ystafell Gerdd: Ar agor ar gyfer disgo tawel yn unig 11-15:00 
  • Tŷ ar gau
  • Ar gau 25 a 26 Rhagfyr.
Plant yn gwenu wrth dynnu llun gyda chlustffonau mewn disgo tawel ym Mhlas Newydd
Plant yn mwynhau disgo tawel ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/Paul Harris

Mynediad gwybodaeth

Llwybrau
Mae llwybr heb risiau i gyrraedd y Tŷ.

Seddi
Mae seddi cyfyngedig y tu mewn i'r Tŷ.

Cŵn a chŵn tywys
Mae croeso mawr i gŵn tywys a chŵn cymorth cofrestredig yn y digwyddiad hwn. Ni cheir mynediad i unrhyw gŵn eraill.

Cwestiynau hygyrchedd penodol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol yn ymwneud â hygyrchedd neu beth i’w ddisgwyl adeg y Nadolig ym Mhlas Newydd, rydym yn hapus iawn i helpu. Gallwch anfon e-bost atom yn plasnewydd@nationaltrust.org.uk 

Bwyd a diod Nadoligaidd

Os oes awydd bwyd arnoch, camwch i Gaffi'r Hen Laethdy lle cewch wledd o ddanteithion Nadoligaidd. Cewch fwynhau dewis eang o opsiynau, o De Prynhawn Nadolig i rôl Nadolig hyfryd, yn cynnwys dewisiadau figan a llysieuol. Tretiwch eich hun i un o’r ffefrynnau tymhorol, fel mins-pei, siocled poeth a gwin cynnes.

  • Mae’r Caffi ar agor 10–4.
  • Ar gau 25 and 26 Rhagfyr.

Siopa Nadolig

Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop ym Mhlas Newydd, sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau, nwyddau cartref, anrhegion hyfryd a bwydydd Nadolig.

Ar ben hynny, mae pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn ein siop yn aros ym Mhlas Newydd yn ein helpu ni i barhau i ofalu am y lle arbennig hwn i bawb, am byth – diolch am roi pefri ar ein Nadolig hefyd.

  • Mae'r Siop ar agor 10:30-4 .
  • Ar gau 25 a 26 Rhagfyr, 1 Ionawr.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

4 hot chocolates on a table in winter
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Teulu yn mwynhau'r Terasau yng ngardd Plas Newydd
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.