Skip to content
Golygfeydd o gefn gwlad a’r môr yn Stad Southwood yn Sir Benfro
Stad Southwood, Sir Benfro, gyda Bae San Ffraid yn y cefndir | © National Trust / Andrew Tuddenham
Wales

Taith bywyd gwyllt Stad Southwood

Dewch am dro drwy ffermydd Folkeston a Trefrane, yng nghanol Stad Southwood, lle mae’r caeau’n cael eu rheoli’n ofalus i gefnogi bioamrywiaeth bywyd gwyllt.

Cyfanswm y camau: 8

Cyfanswm y camau: 8

Man cychwyn

Maes parcio Maidenhall, cyfeirnod grid SM857202

Cam 1

Gan ddechrau eich taith ym maes parcio Maidenhall, croeswch yr heol a throi i’r chwith drwy gât y cae. Cerddwch ar hyd ymyl y can nes i chi ddod at bostyn marcio. O’r fan honno, dilynwch y saethau gwyrdd i ffwrdd o’r arfordir a thrwy sawl cae, sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt.

Cam 2

Dilynwch y llwybr sydd wedi’i farcio ag arwyddion gwyrdd. Byddwch yn mynd drwy fferm Trefrane, lle gallech weld gwartheg neu ferlod yn pori. Edmygwch y golygfeydd yn ôl tua fferm Southwood a dros draeth Niwgwl. Ewch yn eich blaenau drwy’r caeau glaswellt, sy’n cael eu rheoli’n ofalus er budd bywyd gwyllt.

Cam 3

Ar ôl cerdded drwy’r clawdd draenen ddu trwchus, lle mae golygfa wych o fferm Southwood yn y pellter, trowch i’r dde ac ewch drwy gât y cae i’r heol. Croeswch yr heol ac ewch i fferm Folkeston.

Cam 4

Dilynwch yr arwyddion i ymyl y dyffryn coediog, lle bydd gât bren arall yn mynd â chi i mewn i’r cae nesaf. Tua 350m ar draws y cae, dilynwch yr arwyddion gwyrdd i lawr y rhiw i fan croesi nant fas.

Cam 5

Ar ôl croesi’r nant, ewch i fyny’r llethr graddol a thrwy ardal lle mae brwyn yn tyfu. Fe welwch wartheg a defaid yn pori yma i gadw’r cynefin mewn cyflwr gwych. Ewch drwy’r gât ac ymlaen i gât bren yn y clawdd pellaf.

Cam 6

Ewch drwy’r gât ac i’r dde. Rydych chi nawr yn cerdded mewn ardal sydd wedi’i ffensio i rwystro anifeiliaid er mwyn i ni allu diogelu a lledaenu ein cloddiau ffiniol, gan alluogi bywyd gwyllt i ffynnu. Ariannwyd llawer o’r seilwaith yma gan Loteri Cod Post y Bobl, ac fe’i cwblhawyd gan Geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2021.

Cam 7

Wrth i chi adael y coridor sydd wedi’i ffensio, ewch yn syth ymlaen, drwy gât ac ar hyd y lôn, lle byddwch yn gadael tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cam 8

Wrth y gyffordd â’r heol, gallwch fynd i’r chwith neu’r dde. Trowch i’r chwith, ac ar ôl tua 30m fe welwch hawl tramwy cyhoeddus ar y chwith a fydd yn eich tywys yn ôl i bentref y Garn. Trowch i’r dde a dilyn yr heol, ac fe ddewch at bentref arfordirol Nolton Haven.

Man gorffen

Folkeston Road, cyfeirnod grid SM 87368 19960

Map llwybr

Map Arolwg Ordnans yn dangos taith bywyd gwyllt ar Stad Southwood, Sir Benfro
Taith bywyd gwyllt Stad Southwood | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Ymwelydd yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded arfordirol Penrhyn Marloes 

Llwybr cylchol gyda golygfeydd hyfryd o arfordir Sir Benfro sy’n berffaith ar gyfer gwylio bywyd gwyllt ar y tir a’r môr. A pheidiwch â cholli gweddillion caerau o Oes yr Haearn ar eich taith.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Yr olygfa o Garn Llidi dros Fae Porth Mawr, Sir Benfro, Cymru, gydag Ynys Dewi yn y pellter.
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi 

Dilynwch lwybr ar hyd pentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro, dafliad carreg o Dyddewi, i ddarganfod henebion cynhanesyddol ac adar amrywiol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.75 (km: 6)
Cerddwyr ar lwybr yr arfordir yn Nhreginnis yn Sir Benfro, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Treginnis o Borthclais 

Taith gerdded 6 milltir o amgylch pentir Treginnis yn Sir Benfro sy’n cynnwys rhai o ffurfiannau craig hynaf Cymru, caer o’r oes haearn, mwynglawdd copr o’r 19eg ganrif a harbwr hanesyddol Porthclais.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 6 (km: 9.6)

Cysylltwch

Newgale, Roch, Sir Benfro, SA62 6AR

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Erthygl
Erthygl

Sir Benfro 

Mae tirwedd Sir Benfro yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad, gyda thraethau eang, gwlyptiroedd toreithiog ac ynysoedd creigiog i chi eu darganfod.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Visitor crossing water via stepping stones with their dog on an autumnal walk at Wallington

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.