Darganfyddwch fwy yn Stagbwll
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych yn dod â’ch ci i Stad Stagbwll, mae’n bwysig gwybod ymlaen llaw pa bryd a ble y cewch ymweld. Croesawir cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn Stagbwll drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi fynd am dro gyda'ch cyfaill pedair coes yn ystod eich ymweliad. Helpwch i sicrhau bod Stagbwll yn parhau i fod yn rhywle gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci dan reolaeth agos, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio pawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Stagbwll wedi'i graddio ag un bawen.
Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau gwastraff cŵn a llwybrau cerdded sy'n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â'ch ci i rai mannau, ond nid i bobman. Os oes safle bwyd a diod, gallwch gael paned o de gyda nhw, y tu allan mae'n debyg. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.
Mae croeso i gŵn ledled Ystad ehangach Stagbwll, ar hyd y llwybr arfordir o Gei Stagbwll, ac ar y traeth ym Mae Barafundle, Broad Haven South a Freshwater West drwy gydol y flwyddyn.
Gellir hefyd mynd â nhw y tu mewn i dderbynfeydd ymwelwyr, yr ystafell arddangos, mannau picnic dan do ac ystafell de y Tŷ Cychod.
Mae nifer fawr o lwybrau cerdded gwych ledled ystad Stagbwll sy'n ddelfrydol i fynd ar antur gyda'ch ci drwy gydol y flwyddyn. Mae'r llwybrau hyn yn cymryd rhwng awr a thair awr i'w cerdded. Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr.
Mae powlenni dŵr ar gael y tu allan i bob bloc toiled ac mae digonedd o finiau ar gyfer gwastraff cŵn ledled yr ystad.
Mae llawer o anifeiliaid fferm ledled Ystad Stagbwll, gan gynnwys gwartheg, a merlod o bryd i'w gilydd. Mae'r ystad hefyd yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar dŵr ac adar sy'n nythu ar y tir. Rydym yn gofyn ichi gadw eich ci dan reolaeth agos ac ar dennyn os oes angen. Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod. Siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.
Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.