
Llwybr Cleidda a Choed y Bwnydd
Crwydrwch drwy ystâd o’r 18fed ganrif gan fwynhau bywyd gwyllt toreithiog Afon Wysg a Choed y Bwnydd – un o fryngaerau mwyaf a gorau Sir Fynwy. Mae golygfeydd godidog o fynydd Pen-y-fâl, eangderau Dyffryn Wysg a Chastell Cleidda, un o ffoleddau gorau Cymru o’r 18fed ganrif.
At eich sylw
Mae rhannau o’r daith gerdded hon yn croesi tir nad yw o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio glan afon Cleidda. Cyfeirnod grid: SO361085.
Cam 1
O’r maes parcio, ewch drwy’r gât i’r dde o’r panel dehongli a cherddwch nes i chi gyrraedd gât mochyn ar y chwith wrth i’r llwybr droi i’r dde. Ewch drwy’r gât mochyn ar y chwith a dilynwch farcwyr Llwybr Dyffryn Wysg. Mae’r llwybr yn rhedeg ar lan yr afon am tua 1.8 milltir (3km) nes i chi gyrraedd heol wrth y bont grog.
Cam 2
Trowch i’r chwith i fyny’r heol a cherdded am 0.6 milltir (1km). Ar ben y bryn, dilynwch yr heol i Fetws Newydd a throwch i’r dde wrth y gyffordd, gan gadw tafarn y Black Bear i’r dde ohonoch. Cerddwch am 300m, yna trowch i’r chwith i’r lôn sy’n arwain at yr eglwys.
Cam 3
Ewch drwy gatiau’r eglwys ac ym mhen pellaf y fynwent, ewch dros y gamfa. Trowch i’r dde ac yna i’r chwith ar unwaith, a cherddwch nes i chi gyrraedd camfa ar eich chwith. Ewch i fyny’r llethr, croeswch y gamfa, ac ewch i lawr yr heol ar ochr arall y bryn. Dilynwch y lôn gul i fyny’r bryn rhwng dau adeilad nes i chi gyrraedd bryngaer Coed y Bwnydd ar eich chwith. Dilynwch y llwybr cylchol i’r chwith o gwmpas y fryngaer a dychwelwch at gât cae wrth fynedfa wreiddiol y gaer, gyferbyn â sgubor gerrig.
Cam 4
Ewch drwy’r gât mochyn a dilynwch y llwybr caniataol ar draws y cae, gan gadw’r sgubor gerrig i’r dde ohonoch. Ym mhen draw’r cae, croeswch y gamfa i Lôn Bryn Cleidda. Trowch i’r chwith i’r lôn a daliwch i gerdded, gan fynd i’r chwith lle mae’r lôn yn gwahanu nes i chi gyrraedd gât mochyn ar y chwith yn y clawdd. Ewch drwy’r gât mochyn a dilynwch y llwybr i lawr y bryn glaswelltog, drwy’r bwlch yn y rhes o goed a thros ddwy gamfa nes i chi gyrraedd y coed y tu ôl i Gastell Cleidda. Dilynwch yr arwyddion pren ar gyfer Cleidda nes i chi ddod at drac yn y coed sy’n arwain at fynedfa Castell Cleidda. Byddwch yn ystyrlon o unrhyw un sy’n aros yn y castell, os gwelwch yn dda.
Cam 5
Ar ddiwrnod clir, mwynhewch y golygfeydd o Ben-y-fâl ac Ysgyryd Fawr ym mhen dwyreiniol y Mynyddoedd Duon. Ar ôl edmygu’r olygfa, dilynwch y trac y tu ôl i’r castell drwy’r coed at gât bren, ac i barc Stad Cleidda. Cerddwch ar hyd y trac glaswelltog uwchben y coed at rodfa. Croeswch y rhodfa, gan gadw’r coed a’r ffens i’r dde ohonoch, a dilynwch y llinell o goed yn lletraws i fyny bryn at gât yng nghornel y cae. Dilynwch arwyddion y llwybr drwy dair gât ac i lawr grisiau serth i’r heol.
Cam 6
Croeswch y ffordd yn ofalus i’r heol sy’n troi tuag at y Clytha Arms yr ochr draw. Ewch drwy’r gât fetel o’ch blaen a thros y gamfa ar y dde. Dilynwch arwyddion y llwybr ar draws sawl cae, gan groesi dwy gamfa a mynd drwy gât, nes i chi gyrraedd hen dderwen hynafol fawr yng nghornel y cae, gyda Chapel Farm i’r chwith ohonoch. Y ffermdy gwych hwn, sy’n dyddio o ddiwedd yr oesoedd canol, yw un o’r adeiladau hynaf sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cam 7
Ewch drwy’r gât mochyn a chroesi’r trac i mewn i’r coed. Dilynwch y llwybr y tu ôl i’r clawdd i’r chwith ohonoch, gan igam-ogamu drwy’r coetir nes i chi ddod at drac arall. Trowch i’r chwith ac yna i’r dde ar unwaith. Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y coetir am 400m. Cyn i’r llwybr arwain yn ôl i lawr i mewn i’r coed, mwynhewch yr olygfa o Gastell Cleidda i’r chwith.
Cam 8
Dilynwch y llwybr i lawr i’r coed, gan ddilyn yr arwyddion gyda Nant Clawdd i’r dde ohonoch. Ewch drwy gât mochyn i mewn i gae, trowch i’r dde a phasiwch gefn Rose Cottage, gan gadw’r coetir i’r dde ohonoch, a throwch i’r dde wrth i chi fynd drwy’r gât fechan, gan basio hen ddoc corddi llaeth sy’n arwain at y brif ffordd. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd, ac ewch drwy’r gât fetel fechan. Trowch i’r dde a dilynwch y llwybr ar hyd y rheiliau, gan droi i’r chwith i ddilyn ffens a mynd drwy gât i’r afon. Rydych chi nawr yn ôl ar Lwybr Dyffryn Wysg. Dilynwch y llwybr gyda’r afon i’r dde ohonoch. Ar ôl troad siarp i’r chwith, dilynwch y trac yn ôl i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio glan afon Cleidda. Cyfeirnod grid: SO361085.
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Ysgyryd Fawr ym Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Heriwch fynydd o chwedlau ar y llwybr heriol hwn a fydd yn eich tywys i gopa Ysgyryd Fawr.

Cylchdaith fer Cleidda yn Nyffryn Wysg
Darganfyddwch yr ystâd oesol hon yn Sir Fynwy ar gylchdaith fer hawdd. Mwynhewch olygfeydd godidog o Ben-y-fâl a Dyffryn Wysg. Mae’n lle llawn hanes ac yn fwrlwm o fywyd gwyllt.

Llwybr Darganfod y Cymin
Mwynhewch olygfeydd godidog dros Gymru a Lloegr, yn ogystal â dau adeilad Sioraidd, wrth i chi gerdded yn ôl traed yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton ar y daith gerdded hawdd hon.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymwelwch â Stad Cleidda
Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.

Ymweld â Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg gyda'ch ci
Dewch i fwynhau golygfeydd panoramig de Cymru o fynydd Pen-y-fâl, Ysgyryd Fawr a’r Cymin gyda’ch cyfaill pedair coes.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.