
Cylchdaith fer Cleidda yn Nyffryn Wysg
Darganfyddwch ystâd oesol yn Sir Fynwy a mwynhau golygfeydd ysgubol o Ben-y-fâl a Dyffryn Wysg ar y gylchdaith hon. Mae’n lle llawn hanes ac yn fwrlwm o fywyd gwyllt.
Gwlyb dan draed
Gall rhai ardaloedd fynd yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch sgidiau addas.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio glan afon Cleidda SO361085
Cam 1
O’r maes parcio, ewch drwy’r gât i’r dde o’r panel dehongli ac ymlaen am 220 llath (200m). Dilynwch y llwybr rownd i’r dde ac ar hyd glannau Afon Wysg. Ar ôl tua 660 llath (600m), ewch drwy’r ail gât ar y dde (lle mae gwrthbwys carreg) ac ewch i fyny’r bryn yn raddol ac o gwmpas ymyl y cae at y wiced (gât fechan) fetel sy’n arwain at y ffordd.
Cam 2
Dilynwch yr arwyddion drwy Goed Twyn y Cregan, gan ddilyn Nant Clawdd, cyn pasio’n agos at yr A40 a dringo at ymyl y coed. Cyn troi i’r chwith, mwynhewch y golygfeydd ar draws Parc Cleidda i Gastell Cleidda. Mae’r llwybr nawr yn dilyn trac ar hyd ymyl y coed, gyda pharcdir i’r dde ohonoch. Ar ôl 440 llath (400m) fe ddewch at drac arall. Trowch i’r chwith (cofiwch nad oes Hawl Tramwy Cyhoeddus drwy fuarth y fferm), ac yna i’r dde ar unwaith a dilyn llwybr sy’n ymdroelli drwy’r coed. Mae’r llwybr yn dod allan y tu ôl i glawdd wrth ymyl trac. Lle mae’r clawdd yn gorffen, croeswch y trac yn lletraws, i’r chwith at gât mochyn sy’n arwain at gae ger coeden dderwen fawr. Os gwelwch chi eich bod wrth gefn Chapel Farm, bydd angen i chi droi rownd a dod o hyd i’r gât mochyn ar y dde.
Cam 3
Gan gadw’r dderwen i’r chwith ohonoch, dilynwch y llwybr ar draws y cae at gamfa. Wrth i chi groesi’r cae, fe welwch nifer o gerrig ar y chwith. Dyma adfeilion Capel Aeddan a sefydlwyd ym 1188 gan Aeddan ap Gwaithfoed. Ar ôl croesi’r gamfa gyntaf daliwch ati i ddilyn yr arwyddion drwy sawl cae a gât. Yn y pen draw, fe ddewch at farchgae (neu badog). Cerddwch i gornel dde uchaf y cae hwn ac ewch dros y gamfa. Dilynwch darn byr o drac at gât fetel ger y ffordd. I’r chwith ohonoch mae’r rhodfa sy’n arwain at dafarn y Clytha Arms. Croeswch y ffordd yn ofalus iawn at risiau carreg serth sy’n dringo i dop bancyn lle mae’r daith yn parhau.
Cam 4
Ar ôl mynd drwy’r gât ar frig y grisiau, cadwch i’r dde wrth ymyl y caeau a pharhewch i ddilyn yr arwyddion dros gwpl o gamfeydd ac i’r dde drwy’r gât yn ôl i Barc Cleidda ar ben bryn bach. Dilynwch linell y pisgwydd yn lletraws i lawr at drac concrit. Roedd y coed hyn yn rhan o rodfa’n arwain at Gastell Cleidda o Dŷ Cleidda ers talwm. Pan gyrhaeddwch y trac, trowch i’r chwith, gan ddilyn y trac i fyny’r llethr a chadw i’r dde lle mae’r llwybr yn gwahanu, gan gerdded tuag at y castell. Ewch drwy gât fetel, ar draws y trac, ac i mewn i Goed y Castell. Mae’r trac yn eich tywys i fyny at Gastell Cleidda. Byddwch yn ystyrlon o unrhyw un sy’n aros yn y castell, os gwelwch yn dda.
Cam 5
Dilynwch yr arwyddion pren sy’n eich cyfeirio ar hyd y trac sy’n arwain lawr rhiw y tu ôl i’r Castell. Ewch drwy’r gât bren ar ymyl Coed y Castell ac yn ôl i’r parcdir. Mae’r llwybr yn dilyn trac glaswelltog i lawr llethr ar hyd cefnen bancyn serth lle mae ‘na goed gwasgaredig. Lle mae’r coed yn dod i ben, trowch i’r chwith, ‘nôl o dan y bancyn, gyda’r parcdir i’r dde ohonoch. Ar ôl 220 llath (200m) ewch i’r dde ac i lawr y llethr nes i chi gyrraedd gât fetel fechan ger y ffordd. Ewch drwy’r gât, trowch i’r chwith ar unwaith a cherddwch ar hyd y ffordd am 50m ac yna trowch i’r dde yn ôl i’r maes parcio lle dechreuoch chi eich taith.
Man gorffen
Maes parcio glan afon Cleidda SO361085
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr Ysgyryd Fawr ym Mynydd Pen-y-fâl a Dyffryn Wysg
Heriwch fynydd o chwedlau ar y llwybr heriol hwn a fydd yn eich tywys i gopa Ysgyryd Fawr.
Taith Glyn Tarell Uchaf
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.

Llwybr Darganfod y Cymin
Mwynhewch olygfeydd godidog dros Gymru a Lloegr, yn ogystal â dau adeilad Sioraidd, wrth i chi gerdded yn ôl traed yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton ar y daith gerdded hawdd hon.

Llwybr Cleidda a Choed y Bwnydd
Llwybr 7.5 milltir ar hyd glannau Afon Wysg sy’n ymweld â bryngaer Coed y Bwnydd a Chastell Cleidda, ffoledd o’r 18fed ganrif.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymwelwch â Stad Cleidda
Mae llwybrau cerdded yn cris-croesi’r ystâd ac yn ymestyn ar hyd glannau Afon Wysg, ac mae yma berffeithrwydd pensaernïol i’ch rhyfeddu hefyd yn Nhŷ Cleidda a Chastell Cleidda.

Hanes a chwedlau Ysgyryd Fawr
Dysgwch am chwedlau a mythau Ysgyryd Fawr a’r cyffiniau, gan gynnwys sut cafodd y Mynydd Sanctaidd ei enw a sut ffurfiwyd y mynydd gan gawr.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.