Skip to content

Ymweliadau grŵp â Thŷ Tredegar

Visitors in the garden in May at Tredegar House, South Wales
Visitors in the garden in May at Tredegar House, South Wales | © Trevor Ray Hart

Rydym yn croesawu ymweliadau grŵp sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw yn Nhŷ Tredegar. Gyda phlasty brics coch trawiadol a 90 erw o erddi a pharcdir yn ei amgylchynu, mae digon i’w ddysgu am ei hanes unigryw ac amrywiol.

Ymweliadau grŵp â Thŷ Tredegar

Dafliad carreg o’r M4, a gyda 90 erw o erddi a pharcdir i’w darganfod, mae’r hanesyddol Dŷ Tredegar yn lle cyfleus i alw ar eich ymweliad â de Cymru.  

Trefnu eich ymweliad

Gofynnwn i bob ymweliad grŵp â Thŷ Tredegar gael ei drefnu ymlaen llaw gyda’n tîm. Mae croeso i un grŵp ymweld bob dydd a gall y staff roi gwybod i chi os ydyn ni’n disgwyl bod yn arbennig o brysur (yn ystod gwyliau ysgol neu ddigwyddiadau penodol, er enghraifft).  

Gallwch archebu ymlaen llaw drwy ein e-bostio yn tredegar@nationaltrust.org.uk gyda’ch dyddiad a’ch gofynion.  

Tra’ch bod chi yma

Er nad ydym yn cynnig teithiau preifat ar hyn o bryd, mae digon i’w ddarganfod tra’ch bod chi yma.  

Dechreuwch drwy gofrestru gyda’n tîm wrth y dderbynfa ymwelwyr cyn cael diod hyfryd yng Nghaffi’r Bragdy. Yna gallwch fynd am dro drwy’r gerddi ffurfiol gwych, cael golwg ar y bloc stablau enfawr a’r orendy hudol cyn ymweld â’r plasty brics coch trawiadol.

A woman in National Trust uniform welcoming a visitor with a map
Volunteer to greet visitors when they arrive | © National Trust Images/Aled Llywelyn

Darganfod y tŷ a thu hwnt

Mae’r tîm brwdfrydig o wirfoddolwyr i’w gweld ym mhob rhan o’r tŷ i esbonio mwy am hanes unigryw’r safle, adrodd straeon cyffrous am y teulu Morgan ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Mae ymwelwyr fel arfer yn treulio tua dwy awr yn crwydro’r tŷ a’r gerddi.  

Wrth i chi adael y tŷ drwy goridor y gegin, byddwch wrth y caffi unwaith eto. Gallwch aros yma i ymlacio gyda brechdan, pastai neu ddarn o gacen cyn mynd am dro ar lan y llyn ac o gwmpas y parcdir helaeth i weld beth sy’n weddill o ystâd grand y teulu Morgan.  

Mae croeso chi dreulio cymaint o amser ag y dymunwch yn Nhŷ Tredegar, ond rydym fel arfer yn awgrymu eich bod yn caniatáu hanner diwrnod i grwydro’r safle trawiadol hwn. Cymerwch olwg ar ein horiau agor cyn trefnu ymweliad, gan eu bod yn newid gyda’r tymhorau.   

Mynediad

  • Mae yna ardal barcio bwrpasol i fysiau a deiliaid bathodyn glas yn agos at y dderbynfa. 
  • Mae dwy gadair olwyn ar gael i ymwelwyr eu defnyddio (rhaid archebu ymlaen llaw). 
  • Mae caffi’r Bragdy yn hollol hygyrch. 
  • Gallai mynediad i lawr cyntaf y plasty fod yn gyfyngedig i rai ymwelwyr sydd ag anawsterau symudedd, gan fod nifer o risiau’n arwain ato. 
  • Cofiwch, er bod y parc yn hygyrch, mae arwynebau anwastad mewn rhai ardaloedd o’r coetir, a gall fod yn wlyb iawn yn ystod cyfnodau o dywydd gwael. 
  • Dylai ymwelwyr sydd ag anawsterau symudedd gysylltu â Thŷ Tredegar cyn ymweld.
Golygfa o wedd ogledd-orllewinol Tŷ Tredegar, Casnewydd, o’r tu allan i’w gatiau haearn gyr du ac aur addurniadol.

Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar

Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar  ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A view of the front of the red mansion house
Erthygl
Erthygl

Pethau i’w gwneud yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Dau blentyn yn cymryd golwg agosach ar arlleg yn tyfu yn yr ardd yn Nhŷ Tredegar, de Cymru, yn ystod mis Mai.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Nhŷ Tredegar 

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.

Golygfa o lan y Llyn yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, yn edrych drwy ddail tuag at y Tŷ Cychod.
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parcdir yn Nhŷ Tredegar 

Dysgwch am y pethau gorau i’w gweld a’u gwneud ar eich ymweliad â’r parcdir yn Nhŷ Tredegar a darllenwch ein canllaw i sicrhau bod eich ymweliad yn un diogel a hwyliog.

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Nhŷ Tredegar 

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cŵn bach yn yr ardd
Erthygl
Erthygl

Dod â'ch ci i Dŷ Tredegar 

Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.

Llun mawr, hirgrwn ar y nenfwd plastr addurniadol yw canolbwynt yr Ystafell Aur yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, sydd wedi’i haddurno’n goeth gyda lluniau â fframiau aur ar y waliau, a chadeiriau wedi’u clustogi â ffabrig porffor.
Erthygl
Erthygl

Hanes Tŷ Tredegar  

Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.   Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.