Taith Cwm Idwal
Mae’r daith gerdded eithaf heriol hon yn cynnig rhai o’r golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig yng Ngwarchodfa Natur hynaf Cymru. Archwiliwch y Cwm Idwal hardd a gerfiwyd gan rew – pant ar ffurf bowlen yn llawn o ddyfroedd clir fel grisial Llyn Idwal, sy’n fyd-enwog am ffurfiau’r creigiau a phlanhigion prin a bregus.
Osgoi pryderon parcio trwy neidio ar y bws
Ar adegau prysur, mae'r lleoedd parcio cyfyngedig yn llenwi'n gyflym. Cofiwch bod y gwasanaeth bws T10 yn rhedeg yn aml rhwng Bangor a Chorwen. Am fanylion pellach, gweler yr adran 'Cyrraedd yno' isod.
Cyfanswm y camau: 11
Cyfanswm y camau: 11
Man cychwyn
Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, cyfeirnod grid: SH 650603
Cam 1
O Ganolfan Wardeiniaid Bwthyn Ogwen, cerddwch tua’r gorllewin am 93 llath (85m) yn fras dros y bont at Canolfan Cwm Idwal. Y grisiau i’r chwith o’r adeilad yw man cychwyn y llwybr sy’n dringo’n serth ar adegau am tua 56 llath (50m) trwy’r grug, tuag at giât y mynydd.
Cam 2
Daliwch i fynd trwy’r giât a dros y bont dderw. Gosodwyd pont dderw newydd yn haf 2010 wedi ei chreu o dderw digoes a gynaeafwyd yn gynaliadwy o dir Plas Newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw. Mae’r bont yn cynnig cyfle perffaith i dynnu llun copa’r Garn, gydag Afon Idwal yn y blaendir.
Cam 3
Mae’r llwybr yn dolennu i gyfeiriad y de-ddwyrain am 550 llath (500m) cyn cyrraedd cyffordd. Dilynwch y llwybr ar y dde i gyfeiriad y gorllewin ar hyd y llwybr mwy ffurfiol ag wyneb carreg, a’i ddilyn am 550 llath (500m) arall at y llyn.
Cam 4
Wrth Lyn Idwal gallwch ddewis llwybr clocwedd neu wrthglocwedd o gwmpas y warchodfa natur. Mae’r canllaw yma yn mynd â chi ar y dewis clocwedd. Cyn cychwyn ar hyd glan ddwyreiniol y llyn, edrychwch i’r chwith, ychydig lathenni uwch ben y llwybr. Yma fe welwch gasgliad o gerrig mawr a elwir yn Glogfeini Darwin neu’r ‘Darwin Idwal Boulders’ yn Saesneg.
Cam 5
Dilyna’r llwybr hwn lan y llyn tua’r de am 550 llath (500m), nes y cyrhaeddwch chi giât trwy wal. Cadw anifeiliaid sy’n pori allan o’r warchodfa natur yw bwriad y wal er mwyn i lystyfiant naturiol yr ucheldir adfywio. Gyferbyn â’r wal mae ynys fechan o gerrig yn y llyn. Mae’r llystyfiant sy’n tyfu yno yn rhoi cip i ni ar sut y gall y Cwm ymddangos yn y blynyddoedd sydd i ddod, heb ddefaid a gwartheg yn ei bori.
Cam 6
Ar ôl mynd trwy’r giât mae’r llwybr yn dechrau codi’n raddol wrth i chi ddringo dros dwmpathau o falurion cerrig (marianau) a adawyd wrth i’r rhewlif adael y cwm tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cam 7
Rydych yn awr yn nesu at y Slabiau Cwm Idwal enwog, man hyfforddi i lawer o fynyddwyr arloesol gan gynnwys concwerwr Everest, Edmund Hillary a’i gyd-ddringwr o Gymru, Charles Evans. Tua 55 llath (50m) cyn gwaelod y Slabiau, dilynwch y llwybr i lawr i’r dde tuag at ardal wastad, gan ddefnyddio’r cerrig camu i groesi nentydd. DS: Gallwch ddilyn llwybr uchel o’r gyffordd hon trwy ddilyn y llwybr tuag at Slabiau Cwm Idwal ac i fyny tuag at droed y clogwyn uwch ben. Dim ond cerddwyr mynydd medrus ddylai geisio dilyn y llwybr yma gan ei fod yn cynnwys tir garw a serth iawn.
Cam 8
Edrychwch i fyny i’r chwith ac fe welwch y clogwyni serth sy’n ffurfio cefnfur Cwm Idwal, a elwir yn ‘Dwll Du’.
Cam 9
Mae’r llwybr yn codi’n raddol nes i chi gyrraedd y gyffordd gyda’r llwybr uchaf wrth iddo ddisgyn trwy’r llethr o glogfeini. Trowch i’r dde i’r llwybr hwn a cherddwch i ardal o dwmpathau grug.
Cam 10
Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy’r marianau cyn disgyn yn araf tuag at lan y llyn. Ar ôl i chi groesi’r bont droed dros Afon Clyd, sy’n llifo’n serth o ddyffryn crog ar eich ochr chwith, ewch trwy’r giât yn y wal. Rydych nawr ar draeth graeanog ar lan ogledd-orllewinol Llyn Idwal. Cymerwch funud i edrych nôl ar gefn y Cwm ac edmygu mawredd yr amffitheatr naturiol hon. Ceisiwch ddychmygu'r ardal dan flanced o iâ gannoedd o fetrau o drwch, ddim ond gan canrif yn ôl.
Cam 11
Dilynwch lan y llyn tua’r dwyrain, nes i chi gyrraedd giât drwy wal, sy’n arwain at bont lechi sy’n croesi Afon Idwal wrth iddi lifo allan o’r llyn. Ar ôl i chi groesi hon, byddwch wedi cwblhau’r daith gylchol o amgylch y llyn ac yna gallwch ddilyn y llwybr y gwnaethoch ei ddilyn ar y dechrau yn ôl i’r maes parcio yng Nghanolfan Wardeiniaid Bwthyn Ogwen.
Man gorffen
Bwthyn Ogwen a Chanolfan y Wardeiniaid, cyfeirnod grid: SH 650603
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gylchol Llyn Ogwen
Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.
Taith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan
Archwiliwch fwlch Aberglaslyn, dyfroedd Llyn Dinas, pentref hardd Beddgelert a gwaith copr Cwm Bychan ar y llwybr heriol hwn yn Eryri.
Bws Ogwen
Ffordd i osgoi problemau parcio a theithio'n fwy cynaliadwy gyda Bws Ogwen, gwasanaeth bws trydan lleol sy'n rhedeg rhwng Bethesda a Chapel Curig. Tocynnau dwyffordd: Oedolyn - £3, plentyn £2 (dan 2 am ddim). Croeso i gŵn. Mynediad cadair olwyn ar gael, e-bostiwch cludiant@ogwen.org i drefnu ymlaen llaw.
Cysylltwch
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded a dringo ar Dryfan
Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.
Hanes a chwedlau Cwm Idwal
Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Bythynnod gwyliau yn Eryri
Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.