Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn. Mae’n hanes o gam-fanteisio ar bobl, gwneud ffortiwn ym mhlanhigfeydd siwgr Jamaica, a masnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd. Dysgwch sut y defnyddiwyd y cyfoeth a wnaed o’r fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd i adeiladu Castell Penrhyn a’i fuddsoddi yn y gymuned leol.
Yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Gifford Pennant, a ddeuai’n wreiddiol o Sir y Fflint, brynu tir yn Jamaica a daeth yn berchennog ar un o stadau mwyaf yr ynys – ugain gwaith yn fwy na’r rhai cyffredin.
Daeth ei fab, Edward (1672-1736), yn Brif Ustus Jamaica; ymhen amser daeth un o feibion Edward, Samuel (1709-50), yn Arglwydd Faer Llundain, ac ychwanegodd mab arall, John (m.1782), hyd yn oed fwy o dir at yr ystâd yn Jamaica trwy briodi’n ddoeth.
Erbyn yr 1700au, roedd y teulu Pennant wedi dychwelyd i Brydain ac erbyn i Richard Pennant (1739-1808) ddod yn farwn cyntaf Penrhyn, roeddent yn rheoli eu heiddo yn Jamaica trwy lythyr.
Wrth i’r ystâd dyfu, roedd nifer y caethweision yn cynyddu. Erbyn 1805, roedd Richard Pennant yn berchen ar bron i 1000 o gaethweision ar draws ei bedair planhigfa yn Jamaica. Roedd hynny’n cyfateb i gyfartaledd o 250 o bobl ar bob planhigfa mewn cymhariaeth â’r cyfartaledd yn Jamaica o 150.
Nid oedd erioed wedi ymweld â Jamaica na gweld caethwasiaeth ar waith ei hun, ac mae ei lythyrau sy'n rhoi cyfarwyddiadau i reolwyr yr ystâd yn rhoi cipolwg glir i ni o’i agweddau at fywyd yn y planhigfeydd ac at y caethweision yr oedd yn berchen arnynt.
Yn hytrach na chyfeirio at y caethweision fel pobl, mae’n eu galw yn ‘chattels’, sef y term y byddai’n ei ddefnyddio ar gyfer gwartheg hefyd. Mewn un llythyr mae’r agwedd hon yn glir:
- Richard Pennant
Er gwaetha’i gysylltiadau â chaethwasiaeth, roedd yn cael ei alw’n “Richard Pennant the Improver” am ei fod yn buddsoddi ei ffortiwn yn ei ystâd yn y gogledd.
Talodd arian o Jamaica am ffyrdd, rheilffyrdd, tai, ysgolion a Chwarel y Penrhyn, a fu ar un adeg yn chwarel lechi fwyaf y byd ac a newidiodd dirwedd y gogledd am byth.
- Teyrnged Richard Pennant, Gentleman’s Magazine (1808, td. 170)
Daeth Pennant yn Aelod Seneddol Petersfield yn 1761 a, chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth yn un o ddau Aelod Seneddol Lerpwl, a oedd erbyn hynny’n brif borthladd y fasnach gaethwasiaeth ym Mhrydain.
Trwy ei gysylltiadau teuluol, byd busnes a gwleidyddol, daeth Pennant yn rhan o rwydwaith grymus a dylanwadol a oedd o blaid caethwasiaeth ac roedd ganddo gysylltiadau â bron bob un o berchnogion absennol Prydeinig y planhigfeydd.
Daeth Pennant yn gadeirydd ar y ‘West India Committee’, sefydliad o fasnachwyr a pherchnogion planhigfeydd, ac o 1788 ymlaen ef oedd cadeirydd is-bwyllgor arbennig i drefnu gwrthwynebiad i ddiddymu caethwasiaeth.
Roedd ei dactegau’n cynnwys noddi deisebau i’r senedd a chyhoeddi taflenni o blaid y fasnach gaethwasiaeth ac yn esbonio’r manteision economaidd.
Defnyddiai Richard ei safle fel Aelod Seneddol Lerpwl i ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin yn erbyn diddymu’r fasnach gaethweision.
- Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn, yn annerch trafodaeth y Senedd ar Ddiddymu Caethwasiaeth (1789)
Cofnodir ei anerchiadau seneddol yn Hansard wrth iddo frwydro’n groch yn erbyn y diddymu. Dadleuai Pennant y byddai dileu’r fasnach yn golygu na châi morwyr ifanc gyfle i ymarfer eu crefft ac roedd yn gwadu’n bendant bod cludo caethweision o Affrica dros fôr Iwerydd yn greulon.
Amcangyfrifir bod rhwng 10 a 30% o’r rhai a gludwyd yn marw ar y daith.
Er gwaetha’r gwrthwynebiad, llwyddodd y Senedd, ar 25 Mawrth 1807, i wahardd y fasnach gaethwasiaeth yn yr ymerodraeth Brydeinig. Er bod Richard Pennant wedi marw erbyn hynny, gwaharddwyd cludo caethweision i Jamaica ym mis Mawrth 1808.
Rhwng 1833 a 1838, gwaharddwyd caethwasiaeth yn holl drefedigaethau Prydain, ac wrth i waith adeiladu Castell Penrhyn ddod i ben, cafodd teulu Pennant £14,683 17s 2d (tua £1.3 miliwn heddiw) am ryddhau 764 o gaethweision yn Jamaica.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Darllenwch ein hadroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol yn y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt a dysgwch sut rydym yn newid ein ffordd o ymdrin â’r materion hyn. (Saesneg yn unig)