Taith forol Porthdinllaen ar Benrhyn Llŷn
Bydd y daith hon yn eich gwobrwyo gyda golygfeydd trawiadol ym mhob cyfeiriad wrth i chi ddilyn ewin o dir sy’n hafan eithriadol i fywyd gwyllt.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio ym Morfa Nefyn, cyfeirnod grid: SH281406
Cam 1
Anelwch i ben pellaf y maes parcio, oddi yno cewch olygfeydd gwych ar draws y bae tua Phistyll a Threfor. Ewch yn eich blaen i lawr i’r traeth.
Cam 2
Trowch i’r chwith i’r tywod a dilyn y traeth am tua hanner milltir (0.8km) nes cyrhaeddwch chi amddiffynfeydd môr heb eu gorffen.
Cam 3
Daliwch i fynd ar hyd y tywod nes cyrhaeddwch chi ddarn o dir sy’n ymwthio i’r traeth. Defnyddid y safle hwn i adeiladu llongau yn yr 1830au a’r 40au, pan oedd y diwydiant llechi yng Nghaernarfon yn ei fri.
Cam 4
Ewch ymlaen o gwmpas y trwyn tua phentref Porthdinllaen a thafarn drawiadol Tŷ Coch.
Cam 5
Wrth i chi gerdded o flaen Tŷ Coch edrychwch ar hyd llinell y llanw am forwellt wedi ei olchi ar y traeth.
Cam 6
Ewch ymlaen heibio Caban Griff (pwynt gwybodaeth bychan) ar hyd y llwybr sy’n mynd ar draws y creigiau.
Cam 7
Ewch i fyny’r llethr serth heibio’r orsaf bad achub ac i’r cwrs golff. Cewch olygfa wych ar draws y bae o’r fan hon.
Cam 8
Dilynwch y trac yn ôl dros y cwrs golff tua’r tir mawr. Pan gyrhaeddwch chi adeilad y clwb golff, ewch ymlaen trwy faes parcio’r clwb golff yn ôl tuag at Forfa Nefyn. Trowch i’r chwith i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle gwnaethoch gychwyn eich taith.
Man gorffen
Maes parcio ym Morfa Nefyn, cyfeirnod grid: SH281406
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gerdded Llanbedrog
Bydd y daith hon trwy goetir i fyny i Fynydd Tir-y-Cwmwd yn cynnig golygfeydd rhyfeddol o’r penrhyn a Bae Ceredigion.
Taith Porthor
Mae’r golygfeydd yn rhyfeddol ar hyd yr arfordir garw hwn ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hon yn daith wych i amgyffred peth o hanes a threftadaeth yr ardal.
Taith chwedlonol Dinas Emrys
Mwynhewch daith gerdded ddymunol heibio rhaeadrau a thrwy goetir derw hardd i gyrraedd copa’r bryn chwedlonol yma, lle bu Myrddin unwaith a lle mae draig yn dal i gysgu.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Ymwelwch â’n gwarchodfeydd natur
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am rai o warchodfeydd natur pwysicaf y DU, ac wrth wneud hynny’n gofalu am gyfoeth ac amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion. Dysgwch fwy am y llefydd arbennig hyn a sut i ymweld â nhw. (Saesneg yn unig)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch (Saesneg yn unig).