
Taith Coed y Ffwrnes a’r Ddôl, Gardd Bodnant
Yng nghanol 80 erw Gardd Bodnant, bydd y daith ar ochr bryn trwy Goed y Ffwrnes a’r Ddôl yn eich arwain i fannau uchel ac yn cynnig golygfeydd panoramig.
Coed y Ffwrnes a’r ddôl yn parhau ar gau ar ôl Storm Darragh
Bydd rhai rhannau o'r ardd yn parhau ar gau wrth i'r gwaith clirio barhau. Bydd Coed y Ffwrnes a’r ddôl, dwy ardal a gafodd eu taro waethaf yn ystod y storm, yn parhau ar gau hyd y gellir rhagweld er mwyn rhoi cyfle i'r tîm glirio nifer o'r coed pîn tal sydd wedi disgyn. Diolch i bawb am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn ac am barhau i ymweld â'r ardd. Mae pob ymweliad yn helpu i gefnogi gwaith y tîm cyfan yn dilyn digwyddiadau fel hyn.
Cyfanswm y camau: 6
Cyfanswm y camau: 6
Man cychwyn
Yr Hen Felin yn y Glyn. Cyfeirnod grid: SH800723
Cam 1
Gan gychwyn o’r Hen Felin, dilynwch y llwybr sy’n arwain heibio’r ciosg bwyd tuag at ardd y Glyn. Dilynwch y llwybr cyntaf ar y dde i fyny’r bryn dros bompren fach sy’n eich arwain i fyny Llwybr Douglas hir, sydd â choed Ffynidwydd Douglas ar ei hyd. Ewch ymlaen i lannerch ar y copa.
Cam 2
Bydd y llwybr yn dod â chi i lannerch lle gwelwch chi Ddôl y Ffwrnes. Wrth edrych ar draws yr afon fe welwch chi hefyd y beddadail ‘The Poem’ ar ben darn o graig. Oddi yma dilynwch y llwybr sy’n dilyn terfyn y ddôl yn serth i fyny’r bryn trwy lawer o’r coed conwydd tal. Wrth i chi ddal i fynd i fyny’r bryn, mae golygfeydd ar draws yr ardd yn dechrau dod i’r golwg trwy’r coed.
Cam 3
Wrth gyrraedd y copa, mae’r llwybr yn gwastatau a byddwch yn nesu at Lwybr Penjerrick. Ar y naill ochr a’r llall fe welwch rododendron Penjerrick ifanc a rhododendron eraill sydd newydd eu plannu – dewch yn ôl i’w gweld yn aeddfedu yn y blynyddoedd i ddod. Mae llwybr cyfochrog uwch ben y fan hyn yn rhedeg ar hyd copa Bryn y Ffwrnes, ac oddi yno, os gwnewch chi wyro ychydig oddi ar y llwybr, fe welwch Afon Conwy yn llifo trwy’r dyffryn tua’r môr.
Cam 4
Ar y gyffordd nesaf mae’r llwybr yn dolennu yn ôl i lawr y bryn at ochr Sedd y Fonesig. Mae croeso i chi aros ac eistedd yma i fwynhau’r olygfa fendigedig ar draws yr ardd. Oddi yma cewch olygfa o uchder o’r Terasau Eidalaidd enwog ar ochr y dyffryn sydd gyferbyn â chi, a adeiladwyd rhwng 1904 a 1914.

Cam 5
Daliwch i fynd ar y llwybr heibio Sedd y Fonesig.
Cam 6
Yn ôl wrth gyffordd Llwybr y Ddôl gallwch benderfynu mynd ymlaen tua’r de ar hyd y ddôl ac i lawr i ardal pwll sglefrio’r Pen Pellaf, gan fynd yn ôl trwy’r Glyn Yw a’r Llennyrch (gweler y map). Neu gallwch ddychwelyd y ffordd daethoch chi, i lawr Llwybr Douglas at yr Hen Felin.
Man gorffen
Yr Hen Felin yn y Glyn. Cyfeirnod grid: SH800723
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn


Taith Gardd y Gaeaf Bodnant
Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.

Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cysylltwch
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Bwyta yng Ngardd Bodnant
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.