
Taith Gardd y Gaeaf Bodnant
Ewch am daith gylchol hawdd yng nghanol natur ar daith Gardd y Gaeaf Bodnant. Bydd y daith fer yma yn eich arwain trwy 250 mlynedd o hanes garddwriaethol yng Ngardd Bodnant ac mae’n addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Cychwynnwch eich taith wrth ganolfan ymwelwyr Gardd Bodnant. Cyfeirnod map: SH 80150
Cam 1
Wrth i chi adael y ganolfan ymwelwyr, dilynwch y llwybr graean sy’n mynd ar dro yn syth o’ch blaen wrth yr hen goeden acer. Ar ôl ychydig fetrau cymrwch y troad cyntaf i’r chwith ac anelu am y Bwa Tresi Aur. Ar y chwith i fynedfa’r bwa fe welwch chi hen acer arall (Acer dissectum palmatum). Mae ei boncyff cnotiog yn edrych yn rhyfeddol yn y gaeaf hyd yn oed.
Cam 2
Ewch allan o’r bwa trwy droi i’r dde a mynd yn syth ymlaen nes cyrhaeddwch chi’r prif lwybr. Ewch yn eich blaen ar y chwith a dilyn y llwybr. Ar y dde fe welwch chi bedair coeden fawr – dwy dderwen ddigoes (Quercus petraea), ffawydden gyffredin (Fagus sylvatica) a chastanwydden bêr (Castanea Sativa).

Cam 3
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr hwn ychydig droedfeddi tan y troad nesaf ar y chwith, yn agos at y fedwen o’r Himalaya (Betula utilis, math Jacquemontii.) Trowch i’r chwith yma i Ardd y Gaeaf. Daliwch i fynd ar hyd y llwybr, gan fynd heibio’r magnolia, ‘Heaven Sent’ ar y chwith. Ychydig yn nes ymlaen fe ddewch chi at fainc ar y dde, lle gallwch chi eistedd a mwynhau’r olygfa i ganol Gardd y Gaeaf. Wrth edrych i’r chwith wrth fynd ar hyd y llwybr, fe welwch chi’r Hen Barc, dôl gyda choed cynhenid wedi eu plannu yn y cyfnod Sioraidd. Daliwch i fynd i lawr y llwybr ar hyd terfyn Gardd y Gaeaf.
Cam 4
Newydd fynd heibio’r giât i ddôl yr Hen Barc fe welwch chi goeden fythwyrdd sy’n un o’r pencampwyr ar y chwith - efallai y byddwch yn clywed aroglau ei blodau gwynion yn y gaeaf hefyd. Celynnen ffug yw hon (Osmanthus fortuneii). A hithau’n 8m o uchder, dyma’r dalaf o’i math ar Ynysoedd Prydain. Wrth y gyffordd hon, gallwch naill ai droi i’r dde a dolennu’n ôl ar lwybr cylchol ar hyd y palmant llechi trwy Ardd y Gaeaf, gan weld mwy o’r planhigion (mae pump o risiau bas ar y ffordd) neu ewch ymlaen i Gam 5.

Cam 5
Oddi wrth y goeden osmanthus daliwch i fynd ychydig fetrau tuag at fainc ar y chwith. Ychydig ymhellach ar yr ochr dde mae grŵp mawr o rododendron nobleanum pinc sy’n blodeuo’n gynnar. O’r fainc hon cewch olygfa wych o’r Ardd Ddwyreiniol ffurfiol, sy’n llifo o’r Ardd Gron at Blasty Bodnant.
Cam 6
Ewch o amgylch yr Ardd Gron ac yn ôl i fyny ar hyd terfyn gogleddol Gardd y Gaeaf ar hyd y Lawnt Uchaf.
Cam 7
Wrth gyrraedd pen uchaf y llwybr hwn trowch i’r chwith ar hyd Gardd Puddle sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r Bwa Tresi Aur. Wedi ei ddatblygu yn 2011, mae’r ardal hon yn talu teyrnged i dair cenhedlaeth o brif arddwyr Bodnant, Frederick, Charles a Martin Puddle, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu’r ardd o 1920 i 2006. Mae’n llawn o blanhigion yr oedd y dynion yma wrth eu boddau â nhw, gan gynnwys nifer o fathau hybrid o rododendron a fagwyd yma.
Cam 8
Yn ôl wrth yr acer palmatum ‘Osakazuki’ ger y ganolfan ymwelwyr, trowch i’r chwith i’r borderi. Fe welwch chi’r allanfa o’r ardd ar hyd wal yr ardd ar y dde.
Man gorffen
Daw’r daith i ben wrth allanfa’r ardd. Cyfeirnod map: SH 72330
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn


Taith Coed y Ffwrnes a’r Ddôl, Gardd Bodnant
Mwynhewch y daith hon ar ochr bryn – mae’n ymarfer corff da gyda golygfeydd panoramig i wneud i chi deimlo ar ben y byd.

Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Taith gylchol Llyn Ogwen
Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.
Cysylltwch
Gardd Bodnant, Tal-y-Cafn, ger Bae Colwyn, Conwy, LL28 5RE
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.

Bwyta yng Ngardd Bodnant
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)