
Taith Coed Mawr Erddig
Taith gerdded gylchol fer yw taith Coed Mawr Erddig sy’n mynd â chi o gwmpas yr ystâd 1,200 erw. Cewch weld dôl gudd ac amrywiaeth o nodweddion archeolegol ar hyd y daith. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.
Arwyddion oren
Chwiliwch am yr arwyddion oren sy’n dangos y llwybr hwn trwy’r ystâd.
Cyfanswm y camau: 13
Cyfanswm y camau: 13
Man cychwyn
Maes parcio Erddig. Cyfeirnod grid: SJ 32782 48091
Cam 1
Cychwynnwch oddi wrth y colomendy a cherdded i’r dwyrain trwy’r parc bysiau gan ddal i fynd yn syth i’r trac caregog. Ewch heibio’r dderwen farw (Quercus robur) ar y dde i chi sy’n gartref i dylluan wen ac infertebratau dirifedi.
Cam 2
Dilynwch y llwybr i’r chwith a heibio’r ha-ha (nodwedd i gadw ceirw o’r ardd).

Cam 3
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i’r Coed Mawr.
Cam 4
Dilynwch y llwybr i’r chwith a chymryd y llwybr ar y dde, gan ddilyn yr arwydd oren.
Cam 5
Ewch yn syth ymlaen, fe welwch chi goed ffawydd wedi syrthio wrth i chi gerdded.
Cam 6
Ewch yn syth ymlaen gan fod y llwybrau eraill yn mynd i’r dde. Wrth i chi ddilyn y llwybr i’r chwith, mae’r coetir yn agor allan ychydig. Ar y chwith mae rhodfa syth trwy’r Coed Mawr i Ffau’r Blaidd a’r ardd.
Cam 7
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr nes y bydd yn mynd i lawr i’r dde – dyma waelod y castell tomen a beili. Os hoffech chi gerdded ar y domen a’r beili ewch i lawr y llethr at y panel dehongli ac yna ewch ymlaen i fyny’r bryn serth. Byddwch yn ofalus ar y llethrau, yn arbennig mewn tywydd gwlyb pan fydd hi’n llithrig. Os nad ydych am fynd at y domen a’r beili, ewch ymlaen i gam 10.
Cam 8
Pan gyrhaeddwch chi gopa’r bryn serth mae’n agor allan yn ardal wastad o laswellt. Yr ardal hon fyddai’r pentref, gyda thai a siopau, gan gynnwys siop fara, cigydd, arfdy a gof mae’n debyg. Erbyn hyn mae yma rodfa o ffawydd ac oestrwydden (carpinus betulus).
Cam 9
Hanner ffordd i lawr y rhodfa ar y chwith, dilynwch y llwybr i lawr lle gallwch chi weld tomen fawr, dyma domen y castell.
Cam 10
Ar ôl i chi grwydro trwy’r domen a’r beili, ewch yn ôl at y panel dehongli ac i fyny’r llethr. Cadwch i’r dde a mynd yn syth ymlaen trwy’r Coed Mawr. Byddwch yn cyrraedd ffens bren a giatiau. Dilynwch y llwybr i lawr i’r dde, lawr y bryn. Hanner ffordd i lawr y grisiau ar y dde mae un rhan o Glawdd Wat, yr ail o’n Henebion Hynafol Rhestredig.
Cam 11
Ar waelod y bryn ewch trwy’r giât mochyn ddu a throi i’r chwith. Er mwyn gweld y Gwpan a’r Soser lle mae dŵr yn rhaeadru, ewch dros y bont bren i’r dde.

Cam 12
Ewch yn ôl y ffordd daethoch chi i’r llwybr a mynd trwy’r giât mochyn bren wrth ochr grid gwartheg i’r ffordd darmac.
Cam 13
Ewch ymlaen i fyny’r bryn a thrwy’r coed. Anelwch i’r chwith at y colomendy lle gwnaethoch gychwyn y daith.
Man gorffen
Maes parcio Erddig. Cyfeirnod grid: SJ 32782 48091
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Neuadd a Gardd Erddig
Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Taith glan yr afon Erddig
Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig
Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig
Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydro parcdir Erddig
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig
Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.