
Taith glan yr afon Erddig
Mwynhewch daith gerdded gylchol fer sy’n eich arwain o gwmpas y llwybr wedi ei farcio’n wyrdd ar yr ystâd 1,200 erw gyda chasgliad o nodweddion naturiol ac archeolegol. Edmygwch nodwedd ddŵr Cwpan a Soser enwog Erddig o’r 18fed ganrif, a ddyluniwyd gan William Emes, a dilynwch Afon Clywedog ar hyd troed Clawdd Wat a Choed y Llys i bentref hanesyddol Felin Puleston.
Cyfanswm y camau: 11
Cyfanswm y camau: 11
Man cychwyn
Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481
Cam 1
Cychwynnwch wrth y colomendy ac anelu i lawr prif ffordd Erddig, heibio’r ardal ‘Dim Parcio’ a thorri trwy’r coetir bach heibio ystafell de’r Coetsmon.

Cam 2
Ewch heibio’r giatiau gwyn ar y dde i chi ac anelu i lawr y bryn tarmac serth o gwmpas wyneb gorllewinol y tŷ.
Cam 3
Ewch trwy’r giât mochyn bren ac, os hoffech chi weld y nodwedd ddŵr unigryw o’r 18fed ganrif, a elwir yn Gwpan a Soser, cerddwch dros y bont bren ar y chwith i chi.
Cam 4
Dilynwch eich camau yn ôl i’r llwybr carreg, gan ddal i fynd dros bont garreg ac ymlaen trwy’r parcdir.
Cam 5
Dilynwch y llwybr, sy’n crymanu tua’r dde a dros ail bont garreg sydd wedyn yn gwyro tua’r chwith ar draws yr ardal o laswellt at giât mochyn arall i Goed y Llys. Dyma’r fan lle mae Nant Ddu yn cyrraedd Afon Clywedog.
Cam 6
Ewch ymlaen trwy’r coetir, sy’n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Clywedog.
Cam 7
Yn ystod y gwanwyn, mae gan Goed y Llys ar y dde i chi gasgliad rhyfeddol o glychau’r gog (Hyacinthoides non-scripta), yn ogystal â bod yn gynefin da i adar a mamaliaid bach.
Cam 8
Daliwch i fynd ar hyd y llwybr cul trwy’r coetir nes y byddwch yn cyrraedd Ystâd Ddiwydiannol Felin a dilyn y llwybr o amgylch i’r chwith.
Cam 9
Ewch trwy’r giât mochyn a dros y bont ar y chwith i faes parcio Felin Puleston.
Cam 10
Wrth y bwthyn trowch i’r chwith a thrwy’r giât mochyn, gan fynd ymlaen ar hyd y llwybr carreg i ddilyn cwrs Afon Clywedog.
Cam 11
Ewch ymlaen trwy ddwy giât mochyn arall ac ail-ymuno â’r llwybr gwreiddiol ger y bont garreg.
Man gorffen
Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Neuadd a Gardd Erddig
Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Taith Coed Mawr Erddig
Mwynhewch daith hamddenol o gwmpas parcdir Erddig ar y daith gylchol hon. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.

Taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig
Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydro parcdir Erddig
Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig
Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.