Skip to content
Cŵn yn cael eu harwain am dro ger Colomendy Erddig
Cŵn yn cael eu harwain am dro ger Colomendy Erddig | © National Trust/Steve Rawlins
Wales

Taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes

Taith gylchol 3.5 milltir yw taith Dôl Ffrengig Erddig yn Wrecsam ar lwybr wedi ei nodi ag arwyddion coch trwy gymysgedd o lwybrau glan afon, dôl a choetir.

Cyfle i ddarganfod y llyn naturiol a bywyd gwyllt y gwlyptir

Gyda dros 30 o byllau ar yr ystâd, ffurfiwyd y llyn yn y Ddôl Ffrengig yn yr 1980au wrth i’r tir ymsuddo ar ôl y gwaith glo. Heddiw mae’n werddon ar gyfer amrywiaeth eang o adar, mamaliaid ac infertebratau.

Cyfanswm y camau: 17

Cyfanswm y camau: 17

Man cychwyn

Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481

Cam 1

Cychwynnwch ger y colomendy a cherdded i’r dwyrain trwy’r parc bysiau gan ddal i fynd yn syth i’r trac caregog. Ar y dde fe welwch dderwen farw (Quercus robur) sy’n gartref i dylluan wen ac infertebratau dirifedi.

Cam 2

Dilynwch y llwybr i’r chwith a heibio’r ha-ha.

Cam 3

Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i’r Coed Mawr.

Cam 4

Dilynwch y llwybr i’r chwith a chymryd y llwybr ar y dde, gan ddilyn yr arwyddion.

Cam 5

Wrth y set nesaf o arwyddion trowch i’r dde a mynd ymlaen ar hyd y Llwybr Pisgwydd, gan fwynhau golygfeydd ar draws y ddôl Ffrengig, gan ddilyn cwrs Afon Clywedog oddi tanoch.

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Mae ymwelwyr wedi cael crwydro parcdir Erddig ers 300 mlynedd a mwy | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Cam 6

Ar ben draw'r Llwybr Pisgwydd ewch trwy’r giât mochyn i’r ffordd. Byddwch yn ofalus wrth fynd i’r ffordd gan fod tro yma na all gyrwyr weld yr ochr draw iddo. Trowch i’r chwith a mynd i lawr y ffordd serth dros y bont a thua maes parcio Ffordd Sontley.

Cam 7

Yn y maes parcio trowch i’r chwith a mynd trwy’r giât mochyn i’r Ddôl Ffrengig a dal i fynd yn syth ar draws y caeau, heibio giât fferm bren hanner ffordd. Yn y gaeaf mae’r llwybr hwn yn eithaf gwlyb, felly dewis arall yw cerdded trwy Goed-y-Glyn tu hwnt i’r maes parcio a dilyn y llwybr i’r chwith.

Cam 8

Daliwch i fynd trwy’r Ddôl Ffrengig nes cyrhaeddwch chi lwybr carreg Ffordd Erddig, gan droi i’r chwith dros y bont garreg.

Cam 9

Ewch ymlaen yn syth ar hyd y llwybr, gan ddilyn Nant Ddu a dros ail bont garreg.

Cam 10

Ychydig yn nes ymlaen, ewch dros y bompren ar y dde a thua’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser.

Rhaeadr y Gwpan a’r Soser yn Erddig, Cymru lle mae dŵr yn llifo i lawr agoriad crwn, tra bod teulu yn gwylio gyda choed hydrefol yn y cefndir.
Ymwelwyr wrth nodwedd ddŵr y Gwpan a Soser yn Erddig | © Natalie Overthrow

Cam 11

Gan gadw ar ochr chwith y Gwpan a’r Soser, anelwch trwy’r giât mochyn bren, gan ddilyn yr arwydd coch. Byddwch yn dilyn cwrs Nant Ddu trwy’r caeau sy’n cael eu defnyddio i geffylau gwedd yr ymddiriedolaeth bori, yn enwedig ym misoedd yr haf.

Cam 12

Ar ôl mynd trwy’r ail giât mochyn, ewch yn syth ar draws y cae, at agoriad yn y coetir trwy giât mochyn arall ac i fyny llechwedd graddol.

Cam 13

Trowch i’r dde a cherdded 100 metr ar hyd y brif ffordd ac yna troi i’r chwith, gan anelu trwy giât mochyn i lwybr Lôn Werdd.

Cam 14

Daliwch i fynd ar hyd y llwybr, gan gadw i’r chwith wrth fynd trwy giât bren. Mae llawer o strwythurau pren ychydig oddi ar y llwybrau yn yr ardal hon. Roeddent yn cael eu defnyddio ar gyfer yr elfen draws gwlad yn Nhreialon Ceffylau Cart Cenedlaethol Cymru oedd yn arfer digwydd ar yr ystâd.

Cam 15

Wrth fynd heibio Fferm Sontley Lodge ar y dde, daliwch i fynd ar hyd y ffordd garreg ac anelu trwy giât mochyn ar y chwith i Goed Fforest ac anelu yn syth i lawr y ffordd trwy’r canol.

Cam 16

Trowch i’r chwith wrth gyrraedd Ffordd y Fforest a mynd trwy’r grid gwartheg yn y gwaelod.

Cam 17

Trowch i’r dde a dilyn cyrion Coed Fforest yn ôl at y colomendy.

Man gorffen

Maes parcio Erddig, cyfeirnod grid: SJ326481

Map llwybr

Map taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes
Map taith Dôl Ffrengig Erddig trwy barc pleser Emes | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Y tŷ a’r tocwaith yn Erddig, Wrecsam, dan orchudd barrug
Lle
Lle

Neuadd a Gardd Erddig 

Archwiliwch gartref, gardd ac ystâd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision

Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Tad a’i fab yn pwyso ar barapet pont garreg yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith glan yr afon Erddig 

Taith gylchol wedi ei marcio o gwmpas ystâd Erddig, ar hyd Afon Clywedog, heibio’r nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif, adfeilion castell a chloddiau amddiffynnol hanesyddol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith Coed Mawr Erddig 

Mwynhewch daith hamddenol o gwmpas parcdir Erddig ar y daith gylchol hon. Crwydrwch trwy goetir ac archwilio adfeilion hynafol castell tomen a beili Normanaidd wrth i chi ymuno â llwybr hanesyddol a llawn cyfrinachau Clawdd Wat.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Grisiau yn y coetir yn Erddig, Cymru, wedi eu gorchuddio â charped hydrefol o ddail coch
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded Bryn-y-Cabanau a Choed Lewis Erddig 

Mwynhewch ben dwyreiniol ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam ar lwybr ag arwyddion trwy ddau goetir.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Family walking through the estate at Erddig
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau yn yr awyr agored yn Erddig 

Gweithgareddau awyr agored am ddim i’ch helpu i wneud y mwyaf o’r ardd a’r parcdir, o gerdded Nordig i parkrun wythnosol.

A selection of homeware from the National Trust Shop laid out on a window seat. Features three blankets in blue, pink and green, a floral embroidered cushion and a candle.
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)