
Llwybr bywyd gwyllt Freshwater West
Mwynhewch gylchdaith brydferth drwy’r twyni a’r ffermdir y tu ôl i draeth Freshwater West. Ar y ffordd, cewch weld fflora a ffawna lleol, a sut mae ein gwaith adfer yn rhoi hwb i fyd natur, tra’n rhyfeddu at olygfeydd godidog o’r môr o ongl wahanol.
Dogs
Ni chaiff gŵn fynd ar y llwybrau caniataol hyn er mwyn gwarchod y bywyd gwyllt a llystyfiant.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Freshwater West, SA71 5AH.
Cam 1
Gyda’ch cefn at y traeth, trowch i’r chwith, anelwch am y tai bach, ac fe welwch fap o’r ddau lwybr o gwmpas Gupton. Dyma’r man lle gwelwch eich arwyddbost cyntaf.
Cam 2
Dilynwch y llwybr drwy’r twyni, gan gadw i’r dde a dilyn y llwybr ceffylau drwy’r gât. Yna, bron yn syth, trowch i’r chwith gan adael y llwybr ceffylau, ac ewch i’r ardal adfer glaswelltir yn y twyni.
Cam 3
Dilynwch linell y ffens ar y chwith nes dod at saeth yn pwyntio i’r dde. Trowch i’r dde a cherddwch ar hyd ochr y twyni gyda’r ardal o dir gwlyb tymhorol ar y chwith i chi.
Cam 4
Yn y pellter fe welwch Starman’s Hall - anelwch yn syth am y gât yng nghornel chwith bellaf y cae. Mae arwyddbost wedi ei osod yn y bwlch yn y ffens i’ch helpu ar eich ffordd.
Cam 5
Ewch drwy’r gât i drac Starman’s Hall. Os byddai’n well gennych wneud fersiwn fyrrach o’r llwybr hwn, trowch i’r dde yma a dilynwch y trac i fyny’r bryn i ymuno â llwybr arall ar gam 9. Ar y chwith i chi fe welwch gât - cerddwch drwy’r gât cerddwyr a throwch i’r dde, gan ddilyn llinell y ffens drwy’r weirglodd.
Cam 6
Trowch i’r dde ac ewch i fyny’r trac nes i chi gyrraedd y gyffordd yn y pen pellaf.
Cam 7
Wedi’r drydedd gât, fe welwch drac ar y dde i chi. Ewch drwy’r gât ac i fyny’r bryn nes cyrraedd gât lydan (gât cae gyda gât fach i gerddwyr yn rhan ohoni). I wneud gwyriad byr i’r guddfan adar, anwybyddwch y trac i’r dde ar ôl y drydedd gât ac ewch yn syth drwy gât arall a throi i’r chwith, gan groesi pont gul dros ffos. Dilynwch y clawdd i’r chwith ohonoch nes i chi gyrraedd pont fechan arall drwy fwlch yn y clawdd i gyrraedd y guddfan.
Cam 8
Cariwch ymlaen drwy’r gât a throwch i’r dde ar dop y trac. Dilynwch y trac gan basio’r ffermdy ar eich chwith a chariwch ymlaen heibio i’r trac cyntaf ar y dde (trac Starman’s Hall).
Cam 9
Cariwch ymlaen nes cyrraedd cyffordd a throwch i’r dde i lawr y llwybr ceffylau. Cerddwch i lawr y rhiw nes cyrraedd eich man cychwyn.
Man gorffen
Maes parcio Freshwater West, SA71 5AH.
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Stad Stagbwll
Dewch i ddarganfod y darn hyfryd o arfordir yn Ystagbwll. Gyda thraethau euraidd arobryn, dyffrynnoedd coediog tawel, pyllau lili llawn bywyd gwyllt, llwybrau cerdded a chwaraeon dŵr, mae digonedd i weld ac i wneud.

Llwybr beicio mynydd â Stad Stagbwll
Darganfyddwch lwybr beicio mynydd 4 milltir o hyd drwy Stad Stagbwll yn Sir Benfro sy’n cynnig golygfeydd epig o’r coetir ar hyd cyfres o ddringfeydd, neidiau a throeon.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.
Cysylltwch
Freshwater West a Fferm, Castlemartin, Sir Benfro, SA71 5HW
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Llwybrau arfordirol gwych a gwyllt
Darganfyddwch amrywiaeth eang o lwybrau arfordirol yn cynnig golygfeydd o ben clogwyn, tywod euraidd, bywyd gwyllt a hanes lleol yn rhai o dirnodau naturiol mwyaf eiconig y DU. (Saesneg yn unig)

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)