Taith Plas yn Rhiw a phentref y Rhiw
Taith gerdded gymharol fyr ond eithaf heriol gyda golygfeydd arfordirol a hanes difyr. Anelwch trwy goetir arfordirol i bentref y Rhiw, gan fynd o amgylch godre’r mynydd ac yn ôl i lawr i Blas yn Rhiw ar hyd lonydd gwledig.
Cyfanswm y camau: 12
Cyfanswm y camau: 12
Man cychwyn
Maes parcio ym Mhlas yn Rhiw, cyfeirnod grid: SH237282
Cam 1
Trowch i’r chwith o faes parcio Plas yn Rhiw, cerdded i fyny’r ffordd serth tuag at y Rhiw a chwilio am yr ail arwydd Llwybr yr Arfordir glas ar y chwith.
Cam 2
Ewch trwy’r giât mochyn ddu ar y chwith a dilyn arwydd Llwybr yr Arfordir sy’n eich arwain i gae.
Cam 3
Dilynwch arwyddion llwybr yr arfordir sy’n eich arwain trwy ardal newydd ei phlannu o goed cynhenid ac i lawr tuag at Goed Garth, y byddwch yn eu gweld o’ch blaen.
Cam 4
Croeswch y bompren i’r coetir a dilyn y llwybr sy’n dringo’r llechwedd.
Cam 5
Bydd giât mochyn yn eich arwain allan o’r coetir. Ewch trwy’r giât hon a throi i’r dde i fynd ymlaen gan ddilyn arwyddion Llwybr yr Arfordir i fyny’r llechwedd serth. Wrth yr arwydd Llwybr yr Arfordir nesaf, trowch i’r dde a dilyn y wal gerrig i fyny’r llechwedd.
Cam 6
Wrth i’r llechwedd ddechrau gwastatau, trowch i’r dde, gan ddilyn ‘llwybr cylchol’ ac i fyny heibio Pant, bwthyn gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cam 7
Wrth i’r llechwedd ddechrau gwastatau, trowch i’r dde, gan ddilyn ‘llwybr cylchol’ ac i fyny heibio Pant, bwthyn gwyliau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cam 8
Wrth ailymuno â’r ffordd, trowch i’r chwith, cerddwch ychydig heibio Capel Nebo ar y chwith ac at y groesffordd yng nghanol y pentref.
Cam 9
Trowch i’r dde ar y groesffordd yn dilyn yr arwydd ‘Sarn 3½'.
Cam 10
Dilynwch y ffordd hon heibio rhes o dai, yr hen ysgol a neuadd bentref ar y chwith, ac at gyffordd ar gornel. Trowch i’r dde wrth yr arwydd glas sy’n dweud ‘Anaddas i gerbydau llydan’.
Cam 11
Dilynwch y ffordd hon am tua 600 metr, nes cyrhaeddwch chi eglwys Aelrhiw Sant. Trowch i’r dde yn y gyffordd dan yr eglwys gyda blwch postio coch arno.
Cam 12
Dilynwch y ffordd droellog i lawr, yn ôl i’r coed, heibio’r ystafell de a thuag at Blas yn Rhiw. Daliwch i fynd i lawr y ffordd i’r gyffordd a throi i’r chwith i ddychwelyd i’r maes parcio. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd fawr.
Man gorffen
Maes parcio ym Mhlas yn Rhiw, cyfeirnod grid: SH237282
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith Porthor
Mae’r golygfeydd yn rhyfeddol ar hyd yr arfordir garw hwn ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hon yn daith wych i amgyffred peth o hanes a threftadaeth yr ardal.
Taith arfordirol Porth Meudwy
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw
Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.
Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci
Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.
Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)