
Llwybr clogwyni ac ogofâu Lydstep
Llwybr ar hyd y clogwyni sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r môr a chyfleoedd gwych i wylio bywyd gwyllt. Mae’r glaswelltir yn gyfoeth o flodau gwyllt a phili-palod, tra bod y clogwyni’n gartref i frain coesgoch, adar drycin y graig a gwylanod. Ar ddiwrnod clir fe welwch Ynys Wair ac arfordir Gwlad yr Haf, ac fe allech fod yn ddigon lwcus i weld dolffiniaid neu lamidyddion yn y dŵr.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio Pentir Lydstep, cyfeirnod grid: SS087977
Cam 1
O’r maes parcio cerddwch tuag at y môr heibio i biler concrid a llwyfan tanio o’r Ail Ryfel Byd. Lle mae’r llwybr yn gwahanu, trowch i’r dde i weld y traeth, yr ogofâu a draw at Faes Saethu Maenorbŷr.
Cam 2
Dilynwch y llwybr o gwmpas tua’r chwith drwy’r llwyni eithin. Efallai y cewch gwrdd â’r gwartheg sy’n pori’r pentir i ni.
Cam 3
Lle mae’r llwyni’n agor allan i laswelltir arfordirol, fe welwch Ynys Bŷr gyda’i goleudy o’ch blaen. Ar ddiwrnodau clir gallwch weld Ynys Wair ac arfordir Gwlad yr Haf ar y gorwel.
Cam 4
Mae’r clogwyni calchfaen, gyda’u plygiadau fertigol trawiadol, yn boblogaidd gyda dringwyr ac efallai y gwelwch bysgotwyr ar y creigiau islaw.
Cam 5
Wrth i chi gyrraedd pen draw’r pentir, cewch olygfeydd o Bwynt Giltar a Bae Caerfyrddin yn ei gyfanrwydd, yr holl ffordd rownd i Benrhyn Gŵyr.
Cam 6
Dilynwch yr arfordir hyd at y chwarel uwchben Lydstep Haven, pentref gwyliau mawr wedi ei dirlunio’n dda.
Cam 7
Ewch ymlaen drwy ddarn bach o goedwig ac yn ôl i’r maes parcio.
Cam 8
I archwilio’r ogofâu, cadwch i’r dde wth i chi adael y maes parcio ac ewch i lawr y 100 o stepiau at y traeth. Dim ond gyda’r distyll (llanw isel) y mae’n bosib i chi fynd i’r ogofâu felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw amserau’r llanw os hoffech chi fynd i archwilio.

Man gorffen
Maes parcio Pentir Lydstep, cyfeirnod grid: SS087977
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd
Tŷ masnachwr o’r 15fed ganrif yng nghanol tref hanesyddol Dinbych-y-pysgod.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
Cysylltwch
Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Quay Hill, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7BX
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llwybrau cerdded i’r teulu
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’r teulu gyda thaith gerdded yn yr awyr iach, gyda llawer o bethau diddorol i bawb o bob oedran ar hyd y daith. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.(Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.