Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Rydym eisiau i bawb allu gwneud defnydd o'r lleoedd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru. Rydym eisiau i bawb allu gwneud defnydd o’r lleoedd rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru. Felly, p’un a ydych yn awyddus i archwilio cefn gwlad neu ymgolli yn harddwch gardd hanesyddol, mae gennym nifer o lwybrau sy’n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a’r rhai sy’n defnyddio cymorth symudedd.
Mae’r hafan arddwriaethol hanesyddol hon yn fendigedig drwy gydol y flwyddyn gyda magnolias a rhododendrons yn y gwanwyn, borderi llysieuol bywiog yn yr haf, caleidosgop o liwiau dail cyfoethog yn yr hydref, a’r Ardd Aeaf liwgar a phersawrus yn y gaeaf.
Dilynwch y llwybr heb risiau ar hyd y llwybr graeanog cywasgedig, cyfeillgar i gadeiriau olwyn a phramiau, i archwilio rhai o fannau mwyaf nodedig yr ardd gan gynnwys y Terasau gyda'u golygfeydd dramatig o'r mynyddoedd, yr Ardd Ddwyreiniol Fictorianaidd gyda’i phlanhigion tymhorol cyfoethog, a The Poem, beddrod Fictorianaidd yn Y Llennyrch.
Gyda mynediad gwastad i Ystafell De’r Pafiliwn, digonedd o seddi ym mhob rhan o’r ardd, a meinciau picnic yn y maes parcio, mae digonedd o leoedd i ymlacio a chysylltu â natur wrth i chi wrando ar fwrlwm y bywyd gwyllt hefyd.
Archwiliwch y Castell ffantasi yma gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol wedi’i amgylchynu gan ardd furiog, dolydd a choetir yn edrych dros arfordir gogledd Cymru.
Mwynhewch daith gylchol heb risiau o amgylch y castell ar lwybrau graean rhydd. Gallwch gyrraedd teras uchaf yr Ardd Furiog heb risiau, a’r ardd gorsiog isaf drwy ddefnyddio’r llwybr â ramp ar hyd y tu allan i’r ardd. Mae meinciau ar hyd y ffordd yn edrych dros yr arfordir yn ogystal â byrddau picnic hygyrch ar y lawnt ger y castell.
I gael mynediad gwastad heb risiau i’r castell, ewch at Gaffi’r Castell. Mae yna hefyd wasanaeth bygi gwirfoddol sy’n cludo ymwelwyr rhwng y ganolfan ymwelwyr a’r castell. Yn dibynnu ar argaeledd, gall y bygi fynd ag ymwelwyr o'r castell o amgylch yr ardd a'r tiroedd hefyd.
Wedi’i leoli ar dir y castell canoloesol dramatig hwn mae 5.5 erw o erddi heddychlon i’w harchwilio gyda lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio, planhigion tymhorol, a golygfeydd ysgubol dros wastatir Sir Gaer a Sir Amwythig.
Mae llwybrau wyneb caled newydd wedi creu mynediad haws i gadeiriau olwyn a phramiau, a Tramper (sgwter symudedd pob tir), cadeiriau olwyn gyda theiars oddi ar y ffordd, a bws gwennol a yrrir gan wirfoddolwyr sydd oll ar gael o Home Farm, wrth ymyl y maes parcio (gwiriwch ymlaen llaw i sicrhau argaeledd).
Mae tipyn o lethr i lawr i'r Ardd Isaf, ond mae wyneb y llwybr yn addas i gadeiriau olwyn ac mae llawer o feinciau, yn enwedig o amgylch y Lawn Uchaf, yn yr Ardd Rosod, ar hyd yr ha-ha ac yn y Tŷ Hebog, i ymlacio a mwynhau uchafbwyntiau tymhorol yr ardd.
Bu bron i'r ardd restredig 13.5 erw hon fynd yn angof am byth ond erbyn hyn mae yna lawntiau bendigedig, parterre Fictorianaidd, rhodfeydd o goed leim plethedig a dau bwll mawr neu ‘gamlesi’ i'w harchwilio.
Mae'r llwybrau llydan, gwastad sy’n addas ar gyfer pramiau, sy’n arwain at yr ardd ac o’i chwmpas wedi’u gwneud o raean caled, sy’n hawdd i’w ddefnyddio ac mae ramp hygyrch i’r ardd ei hun. Mae meinciau hefyd wedi’u lleoli ym mhob rhan o'r ardd er mwyn i chi allu stopio a mwynhau uchafbwyntiau tymhorol fel yr eirlysiau, borderi llysieuol a choed ffrwythau yn llawn cynnyrch yr hydref.
I’r rhai sydd hefyd eisiau cymryd seibiant am luniaeth, mae lifft i Fwyty Courtyard sydd ar yr ail lawr.
Dilynwch y llwybr o amgylch y daith gylchol filltir o hyd hon yng nghanol Eryri a dysgwch am chwedl y Tywysog Llywelyn a’i gi ffyddlon, Gelert, a roddodd ei enw i’r pentref dengar hwn.
Mae'r llwybr concrid addas ar gyfer pramiau hwn yn rhedeg ar draws Afon Glaslyn ac yn croesi dwy bont ar bob pen i’r daith gerdded, gyda mynediad ramp a llethr fach. Mae dwy giât ar hyd y ffordd y gellir eu gwthio ar agor a sawl mainc i fwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd a gwrando ar sŵn heddychlon yr afon. Mae'n lle perffaith i ymgolli ym myd natur.
Yn 1936, dechreuodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ofalu am 1,700 erw o dir yn Ne Eryri a ddosbarthir fel SSSI (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) ac fel SAC (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig). Yn cael ei adnabod yn lleol fel Ystad Dolmelynllyn, mae Llynnoedd Addurniadol y safle wedi’u hadfer a’u datblygu gyda hygyrchedd mewn golwg felly mae’n lle perffaith i arafu, ymlacio, a dianc i fyd natur.
Dilynwch y llwybr hawdd, gwastad ag arwyneb caled o amgylch y llwybr cylchol 0.6 milltir a chwiliwch am eogiaid, sewin, gweision y neidr a bywyd gwyllt arall wrth i chi grwydro’r llwyfannau gwylio sy’n ymestyn allan dros ymyl y llyn. Mae toiledau hygyrch ar gael ym maes parcio Ganllwyd a gellir dod o hyd i le parcio Bathodyn Glas dynodedig wrth ymyl y llyn ei hun.
Yn swatio ar lannau'r Fenai, gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, mae'n anodd curo lleoliad hardd Plas Newydd - a chyda 40 erw o dir i'w archwilio, mae digonedd i’w weld.
Dilynwch y llwybr tarmac eang, sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau, o'r plasty i Goedwig Church Bunk a chymerwch funud i orffwys ar fainc wrth i chi fwynhau golygfeydd ar draws y dŵr a chwilio am wiwerod coch chwilfrydig ymhlith y coed yn y Goedardd. Archwiliwch y llwybrau tarmac llethrog sy’n arwain rhwng meinciau a mannau heddychlon yn Ynysoedd y Caribî sydd â digon i’w ddarganfod drwy gydol y flwyddyn, o goed sbesimen a magnolias hardd i hydrangeas, a choed masarn Japan. Neu, dilynwch y llwybr graean cadarn i’r plasty sydd â seddau ym mhob ystafell a mynediad gwastad i’r llawr gwaelod. Yma fe welwch un o’r murluniau mwyaf a mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig, wedi’i baentio gan yr arlunydd Rex Whistler.
Mae digon o fannau i’w harchwilio ar y dirwedd olygfaol sy’n amgylchynu fila Sioraidd wych Llanerchaeron. Dilynwch y llwybrau o amgylch y llyn tawel ar y Tir Pleser neu ymweld â’r ardd lysiau gyfareddol o’r 18fed ganrif, sy’n gartref i goed ffrwythau hynafol, borderi blodau lliwgar, a gardd berlysiau hyfryd o bersawrus.
O Dderbynfa'r Ymwelwyr mae ramp hir o goncrid sy’n arwain at yr ardd a thiroedd pleserus sydd â llwybrau llydan, gwastad, graean caled, a digon o feinciau i aros a chymryd eiliad chwilio am adar ac enghreifftiau eraill o fywyd gwyllt.
Yn wlad hudolus o rym a dylanwad ers mwy na 2,000 o flynyddoedd, mae Dinefwr yn lleoliad eiconig yn hanes Cymru.
Rhwng mis Mawrth a mis Hydref, dilynwch y llwybr pren hygyrch drwy goedwigoedd corsiog hardd y parc ceirw canoloesol wrth i chi chwilio am geirw brith a rhai o famaliaid ac adar mwyaf anodd Prydain i ddod o hyd iddynt, o ddyfrgwn i ddringwyr coed gwyn. Mae'r llwybr yn 500 metr bob ffordd ac yn arwain at Bwll y Felin sy’n safle heddychlon a hanesyddol.
I gael mynediad i Dŷ Newton, dilynwch y dreif tarmac o’r maes parcio i'r prif giatiau, lle mae’r wyneb yn troi’n raean wedi’u gywasgu, ac ewch i mewn i’r tŷ gan ddefnyddio’r ramp hygyrch. Mae lifft bach ar gael i’ch helpu i grwydro o amgylch y Llawr Gwaelod, y llawr Cyntaf, yr Islawr ac o’r fan hon, mae mynediad gwastad i’r caffi hefyd i chi fwynhau gyda danteithion blasus.
Dewch i ymweld â’r werddon heddychlon hon ar gyrion Caerdydd sydd â rhywbeth newydd i’w ddarganfod ar bob ymweliad.
Casglwch daflen groeso o’r Ganolfan Croesawu Ymwelwyr mynediad gwastad a dilynwch y llwybr heb risiau ar hyd y tarmac a’r llwybrau graean, cul ar adegau, drwy ystafelloedd gardd cain â thema, lawntiau ffurfiol ysgubol, gardd rhosod persawrus, a gardd gegin gynhyrchiol sydd wedi arfer tyfu pob math o ffrwythau, llysiau a blodau wedi’u torri. Peidiwch â cholli’r Tŷ Gwydr Trofannol sy’n fwrlwm o bethau rhyfeddol hyfryd o degeirianau a gwinwydd i gacti a phlanhigion suddlon - mae mynediad yn wastad gyda drws ysgafn y gellir ei wthio ar agor yn hawdd.
I wneud mynediad yn haws, mae cadeiriau olwyn a sgwter symudedd ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ac mae bygi ymwelwyr dan ofal gwirfoddolwyr ar gael bron bob dydd (gwiriwch ymlaen llaw i gadarnhau argaeledd).
Wedi’i leoli ar ran mwyaf Gorllewinol Penrhyn Gŵyr, mae Bae Rhosili yn hafan i fywyd gwyllt gyda morloi llwyd, adar morol a blodau gwyllt. O’r maes parcio yn Rhosili mae yna daith gerdded addas i bramiau, hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyd pen y clogwyn i hen safle Gwylwyr y Glannau sydd 0.8 milltir i bob cyfeiriad. Mae’r llwybr gwastad hwn yn dilyn llwybr tarmac llydan y rhan fwyaf o’r ffordd, ac mae amryw o feinciau yno i chi gymryd seibiant a mwynhau golygfeydd hyfryd traeth hir tywodlyd Rhosili, sydd â’r Hen Reithordy yn edrych drosto, bwthyn gwyliau mwyaf poblogaidd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae 0.2 milltir olaf y llwybr ar draws glaswellt byr, gwastad ac mae’n dod i ben gyda golygfeydd dramatig o'r ynys lanw, Pen Pyrod.
Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed i wella hygyrchedd ar draws Ystad Stagbwll, felly archebwch dramper (sgwter symudedd addas ar gyfer bob tir) neu gadair olwyn traeth am ddim o Ganolfan Stagbwll i archwilio mannau pellach yn rhwydd. Bydd ein Map Hygyrchedd yn dangos y llwybrau gorau i chi a chyda choetiroedd aeddfed, traethau tywodlyd, llynnoedd dŵr croyw a gerddi ffurfiol, mae llawer i’w weld. I weld golygfeydd arfordirol, dilynwch y llwybr 1.2 milltir o Ganolfan Stagbwll, ar draws y Bont Wyth Bwa ac ar hyd llwybr fferm garw (addas ar gyfer cerbydau tramper a phramiau) i Gei Stagbwll lle byddwch yn dod o hyd i fynediad ramp i ystafell de'r Boathouse lle gallwch fwynhau rhywbeth bach blasus cyn y daith yn ôl. Neu chwiliwch am lilïau dŵr a phrofwch y trawsnewidiad o goetir i arfordir wrth i chi ddilyn y llwybr 1 filltir o Ganolfan Stagbwll at y Bont Wyth Bwa, ar hyn Llynnoedd Bosherston, ac ymlaen i draeth De Aberllydan (addas i gerbydau tramper a chadeiriau olwyn).
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Gyda lawntiau ysgubol, llyn sarff a llawer o goed hanesyddol, mae digon i’w ddarganfod yn y gerddi a’r parcdir yn Nhŷ Tredegar. Dilynwch y llwybrau llydan caled cyfeillgar i gadeiriau olwyn a phramiau i ganol y gerddi ffurfiol ac archwiliwch Ardd y Berllan gyda’i blodau gwyllt a’i choed afalau, yr Ardd Gedrwydd gyda’i ffiniau llysieuol mawr a'i phyrth aur addurnedig, a Gardd yr Orendy gyda’i llawr addurniadol cywrain. Gyda sawl mainc i eistedd ac ymlacio, dyma’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb bywyd y ddinas.
Ar ôl archwilio’r gerddi ffurfiol ewch i’r Ardd Golchdy, gardd gymunedol hygyrch, sy’n fwrlwm o blanhigion a llysiau sy’n gyfeillgar i wenyn neu ewch i’r parcdir sy’n gyforiog o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn. Yma, mae sawl llwybr wedi’i wneud o darmac a graean sy’n arwain at y porthdai ar ochr pellaf y parc, hyd at y llyn, ac i mewn i’r parcdir.
I'r rhai sydd am grwydro ymhellach i ffwrdd, mae Tramper (sgwter symudedd pob tir) hefyd ar gael i’w archebu ymlaen llaw o Dderbynfa'r Ymwelwyr.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.