Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
Cabolwch eich arfwisg a chydio yn eich tarian i roi cynnig ar gyrch yr haf yng ngwersyll hyfforddi marchogion yr Oesoedd Canol. Dewch i ddringo, cydbwyso a phlethu drwy rwystrau i ddod o hyd i heriau’r marchog sydd wedi’u cuddio ar draws y ddrysfa fach a’r cae chwarae.
Ydych chi’n barod am haf o hwyl yn Erddig? Mae yno ddigonedd o ddewis, rhwng gweithgareddau chwaraeon hunanarweiniol i’r teulu oll eu mwynhau ac adrodd storïau a chreu crefftau. Os oes gennych chi egni ar ôl, cofiwch alw heibio Ffau’r Blaidd, yr ardal chwarae naturiol.
Dewch i ddarganfod gweithgareddau haf i ddiddanu’r teulu oll – o rasio o amgylch y ddôl i wisgo gwisg ffansi a rhoi eich perfformiad gorau. Cewch grwydro o amgylch yr ardal chwarae naturiol a chanfod y lle perffaith am bicnic i ymlacio ar ddiwrnod braf o haf.
Gadewch i’ch creadigrwydd ddisgleirio yr haf hwn. Cewch farddoni gyda cherrig, creu campwaith o sialc yn yr ardd, a gweld cynhyrchiad Magic Light yn y tŷ. Dewch i fwynhau gweithgareddau diwrnod mabolgampau teulu, chwarae golff ffrisbi a rhedeg yn wyllt yng Nghoedwig y Llaethdy.
Dewch i danio dychymyg y plant a gweld y byd drwy lygaid pryfyn yng nghwmni Lloyd of the Flies, cyfres gomedi animeiddiedig gan Aardman. Cewch fwynhau’r gweithgareddau rhyngweithiol, a bydd digonedd o hwyl i’r teulu ym mhob cwr o’r ardd drwy gydol yr haf.
Codwch becyn natur sy’n cynnwys ysbienddrych a thaflen chwilio er mwyn archwilio’r ardd brydferth a’i golygfeydd godidog o’r arfordir. Gall y plantos redeg yn wyllt ar y ddôl neu ailgysylltu â natur wrth ddilyn llwybr y peillwyr.
Dewch i gadw’n heini gyda theulu a ffrindiau drwy fwynhau chwaraeon a gemau traddodiadol ar y Lawnt Fawr. Rhwng golff gwyllt y goedwig a chroce, a badminton a phêl fasged fawr, rydych chi’n siŵr o gael oriau o hwyl!
Byddwch yn barod am lanast yn yr ardal chwarae tywod a dŵr, archwiliwch y gerddi ar feiciau cydbwyso ac ymwelwch â’r fferm gyda’i defaid Llanwenog a chobiau Cymreig. Tu mewn, cewch gystadlu â ffrindiau a theulu mewn gêm o Ping Pong.
Gwisgwch eich bŵts cerdded ac archwilio unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU (rhaid archebu lle) neu dilynwch lwybrau’r ystad i archwilio dolydd cyfoethog a choetir yn llawn bywyd gwyllt.
Mae anifeiliaid y Morganiaid wedi dianc o’r ysgubor. Allwch chi ddod o hyd i bob un ohonyn nhw? Cewch chwarae gemau haf yn yr ardd, gwisgo gwisg ffansi yn y tŷ, neu gilio i le tawelach a mwynhau gemau wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid yn y llyfrgell.
Rhwng badminton ar y lawntiau ffurfiol a thenis bwrdd yn y Cloestrau, mae llu o heriau hwyliog i’w cwblhau er mwyn ennill medal gemau Dyffryn. Cofiwch hefyd alw heibio ardal chwarae’r Pentwr Pren ar ei newydd wedd!
Y tu allan, fe ddewch o hyd i groce, cylchoedd hwla a set wyddbwyll enfawr, yn ogystal ag ardal arbennig i chwarae â dŵr. Ewch y tu mewn i wisgo gwisg ffansi a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Ar y parcdir cewch chwilio am Wartheg Parc Gwyn a hyddod brith.
Mae’r ardd goetir hon yn lle perffaith i archwilio byd natur dros ddiwrnod o haf. Dilynwch lwybr y goedwig, adeiladu ffau, rhoi hwb, cam a naid dros y cerrig camu neu weld faint o’r ’50 o bethau i’w gwneud cyn troi’n 11¾’ y gallwch eu cwblhau.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.