![Dwy ynys fechan gron, sef Dinas Fawr a Dinas Bach.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porthor/library/porthor-and-the-whistling-sands-walk.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith Porthor
Mwynhewch arfordir garw ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hon yn daith wych i amgyffred peth o hanes a threftadaeth yr ardal.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio ym Mhorthor, cyfeirnod grid: SH170293
Cam 1
O’r maes parcio dilynwch lwybr yr arfordir ar hyd y llwybr rhwng y ddau gaban toiledau, yna trwy glwstwr o goed helyg.
Cam 2
Cewch olygfeydd gwych o Borthor i lawr i’r dde. Yn Saesneg, mae’r traeth yn cael ei alw yn ‘Whistling Sands’ oherwydd y wich neu sŵn chwibanu y mae’r tywod yn ei wneud dan draed. Dilynwch y llwybr nes dewch chi at fainc a giât mochyn ar y chwith i chi.
Cam 3
Ewch trwy’r giât mochyn a dilyn y llwybr sy’n troelli ar hyd yr arfordir. Rydym yn adfer llethrau’r clogwyn ar y dde i chi, trwy ddefnyddio chwistrellu o’r awyr i reoli rhedyn a mynd yn ôl at draddodiad pori’r arfordir.
Cam 4
Byddwch yn wyliadwrus yma; efallai y byddwch chi’n ddigon lwcus i weld morlo, llamhidydd neu hyd yn oed ddolffin yn nofio oddi ar yr arfordir.
Cam 5
Y ddwy ynys i lawr ar y dde i chi yw Dinas Bach a Dinas Fawr. Ymhellach ar hyd yr arfordir yn y pellter fe welwch chi gopa Mynydd Anelog yn codi o Fôr Iwerddon.
Cam 6
Yn fuan ar ôl i chi fynd heibio’r ynys gyntaf fe ddewch at giât mochyn gydag un arall yn union ar y chwith i chi. Ewch trwy’r ddwy, gan ddilyn yr arwyddion i fyny llethr graddol.
Cam 7
Dilynwch yr arwyddion o gwmpas ochr y cae i fyny at fferm Carreg. Trowch i’r dde trwy’r giât mochyn olaf a dilyn yr arwyddion oren heibio Carreg i’r ffordd. Chwiliwch am y garreg goch, iasbis, arbennig, yr oedd gwaith yn arfer tyllu amdani yma ar fferm Carreg.
Cam 8
Pan gyrhaeddwch chi’r ffordd trowch i’r chwith. Ar ôl tua 650 llath (600m) fe welwch chi arwydd Porthor. Dilynwch y lôn yn ôl i’r man cychwyn yn y maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio ym Mhorthor, cyfeirnod grid: SH170293
Map llwybr
![Map o lwybr Porthor yng Ngwynedd, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porthor/library/porthor-and-whistilng-sands-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Golygfa dros giât mochyn gyda grisiau yn mynd i lawr trwy laswellt at y lan, gyda’r môr tu hwnt a’r haul yn isel yn yr awyr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porth-y-swnt/library/view-porth-meudwy-coast-path-porth-y-swnt-wales.jpg?auto=webp&width=733&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith arfordirol Porth Meudwy
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![Golygfa o’r machlud dros y traeth ym Mhorthor, Gwynedd. Mae’r môr ar drai ac mae cerrig mawr a mân wedi eu gwasgaru ar y tywod yn y blaendir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/conwy-suspension-bridge/library/beach-whistling-sands-porthor-wales-3226.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Gweithgareddau awyr agored ym Mhorthor
Nid yn unig mae ein harfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.
![Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/marloes-sands-and-mere/library/winter/view-coast-walker-marloes-pembrokeshire-wales-1770573.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
![Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/porthor/library/view-porthor-beach-wales-1326709.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)