Taith coetir Castell y Waun
Ar y daith gylchol trwy goetir 2.5 milltir hawdd hon cewch olygfeydd gwych o’r parcdir, a rhywbeth i’ch rhyfeddu yn y canol. Mae ar hyd llwybrau yn bennaf, ond mae’r rhan olaf trwy gaeau agored.
Cyfanswm y camau: 12
Cyfanswm y camau: 12
Man cychwyn
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Cam 1
Gadewch y maes parcio a mynd i fyny’r bryn tua’r castell.
Cam 2
Ewch yn syth ymlaen, heibio ffordd sy’n mynd i’r dde i chi.
Cam 3
Dilynwch y llwybr i’r dde, gydag arwyddion i’r daith goetir.
Cam 4
Mae’r guddfan adar ar y dde i chi, cymrwch gip y tu mewn i weld beth allwch chi ei weld yn y coed.
Cam 5
Cadwch i’r chwith lle mae’r llwybr yn fforchio.
Cam 6
Mae giât o’ch blaen i Goed y Sied Geirw. Naill ai ewch yn syth ymlaen a neidio i bwynt 8, neu dilynwch y llwybr i lawr i’r dde i weld yr hen gastanwydden bêr ym mhwynt 7.
Cam 7
Tua hanner ffordd ar hyd y llwybr ar y chwith i chi fe welwch chi gastanwydden bêr. Trowch yn ôl a dychwelyd at y giât.
Cam 8
Ewch trwy’r giât i Goed y Sied Geirw. Dilynwch y llwybr sydd yn union o’ch blaen trwy’r coed ac i fyny’r llethr. Chwiliwch am lwybr bach ar y dde i chi.
Cam 9
Ym mhen draw’r llwybr hwn fe welwch chi blinth lle'r oedd cerflun o Hercules yn arfer sefyll, yn edrych dros Giatiau Davies ac allanfa’r ystâd. Ar ôl dod o hyd i’r plinth, ewch yn ôl i’r prif lwybr a’i ddilyn trwy Goed y Sied Geirw.
Cam 10
Ewch trwy’r giât sydd yn union o’ch blaen, gan adael Coed y Sied Geirw, a mynd yn syth ar draws y cae gan ddilyn y marcwyr glas.
Cam 11
Pan gyrhaeddwch chi gornel y cae, ewch trwy’r giât mochyn a throi i’r chwith.
Cam 12
Daliwch i fynd yn syth ar hyd y cae gan ddilyn y saethau glas i fyny llethr graddol. Yn y pen draw byddwch yn cerdded ar ha-ha yr ystâd, gyda Choed y Tir Pleser ar y chwith i chi. Daliwch i fynd nes cyrhaeddwch chi giât ger y ffordd at y castell ar y chwith i chi. Er mwyn cwblhau eich taith ewch yn syth ymlaen i ddychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gylchol Brwydr Crogen
Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.
Taith Llwyn y Cil yng Nghastell y Waun
Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.
Taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun
Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymweld ag ystâd Castell y Waun
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.