
Taith gylchol Brwydr Crogen
Chwiliwch am Borth y Meirw a safle Brwydr Crogen ar y daith gylchol hon o Gastell y Waun. Wrth gerdded ochr yn ochr â Chlawdd Offa byddwch yn dod ar draws 1,000 o flynyddoedd o hanes a gwrthdaro. Mae’r daith yn un ganiataol yn rhannol, ac felly o fis Ebrill i fis Medi yn unig y mae ar gael.
Cyfanswm y camau: 10
Cyfanswm y camau: 10
Man cychwyn
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Cam 1
Gadewch y maes parcio, ewch heibio’r Fferm a throi i’r dde pan gyrhaeddwch chi’r ffordd.
Cam 2
Ar ôl 100 llath, trowch i’r dde a dilyn y llwybr i lawr trwy’r coetir. Llwybr caniataol yw hwn, sydd ar agor o fis Ebrill i fis Medi.

Cam 3
Cerddwch i lawr y llwybr, ewch ymlaen dros y gamfa a dilyn y pyst marcio gwyn trwy’r cae. Arferid galw’r cae hwn yn ‘the chase’ a chredir ei fod yn rhan o’r hen barc ceirw. Mae darn sydd wedi cadw’n dda o Glawdd Offa ar y dde i chi. Ewch ymlaen i waelod y cae a dringo dros y gamfa.
Cam 4
Ewch ymlaen i lawr y llechwedd trwy’r coed i waelod y dyffryn. Fe welwch y dderwen anferth wrth Byrth y Meirw ar y chwith i chi. Credir bod y goeden yn dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, felly byddai’n sefyll yn 1165 yn ystod Brwydr Crogen. Mae gwybodaeth am Frwydr Crogen yn nes ymlaen ar y llwybr ar y chwith i chi. Daliwch i fynd i lawr y llwybr. Peidiwch â chroesi’r ffordd – yn hytrach trowch i’r dde ar ôl 10 llath (9m) ac yna dilyn y trac i’r dde.

Cam 5
Ar ôl 500 llath (457 m) trowch i’r dde yn y fforch ac anelu i fyny’r rhiw gyda’r coetir ar y dde i chi.
Cam 6
Ewch ymlaen i fyny’r rhiw, gan fynd heibio fferm, am 600 llath eto (548m).
Cam 7
Cymrwch y trac ar y dde trwy’r giât mochyn gydag arwydd i’r cae gan ddilyn y pyst marcio. Ewch ymlaen trwy’r caeau.
Cam 8
Ar ôl 250 llath (229m) ewch trwy’r giât mochyn metel ac anelu i’r chwith o’r tai. Ewch ymlaen trwy’r caeau. Mae golygfa hyfryd o Gastell y Waun ar y dde i chi.
Cam 9
Trowch i’r dde trwy’r giât mochyn nesaf a dilyn llwybr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r dde o’r tai.
Cam 10
Daliwch i ddilyn y llwybr trwy’r cae yn ôl i faes parcio Castell y Waun.
Man gorffen
Maes parcio Castell y Waun. Cyfeirnod grid: SJ267384
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn


Taith Llwyn y Cil yng Nghastell y Waun
Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.

Taith yr Hen Golff yng Nghastell y Waun
Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.

Taith coetir Castell y Waun
Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymweld ag ystâd Castell y Waun
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.