
Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth
Cerddwch i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr, mwynhewch y golygfeydd ac ymlwybrwch drwy dirweddau hynafol cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd.
Fflora a ffawna
Mae Cefnen Rhosili yn ardal o rostir isel ac yn gartref i amrywiaeth o adar a phryfed gan gynnwys morgrugyn du y gors, sy’n greadur bach prin. Mae arfordir de Gŵyr yn gartref i lawer o blanhigion ac adar prin, gan gynnwys llysiau bystwn a brain coesgoch.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Cam 1
Dechreuwch ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cerddwch ar hyd y ffordd, heibio’r safle bws. Dilynwch y llwybr troed i’r chwith tua’r fynwent a heibio Eglwys y Santes Fair. Wrth y gyffordd â’r trac cerrig, ewch i’r chwith a dilynwch y trac hwn nes i chi gyrraedd gât ag arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Cefnen Rhosili.
Cam 2
Ewch i fyny’r bryn drwy’r rhostir. Mae’n serth, felly cymerwch seibiant ar y ffordd, cyn dringo i frig y Gefnen.
Cam 3
Dilynwch y prif lwybr ar hyd ymyl y Gefnen. Mae’r ffagl yn nodi pwynt uchaf Penrhyn Gŵyr, ac mae hefyd yn dynodi safle carnedd o’r Oes Efydd a adeiladwyd tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth i chi barhau ar hyd llwybr y grib, byddwch yn pasio gweddillion siambrau claddu o Oes y Cerrig, sef Sweynes Howes.
Cam 4
Mae’r grib yn mynd â chi drwy ardal eang o rostir. Ymhellach i lawr y llethr, i’r dde, mae yna ardaloedd o rostir gwlyb.
Cam 5
Wrth i chi gyrraedd hanner ffordd ar hyd y Gefnen, fe welwch weddillion gorsaf radar o’r Ail Ryfel Byd o’ch blaen. Ewch drwy’r ardal hon ac i fyny’r llethr yn y pen pellaf.
Cam 6
O’r fan hon mae’r llwybr yn disgyn yn serth tuag at faes gwersylla Hillend. Ewch mewn i’r safle ac yn syth heibio i Gaffi Eddie a throi i’r chwith ar y traeth. Rydych chi tua hanner ffordd nawr.
Cam 7
Trowch i’r chwith i’r traeth ac ewch yn ôl tua Rhosili.
Cam 8
Ar ôl i chi basio’r Helvetia, cadwch olwg am y llethr yn ôl i frig Clogwyni Rhosili.
Cam 9
Ar y brig, trowch i’r dde i ddychwelyd i’r maes parcio.
Man gorffen
Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.