![Gŵyr Golygfa o ben clogwyn o draeth euraidd wedi’i amgylchynu gan fryniau gwyrdd, gyda dau fwthyn gwyn ar ei ymyl](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/pwll-du-bay-rhosili-and-south-gower-wales-1137405.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Taith gerdded heriol drwy ddyffryn cudd. Cewch ddarganfod byd dirgel o ogofâu calchfaen, afonydd tanddaearol a choetir hynafol, cyn dod nôl i olau dydd ar un o draethau harddaf, diarffordd Penrhyn Gŵyr. Gall y rhai mwyaf sylwgar ddod o hyd i goed fel y gerddinen wyllt.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes Pentref Kittle, cyfeirnod grid: SS573893
Cam 1
Gan ddechrau ym maes pentref Kittle, cerddwch heibio i arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan gadw fferm Great Kittle ar eich ochr dde, a dilynwch y llwybr i lawr i’r coed. Mae’r llwybr yn mynd i lawr am ryw 0.25 milltir (0.4km) a gall fod yn llithrig ar ôl glaw. Pan gyrhaeddwch chi fforch yn y llwybr, cadwch i’r chwith gan fynd lawr y grisiau nes i chi gyrraedd ffens ar y dde.
Cam 2
Ewch ymlaen i lawr y llethr serth i’r gwaelod a throi i’r dde ar hyd gwely sych yr afon. Croeswch yr afon er mwyn cerdded ar yr ochr chwith, gan gymryd gofal ar arwyneb anwastad y llwybr am ryw 200 llath (180m). Mae’r llwybr yn croesi nôl dros yr afon i’r ochr arall yn y fan yma.
Cam 3
Mae’r llwybr fel arfer yn fwdlyd yma. Gwrandwch am sŵn yr afon wrth i chi agosáu at Guzzle Hole.
Cam 4
Gallwch weld mwynglawdd Long Ash ar y chwith. Cynhyrchwyd arian a phlwm yma hyd at 1854. Mae rhwystr wedi ei osod er mwyn gwarchod mannau clwydo ystlumod pedol mwyaf a lleiaf. Mae gweddillion hen fythynnod y cloddwyr gerllaw hefyd.
Cam 5
Croeswch yr afon a dringo ychydig o risiau, gan gadw at yr ochr chwith.
Cam 6
Cyn hir byddwch yn dod ar draws un o dair pont sy’n croesi’r afon ar hyd y dyffryn. Roedd y dyffryn unwaith yn lle prysur yn darparu bwyd, tanwydd a gwaith i nifer o bentrefi cyfagos ac mae nifer o lwybrau’n dal i gysylltu cymunedau â’r goedwig. Peidiwch â chroesi’r bont, ond ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr ar lan yr afon. Cadwch lygad am yr hen waliau cerrig ar y dde wrth i chi gerdded; mae’r rhain yn olion o gyfnod pan roedd anifeiliaid yn pori yn y dyffryn a phan roedd llawer llai o goed yma nag sydd heddiw.
Cam 7
Dilynwch y llwybr i mewn i’r ddôl o’ch blaen. Mae dolydd gwlyb y dyffryn wedi eu cofrestru’n dir comin. Mae gwartheg yn pori’r dolydd, ac maen nhw’n gynefin i sawl math o flodau gwyllt. Dilynwch y llwybr wrth iddo arwain allan o’r ddôl a throi nôl i ddilyn glan yr afon. Cyn hir byddwch yn cyrraedd pont arall, ond peidiwch â’i chroesi – ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd fforch.
Cam 8
Wrth y fforch, cadwch i’r chwith. Cyn hir byddwch yn cyrraedd troad i’r dde yn y llwybr; ewch ymlaen ar hyd y llwybr wrth ochr yr afon gan ddilyn yr arwydd i Fae Pwll Du.
Cam 9
Ewch heibio’r ffens sydd ar ochr y llwybr a phan gyrhaeddwch y fforch dilynwch y llwybr i’r chwith i lawr y rhiw. Peidiwch â chroesi’r bont. Pan gyrhaeddwch yr ardd breifat trowch i’r chwith a cherdded at y traeth.
Man gorffen
Dyffryn Llandeilo Ferwallt, cyfeirnod grid: SS573893
Map llwybr
![Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/bishopston-valley-walk-map-wales.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Dynes gyda chi yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych allan i’r môr ar ddiwrnod cymylog](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/pennard-pwll-du-and-bishopston-valley/library/dog-walker-on-pennard-cliffs-gower-wales-771848.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.
![Yr olygfa tuag Ynys Weryn, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/view-towards-worms-head-gower-wales-771868.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.
![Mwynhewch y llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas traeth Rhosili, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/1546263-rhosili-beach-gower.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/visitor-view-of-bay-rhosili-south-gower-coast-wales-1504652.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
![A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winter's day.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/peak-district-derbyshire/places/ilam-park-dovedale-and-the-white-peak/library/1620830-muslim-hikers---ramadan-hike-at-ilam-park-dovedale-and-the-white-peak-derbyshire.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)