
Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Taith gerdded brydferth ond heriol ar hyd arfordir De Gŵyr, yn eich tywys ar hyd clogwyni a thrwy ddyffrynnoedd coediog. Mwynhewch olygfeydd gogoneddus, darganfyddwch blanhigion prin a diddorol, ac archwiliwch fryngaer o Oes yr Haearn.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874
Cam 1
Dechreuwch gyda chaban maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r dde ohonoch a cherddwch ar hyd y trac am tua milltir (1.6km). Ar ddiwrnod clir cewch olygfeydd ysgubol ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a Dyfnaint.
Cam 2
Pan gyrhaeddwch Hunts Farm, ewch i’r dde tua llwybr yr arfordir, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Pen Pwll Du. Bydd angen dringo rhai grisiau, gyda wal i’r chwith ohonoch.
Cam 3
Ar ôl pasio pwll dŵr bach i’r chwith ohonoch, cadwch olwg am y llwybr sy’n arwain i’r dde ac ewch i fyny’r bryn, gan gadw’r ffens ar y chwith. Wedi cyrraedd y brig, cadwch olwg am y cloddiau a’r ffosydd. Dyma weddillion caer bentir o Oes yr Haearn.
Cam 4
Nawr fe welwch High Pennard, sy’n un o gyfres o gaerau pentir o Oes yr Haearn a adeiladwyd ar wasgar ar hyd arfordir De Gŵyr. Mae crochenwaith sy’n dyddio o’r ganrif gyntaf neu’r ail ganrif OC wedi’i ddarganfod yma.
Cam 5
Daliwch ati i ddilyn llwybr yr arfordir drwy’r eithin ac o gwmpas y pentir.

Cam 6
Rydych nawr yn sefyll uwchben clogwyn o’r enw Graves End – mae’r enw’n gysylltiedig â’r ‘Caesar’, llong a ddrylliwyd yma ym 1760.
Cam 7
Gan gadw i’r chwith, ewch o gwmpas y pentir. Cofiwch dreulio amser yn edmygu’r olygfa dros Bantam Bay.
Cam 8
Dilynwch y llwybr, gan ddringo’r llethr serth i frig y pentir.
Cam 9
Dilynwch yr arwyddion ar gyfer llwybr yr arfordir, i fyny i Fferm Pennard. Ymhen tipyn, gallwch droi i’r dde i gerdded drwy goedwigoedd Bae Pwll Du (cofiwch fod hwn yn llethr serth), neu droi i’r chwith i gerdded yn ôl ar hyd yr heol i ailymuno â Cham 2. Ffordd cefn gwlad yw hon, felly byddwch yn ofalus.
Man gorffen
Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth
Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.

Cylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili
Crwydrwch gaeau’r Vile gyda golygfeydd o Fae Rhosili’n gefnlen berffaith. Yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac yn enghraifft o ddull ffermio lleiniau canoloesol, maent wedi’u hadfer ac yn cael eu ffermio i greu cynefinoedd newydd.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.