Skip to content
Golygfa o uchder o’r Vile, system o gaeau lleiniog canoloesol islaw pentref Rhosili, Gŵyr, Cymru. Yn y blaendir gellir gweld toeau tai pentref Rhosili, a gellir gweld ymyl y clogwyn a’r môr y tu hwnt yn y pellter.
Y Vile, system o gaeau lleiniog canoloesol islaw pentref Rhosili | © National Trust Images/John Miller
Wales

Cylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili

Cymerwch eich amser yn mwynhau’r gylchdaith hon ar arfordir Gŵyr. Mae’r Vile yn enghraifft wych o ddull ffermio lleiniau canoloesol, ac mae wedi’i hadfer i fod yn fôr o flodau gwyllt a pheillwyr. Crwydrwch drwy’r caeau, sydd wedi’u henwi’n unigol, a gweld sut rydym yn eu ffermio mewn ffordd ecogyfeillgar, gyda gweirgloddiau newydd a chnydau traddodiadol.

Cyfanswm y camau: 9

Cyfanswm y camau: 9

Man cychwyn

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414880

Cam 1

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth GenedlaetO’r maes parcio, cerddwch i gornel chwith isaf y cae gorlif. Cadwch olwg am gât â’r arwydd Caer Ditch. Ewch drwy’r gât a throwch i’r dde, gan ddilyn y llwybr wrth ymyl y weirglodd. Fe welwch bostyn derw gyda saeth werdd yn dangos y ffordd. Dilynwch y llwybr drwy Barc y Castell Uchaf, i mewn i ddôl arall, a cherddwch ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd y gât i lwybr yr arfordir. hol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414880

Gât bren mewn ffens rhwng caeau, gyda’r môr yn y pellter
Cadwch olwg am gât â’r arwydd Caer Ditch | © National Trust

Cam 2

Ewch drwy’r gât, trowch i’r chwith i lwybr yr arfordir a cherddwch ar hyd y trac, gan gadw golwg am gât i’r chwith ohonoch â’r arwydd Limedland.

Gât bren lydan yn arwain at lwybr yr arfordir, gyda bae llydan tu draw, a phostyn gwyrdd ag arwydd gwyrdd yn y blaendir
Ewch drwy’r gât i lwybr yr arfordir, gyda golygfeydd o Fae Rhosili | © National Trust

Cam 3

Ewch yn ôl i mewn i’r Vile drwy’r gât i Limedland a dilynwch y llwybr, gan fynd i Linseedland, gan gadw golwg am gât i’r chwith â’r arwydd Withyland.

Cam 4

Ewch drwy’r gât i Withyland a throi i’r dde yn syth, gan ddilyn y saeth werdd.

Cam 5

Dilynwch yr arwyddion gwyrdd drwy gât arall, gan droi i’r dde i drac (fe welwch wylfan Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau ac Ynys Weryn yn y pellter). Dilynwch y trac hwn i’r chwith.

Cam 6

Lle mae’r trac yn gwahanu, ewch i’r chwith, fel eich bod yn edrych i fyny’r trac tua’r tai yn y pentref.

Cam 7

Dilynwch y trac tan eich bod yn gweld gât ar y dde, sy’n arwain at drac mwy glaswelltog. Ewch drwy’r gât a cherdded ar hyd y trac.

Trac yn gwyro i’r chwith, gyda gât bren fechan ar y dde. Mae tai gwyn i’w gweld, ond y dim, uwchben y clawdd gwyrdd wrth ymyl y trac.
Ewch drwy’r gât i’r dde ohonoch, i drac mwy glaswelltog. | © National Trust

Cam 8

Byddwch yn dod at gât arall ar y chwith. Ewch drwy’r gât a cherdded ar hyd ymyl y cae.

Gât fetel lydan rhwng dau gae glaswelltog, gyda chamfa bren i’r dde ohoni.
Ewch drwy’r gât ar eich chwith | © National Trust

Cam 9

Daliwch i fynd nes i chi gyrraedd gât arall a throwch i’r dde i’r trac eto. Ar ôl tua 65 llath (60m) fe ddewch at gât arall – ewch yn eich blaenau nes i chi gyrraedd y gât nesaf i ddychwelyd i’r maes parcio.

Man gorffen

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414880

Map llwybr

Map Arolwg Ordnans o’r gylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili
Map o’r gylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Lliw porffor y rhostir gyda chefnlen arfordirol ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru
Llwybr
Llwybr

Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth 

Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 5 (km: 8)
Gŵyr Golygfa o ben clogwyn o draeth euraidd wedi’i amgylchynu gan fryniau gwyrdd, gyda dau fwthyn gwyn ar ei ymyl
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt 

Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Yr olygfa tuag Ynys Weryn, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded pentir Rhosili 

Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.5 (km: 5.6)
Mwynhewch y llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas traeth Rhosili, Cymru
Llwybr
Llwybr

Llwybr Rhedeg Rhosili 

Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.

Gweithgareddau
Rhedeg
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8) to milltiroedd: 0 (km: 0)

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.
Erthygl
Erthygl

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr 

Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)