Llwybr Rhedeg Rhosili
Mae’r llwybr rhedeg 10km amrywiol hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd ochr Cefnen Rhosili ac yn ôl ar hyd 3 milltir o draeth euraidd, gyda’r ail hanner yn estyn draw at bentir dramatig Ynys Weryn.
Ffermio ecogyfeillgar
Yng nghaeau'r ardal hon gallwch weld un o enghreifftiau gorau'r wlad o’r dull ffermio traddodiadol o gaeau lleiniau agored. Rydyn ni'n ffermio gan ddefnyddio dulliau sy'n cefnogi bywyd gwyllt, gan greu gweirgloddiau (dolydd gwair) newydd a phlannu cnydau traddodiadol sy'n creu cynefinoedd perffaith ar gyfer planhigion âr, adar a pheillwyr.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, SS 414880
Cam 1
Trowch i'r dde wrth adael mynedfa'r maes parcio a dilyn yr heol tua'r dwyrain gan ddefnyddio'r llwybr troed ar hyd ochr mynwent yr eglwys, cyn ailymuno â'r heol wrth gyffordd yn y llwybr.
Cam 2
Trowch i'r chwith yma ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) a'i ddilyn tua'r gogledd. Trowch i'r chwith i ddilyn ochr y bryn gan gadw at ochr y môr wrth basio'r Begwn nes i chi gyrraedd y ffordd yn Hillend.
Cam 3
Trowch i'r chwith, gan gadw at Lwybr Arfordir Cymru (LlAC), gan ei ddilyn tua'r gorllewin nes cyrraedd y traeth. Gadewch LlAC a throi i'r chwith i draeth Rhosili a rhedeg tua'r de ar hyd tywod cadarn, gwastad yr holl ffordd yn ôl at y llwybr serth islaw pentref Rhosili yng nghornel dde-ddwyreiniol y traeth.
Cam 4
Dringwch y llwybr serth nôl at y dechrau, ond trowch i'r dde wrth y maes parcio a dilyn Llwybr Arfordir Cymru, sydd hefyd yn rhan o Lwybr Gŵyr, at Ynys Weryn. Dilynwch y llwybr heibio i'r Hen Gastell, gyda dolydd ar y chwith i chi, i gyrraedd yr wylfan.
Cam 5
Trowch i'r chwith a dilyn Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) o amgylch y pentir nes cyrraedd cilfach a chyffordd yn y llwybr. Trowch i'r chwith gan adael LlAC, ac ewch tua’r tir ar hyd ymyl y caeau lleiniau hynafol. Trowch i'r chwith pan gyrhaeddwch y gyffordd nesaf a dilyn y llwybr ar hyd ymyl y caeau yn ôl i’r dechrau.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili, SS 414880
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.
Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.