
Taith gerdded pentir Rhosili
Mae’r llwybr hwn ar draws y pentir yn cynnig golygfeydd o Fae Rhosili ac allan i Ynys Weryn, cyn eich tywys yn ôl drwy’r Vile, gweddillion tirwedd hynafol.
Da byw ar hyd y llwybr
Mae merlod a gwartheg yn bresennol ar hyd y llwybr drwy gydol y flwyddyn.
Cyfanswm y camau: 10
Cyfanswm y camau: 10
Man cychwyn
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Cam 1
O faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda thraeth Rhosili a Gwesty Worm’s Head i’r dde ohonoch, cerddwch tuag at siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ar eich chwith). Y siop yw un o hen fythynnod gwylwyr y glannau.
Cam 2
Pan gyrhaeddwch y siop, fe welwch draeth 3-milltir Rhosili i’r dde ohonoch.

Cam 3
Ewch heibio’r siop a thrwy’r gât i gerddwyr i barhau ar hyd y trac, gyda’r clogwyni i’r dde ohonoch.
Cam 4
I’r dde o’r llwybr fe welwch gyfres o dwmpathau. Dyma weddillion un o’r 32 (o leiaf) o gaerau Oes Haearn sydd i’w gweld ym Mhenrhyn Gŵyr. Roedd y golygfeydd godidog o’r llecyn hwn yn galluogi trigolion y gaer i weld eu gelynion o bell.
Cam 5
I’r chwith o’r trac mae wal gerrig yn amgáu system ‘cae lleiniau’ agored ganoloesol. Y Vile yw hwn, ac fe’i cyflwynwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Mae’r system hon bellach yn cael ei rheoli er budd bywyd gwyllt yn bennaf gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddefnyddio dulliau ffermio ecogyfeillgar.
Cam 6
Lle mae’r llwybr arwynebog yn troi’n sydyn i’r chwith, cerddwch syth ymlaen, gan ddilyn llwybr glaswellt llydan tuag at wylfa Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (NCI). O’r fan hon, cewch olygfa ysblennydd o Ynys Weryn. Adeiladwyd yr wylfa yn oes Fictoria, ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.
Cam 7
Wrth wylfa’r NCI trowch i’r chwith i gerdded ar hyd pen y clogwyn. Byddwch yn ymuno â llwybr sy’n rhedeg wrth ochr y wal gerrig. Ewch yn eich blaenau tan fod y llwybr a’r wal yn troi’n sydyn i’r chwith, yn edrych dros Fall Bay.

Cam 8
Cadwch at y llwybr ar y chwith.
Cam 9
Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd ysgol haearn a grisiau sy’n arwain at gât i gerddwyr. Dringwch y grisiau, drwy’r gât, a dilynwch y llwybr ar y dde i fynd i fyny’r rhiw a thrwy gât arall.

Cam 10
Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr troed sydd wedi’i farcio drwy gaeau defaid ac i lôn werdd. Mewn dim o dro, fe ddewch at droad sydyn yn ôl i’r chwith. Ewch drwy gatiau’r llwybr ac ar hyd y trac cul, perthog hwn nes i chi gyrraedd lôn letach i’r dde ohonoch. Trowch i’r dde i’r lôn hon a’i dilyn i bentref Rhosili, gan droi i’r chwith i’r ffordd a fydd yn eich tywys yn ôl i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Man gorffen
Pentref Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)