
Crwydro Cwm Ivy
Bachwch eich binocwlars a ffwrdd â chi i ddarganfod y forfa heli newydd hon sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt. Mae’r llwybr yn pasio dwy guddfan adar ac mae digon o gyfleoedd yma i wylio bywyd gwyllt. Cadwch olwg am ddyfrgwn, glas y dorlan a rhydwyr.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Maes parcio Cwm Ivy (SA3 1DJ). Cyfeirnod grid: SS441933
Cam 1
Gan ddechrau o’r maes parcio (preifat) yng Nghwm Ivy, trowch i’r dde i’r ffordd a dilynwch y lôn (cofiwch roi rhywbeth yn y blwch gonestrwydd).
Cam 2
Cerddwch drwy’r pentref nes cyrraedd gât yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â’r arwydd ‘Coed Cwm Ivy’ arni.
Cam 3
Ewch trwy’r gât a dilyn y llwybr i lawr yr allt. Mae’n troi i’r dde ac ar eich chwith mae craig Cwm Ivy.
Cam 4
Dilynwch y llwybr wrth iddo wyro i’r dde drwy gât ac i mewn i blanhigfa goed. Byddwch yn pasio Burrows Cottage ar y chwith. Cadwch at y llwybr nes cyrraedd cuddfan adar Monterey ar y dde. Beth am alw i mewn i weld beth welwch chi?

Cam 5
O’r fan hon gallwch gario ymlaen at Dwyni Whitffordd neu gerdded yn ôl ar y llwybr at bentref Cwm Ivy a’r maes parcio.
Cam 6
Ychydig cyn i chi gyrraedd y gât yn ôl i’r pentref, ewch i’r chwith a dilynwch y llwybr drwy goedwig llydanddail Cwm Ivy (sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt) nes cyrraedd cuddfan adar Cheriton.

Cam 7
Wrth i chi adael y guddfan adar, aildroediwch y llwybr yn ôl drwy’r coetir hynafol.
Cam 8
Wrth i chi gyrraedd y pentref, trowch i’r chwith i’r ffordd ac ewch yn ôl i fyny’r allt at y maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Cwm Ivy (SA3 1DJ). Cyfeirnod grid: SS441933
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr pili-pala Gogledd Gŵyr
Mwynhewch dro hamddenol o gwmpas Welshmoor i ddarganfod cartref brith y gors, y brithribin gwyrdd a’r gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul.

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.