
Llwybr pili-pala Gogledd Gŵyr
Darganfyddwch Welshmoor, paradwys gudd i fywyd gwyllt. Dros y blynyddoedd, mae dros 25 o wahanol rywogaethau o bili-pala wedi’u gweld yn yr ardal warchodedig hon. Mae’n un o’r llefydd gorau yn Ewrop i weld brith y gors, sy’n bili-pala prin iawn, a’r brithribin gwyrdd, sy’n fwy cyffredin ond llawn mor drawiadol.
Gair o gyngor ar wylio pili-palod
Mae’r tywydd yn ffactor pwysig iawn wrth geisio gwylio pili-palod. Mae diwrnodau poeth, heulog heb lawer o wynt yn ddelfrydol. Mae’r amseru hefyd yn bwysig ar gyfer rhywogaethau fel brith y gors, sydd â thymhorau hedfan byr iawn. Mae rhagor o wybodaeth am amseru eich ymweliad i’w gweld ym mhob cam.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio Welshmoor (Cyf. grid SS51924)
Cam 1
Gan ddechrau yn yr ardal barcio, cerddwch 100m i’r de i ymyl y gors, lle mae’r coed yn marcio’r ffin. Cadwch olwg am bili-palod ar hyd ymyl y coed a’r prysgwydd.
Cam 2
Cerddwch i ffwrdd o’r ffin, tua’r dwyrain-gogledd-ddwyrain, i mewn i’r gors am tua 100m. Yr ardal hon yw un o hoff lecynnau brith y gors.
Cam 3
Nesaf, cerddwch tua’r dwyrain-de-ddwyrain am 150m tuag at ymyl y gors unwaith eto. Cadwch olwg am lecyn agored sy’n gorwedd y tu ôl i linell denau o goed. Dyma un o hoff lefydd y brithribin gwyrdd.

Cam 4
O’r llecyn agored, cerddwch tua’r gogledd-ddwyrain am 125m nes i’r tir ddechrau gwlychu o dan draed, wrth i chi nesáu at nant fechan. Fe welwch ysgallen y gors yn y fan hon – paradwys y peilliwr.
Cam 5
Nesaf, cerddwch i’r gogledd am 50m i ben cribyn. Mae’r trac hwn yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin drwy’r gors. Dilynwch y trac i’r gorllewin am 375m a byddwch yn ôl yn yr ardal barcio.

Man gorffen
Maes parcio Welshmoor (Cyf. grid SS51924)
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn

Crwydro Cwm Ivy
Crwydrwch forfa heli sy’n datblygu o’r newydd yng Nghwm Ivy ar arfordir gogleddol Gŵyr – pa anifeiliaid a bywyd gwyllt welwch chi?

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.