Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Gardd fyd enwog, yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.
Tal-y-Cafn, near Colwyn Bay, Conwy, LL28 5RE
Asset | Opening time |
---|---|
Garden | Gardd | 09:30 - 17:00 |
Tea-room | Ystafell De | 09:00 - 17:00 |
Mynediad olaf i'r ardd hanner awr cyn amser cau | Last entry to the garden half an hour before closing.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £17.60 | £16.00 |
Child | £8.80 | £8.00 |
Family | £44.00 | £40.00 |
1 adult, 3 children | £26.40 | £24.00 |
Magnolia cafe located opposite to garden exit. Serving hot and cold drinks, light bites and cakes. Indoor and outdoor seating
Not National Trust. Located next to the garden entrance
Located in The Dell. Open weekends throughout winter. serving hot and cold drinks and snacks. Outdoor seating only
Second-hand bookshop. Located opposite Magnolia Cafe
From 1 April to 30 September, dogs on short leads (not extendable) are welcome in the garden every Thursday to Sunday inclusive. From 1 October to 31 March, dogs are welcome every day.
Located in the car park, in the garden centre and in The Dell
Pavilion tea-room. Serving hot and cold light bites, drinks and cakes. Indoor and outdoor seating
Not National Trust. Located outside the garden, adjacent to Bodnant Garden Centre
Parcio Bathodyn Glas. Tai bach hygyrch. Llethrau serth, grisiau anwastad a dŵr dwfn a chyflym. Signal ffôn ysbeidiol. Cadeiriau olwyn ar gael.
Accessible toilets are located in the main toilet block, adjacent to the Pavilion Tea Room, in the garden centre and in the Dell toilet block.
Approx. 20 disabled spaces, 100 yards from garden entrance. NB: some of the parking is on a gradient. Vehicles fitted with a hoist or ramp may have difficulties when loading or unloading mobility aides. In the case of difficulties please use the pick up and drop off points at the bottom of the car park.
There are some steep paths within the garden. There are many steps within the garden, which are all avoidable. Please ask at visitor reception for an access map. Some steps have handrails, historic stone steps do not.
Pick up and drop off points at the bottom of the car park adjacent to the Pavilion Tea Room.
Manual wheelchairs are available on a first come first served basis. Ask a member of the team in the car park as you arrive.
Off A470. Signposted from A55, junction 19 | Oddi ar yr A470. Cyffordd 19 oddi ar yr A55
Parcio: 150 yards | 150 llath
Llandudno Junction | Cyffordd Llandudno
The number 25 bus from Llandudno stops outside our gate, please see the Arriva Wales website for bus times | Mae bws rhif 25 o Landudno yn stopio tu allan i'n giatiau, ewch i wefan Arriva Cymru i gael amseroedd y bws
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Gydag 80 erw o hanes garddwriaethol i’w archwilio a’i fwynhau, Gardd Bodnant yw’r lle perffaith i ddod â’ch grŵp, waeth beth fo’r tymor. Dysgwch fwy i gynllunio ymweliad eich grŵp i Gardd Bodnant.
Gallwn eich croesawu i dynnu lluniau priodasol. Am ragor o fanylion cysylltwch â bodnantgarden@nationaltrust.org.uk neu 01492 650460.
80 erw yn cynnwys gerddi ffurfiol, llennyrch llawn llwyni, dolydd a choedwigoedd, glynnoedd a gerddi dŵr. Cartref i gasgliadau planhigion hanesyddol.
Gardd Ddwyreiniol Fictoraidd, gyda Gardd Gylch, Parterre a Bwa Tresi Aur enwog. Terasau Eidalaidd Edwardaidd o welyau rhosod, pyllau dŵr a gardd-ystafelloedd pergola.
Yr Hen Barc, sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Sioraidd, a Dôl y Ffwrnais sy’n gorwedd ar ochr bryn yn edrych dros ardd yr afon.
Y Glyn, Glyn yr Ywen a’r Pen Pellaf: Llwybrau coetir drwy goed brodorol ac egsotig, gan gynnwys magnolia a rhododendron, a hen Goed Campus prin.
Y Felin Binnau, adeilad rhestredig Gradd II o’r 18fed ganrif ar Deras y Gamlas; yr Hen Felin Sioraidd yn y Glyn, a’r Gerdd, beddrod Fictoraidd yn y Llennyrch.
Ystafell de’r Pafiliwn a’r ystafell de Magnolia, gyda seddi dan do ac awyr agored. Caban y Glyn yn gweini cludfwyd gyda seddi awyr agored.
Canolfan arddio, ger y fynedfa i’r ardd arbennig, yn gwerthu rhoddion, cofroddion a phlanhigion arbenigol.
Parc chwarae yn y maes parcio ac ardal chwarae naturiol yn y Pen Pellaf gyda drysfa helyg ac ardal adeiladu den.
Dewch draw i Ardd Bodnant yr haf hwn i gwrdd â Prys a’r Pryfed gan Aardman o 22 Gorffennaf drwy gymryd rhan mewn llu o weithgareddau difyr ac ap helfa pryfed Realiti Estynedig y gall y teulu cyfan eu mwynhau.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.
Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant, Conwy, gogledd Cymru. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.
Mwynhewch y daith hon ar ochr bryn – mae’n ymarfer corff da gyda golygfeydd panoramig i wneud i chi deimlo ar ben y byd.
Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Arhoswch yn yr adeilad rhestredig Gradd II hwn, a’r wisteria yn orchudd drosto. Bydd yr ardd ysblennydd a’r hanes diddorol ar stepen drws Conwy yn gwneud i chi deimlo’ch bod yn camu’n ôl mewn amser.
Mewn 200 erw o barcdir coediog, gyda golygfeydd at Eryri, mae’r gwesty a’r sba yma o’r 17eg ganrif yn lle delfrydol am seibiant bach rhamantus.
Yn swatio ar dir Gwesty Bodysgallen, gyda golygfeydd o Gastell Conwy a mynyddoedd Eryri, mae’r bythynnod hyn yn cynnig encil Cymreig heddychlon.
Dewch i weld y byd trwy lygaid pryfyn gyda Prys a'r Pryfed gan Aardman! | See the world through the eyes of an insect with Aardman's Lloyd of the Flies!
Gyda chorneli clòs, lawntiau eang, terasau mawreddog a choetir gwyrddion, mae sawl gardd yn un ym Modnant.
Crëwyd yr ardd dros 150 mlynedd yn ôl, gyda phlanhigion yn cael eu casglu a'u cludo i Brydain o bellafoedd a gweledigaeth anhygoel cenedlaethau o deulu'r McLaren a'r prif arddwyr Puddle, mae'r hafan hon o harddwch a phethau prin gyda mynyddoedd y Carneddau, Eryri, yn gefnlen, yn llawenydd i'r synhwyrau.
Gyda lliw drwy gydol flwyddyn, gall yr ardd fod yn beth bynnag yr ydych am iddi fod, boed hi'n llawn bwrlwm neu'n hafan o lonyddwch ac ymlacio, mae hwn yn lle arbennig i bob oed.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.
Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Ydych chi erioed wedi meddwl faint o waith y mae’n ei olygu i gadw 80 erw Gardd Bodnant i edrych ar eu gorau? Dysgwch sut mae’r tîm yn gofalu am yr ardd, sy’n gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed sy’n Bencampwyr.
O Wasanaethau Ymwelwyr i Wirfoddolwyr Gardd medrus, mae’r cyfan yn hanfodol i’r tîm. Ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn gwirfoddolwyr newydd yng Ngardd Bodnant.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.