
Llwybr Lawrenni
I fyny’r afon o borthladd prysur Aberdaugleddau mae ‘na fyd dirgel o gymoedd coediog wedi’u boddi, gydag ehangder o forfeydd heli a thraethellau lleidiog. Bydd y gylchdaith arfordirol 3-milltir brydferth hon yn eich tywys drwy goedwig dderw hynafol Lawrenni â’i llethrau serth, uwchben prif afon y Daugleddau, ac ar hyd ffosydd llanwol Garron Pill ac Afon Cresswell. Mae hwn yn llwybr gwych i’w ddilyn mewn unrhyw dymor.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Cei Lawrenni, cyfeirnod grid: SN015065
Cam 1
O Gei Lawrenni trowch i’r chwith, gan fynd heibio’r Quayside Tearooms ar y chwith.
Cam 2
Dilynwch arwyddion y llwybr drwy’r iard gychod ac i’r coed, gan basio’r maes carafannau ar y dde. Ewch drwy gât fechan i mewn i’r goedwig hynafol. Mae’r llwybr yn gwau ei ffordd drwy’r coed derw cnotiog, ac yn cynnig ambell gip o’r afon islaw.
Cam 3
Mae’r llwybr yn mynd i’r dde, heibio i gwt Sgowtiaid. Mae cornel y goedwig yn lle da i edrych dros y traethellau gyferbyn. Ar draws yr afon fe welwch bentref Llangwm i’r gogledd-orllewin.
Cam 4
Ar ôl 545 llath (500m) mae’r llwybr yn mynd i lawr at lannau Garron Pill ac yn parhau ar hyd llinell y penllanw. Mae coed derw hynafol, â’u gwreiddiau wedi eu dadorchuddio’n rhannol gan y llanw, yn hongian dros y glannau. Ar adeg y distyll (llanw isel) mae adar y glannau’n bwydo yn y mwd yn y ffosydd dwfn.
Cam 5
Ar ôl ymuno â’r heol, cerddwch lan y rhiw at bentref Lawrenni. Pasiwch yr hostel ieuenctid ar y dde cyn mynd i lawr i ganol y pentref a’r eglwys.
Cam 6
Cadwch i’r dde drwy’r pentref i ailymuno â’r heol i Gei Lawrenni.
Cam 7
Gyda choed y naill ochr i’r ffordd unwaith eto – coed llydanddail cymysg erbyn hyn – dychwelwch i Gei Lawrenni.
Cam 8
Edrychwch dros y traethellau (neu ddŵr, yn dibynnu ar gyflwr y llanw) tuag at West Williamston yn y dwyrain. Mae system o gilfachau bach creigiog yn arwain i lawr at forfa heli a thraethellau.
Man gorffen
Cei Lawrenni, cyfeirnod grid: SN015065
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llwybr clogwyni ac ogofâu Lydstep
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn hwyl a sbri i’r teulu i gyd, gan gynnwys tŷ coeden a maes chwarae antur, gyda mynyddoedd Eryri ac Afon Menai yn gefndir godidog.

Llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll
Os hoffech daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, ewch ar hyd llwybr Pyllau Lili Bosherston â Stad Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll
Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.
Cysylltwch
Little Milford: SA62 4ET, Lawrenni: SA68 0PR, West Williamston: SA68 0TL, Sir Benfro
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelwch â Choedwigoedd Cleddau
Mae Coedwigoedd Cleddau’n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna - gyda thirweddau amrywiol, o forfeydd heli a thraethellau lleidiog ar yr aber i goetiroedd derw, mae digon i’w weld yma.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.