![Yr olygfa tuag Ynys Weryn, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/view-towards-worms-head-gower-wales-771868.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded pentir Rhosili
Mae’r llwybr hwn ar draws y pentir yn cynnig golygfeydd o Fae Rhosili ac allan i Ynys Weryn, cyn eich tywys yn ôl drwy’r Vile, gweddillion tirwedd hynafol.
Da byw ar hyd y llwybr
Mae merlod a gwartheg yn bresennol ar hyd y llwybr drwy gydol y flwyddyn.
Cyfanswm y camau: 10
Cyfanswm y camau: 10
Man cychwyn
Siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Cam 1
O faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda thraeth Rhosili a Gwesty Worm’s Head i’r dde ohonoch, cerddwch tuag at siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ar eich chwith). Y siop yw un o hen fythynnod gwylwyr y glannau.
Cam 2
Pan gyrhaeddwch y siop, fe welwch draeth 3-milltir Rhosili i’r dde ohonoch.
![Yr olygfa dros draeth Rhosili ar daith gerdded pentir Rhosili, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/trail-image-rhosili-headland-walk-step-2-rhosili-beach.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 3
Ewch heibio’r siop a thrwy’r gât i gerddwyr i barhau ar hyd y trac, gyda’r clogwyni i’r dde ohonoch.
Cam 4
I’r dde o’r llwybr fe welwch gyfres o dwmpathau. Dyma weddillion un o’r 32 (o leiaf) o gaerau Oes Haearn sydd i’w gweld ym Mhenrhyn Gŵyr. Roedd y golygfeydd godidog o’r llecyn hwn yn galluogi trigolion y gaer i weld eu gelynion o bell.
Cam 5
I’r chwith o’r trac mae wal gerrig yn amgáu system ‘cae lleiniau’ agored ganoloesol. Y Vile yw hwn, ac fe’i cyflwynwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Mae’r system hon bellach yn cael ei rheoli er budd bywyd gwyllt yn bennaf gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddefnyddio dulliau ffermio ecogyfeillgar.
Cam 6
Lle mae’r llwybr arwynebog yn troi’n sydyn i’r chwith, cerddwch syth ymlaen, gan ddilyn llwybr glaswellt llydan tuag at wylfa Sefydliad Cenedlaethol Gwylwyr y Glannau (NCI). O’r fan hon, cewch olygfa ysblennydd o Ynys Weryn. Adeiladwyd yr wylfa yn oes Fictoria, ac mae bellach yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr.
Cam 7
Wrth wylfa’r NCI trowch i’r chwith i gerdded ar hyd pen y clogwyn. Byddwch yn ymuno â llwybr sy’n rhedeg wrth ochr y wal gerrig. Ewch yn eich blaenau tan fod y llwybr a’r wal yn troi’n sydyn i’r chwith, yn edrych dros Fall Bay.
![Yr olygfa dros Fall Bay ar daith gerdded pentir Rhosili, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/trail-image-rhosili-headland-walk-step-7-fall-bay.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 8
Cadwch at y llwybr ar y chwith.
Cam 9
Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd ysgol haearn a grisiau sy’n arwain at gât i gerddwyr. Dringwch y grisiau, drwy’r gât, a dilynwch y llwybr ar y dde i fynd i fyny’r rhiw a thrwy gât arall.
![Ysgol haearn gyda grisiau’n arwain at gât i gerddwyr ar daith gerdded pentir Rhosili, Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/trail-image-rhosili-headland-walk-step-9-iron-bridge.jpg?auto=webp&width=684&dpr=2 2x)
Cam 10
Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr troed sydd wedi’i farcio drwy gaeau defaid ac i lôn werdd. Mewn dim o dro, fe ddewch at droad sydyn yn ôl i’r chwith. Ewch drwy gatiau’r llwybr ac ar hyd y trac cul, perthog hwn nes i chi gyrraedd lôn letach i’r dde ohonoch. Trowch i’r dde i’r lôn hon a’i dilyn i bentref Rhosili, gan droi i’r chwith i’r ffordd a fydd yn eich tywys yn ôl i faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Man gorffen
Pentref Rhosili, cyfeirnod grid: SS414881
Map llwybr
![Map yn dangos llwybr a grisiau taith gerdded pentir Rhosili](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/rhosili-headland-walk-trail-map.jpg?auto=webp&width=767&dpr=2 2x)
Mwy yn agos i’r man hwn
![Gŵyr Golygfa o ben clogwyn o draeth euraidd wedi’i amgylchynu gan fryniau gwyrdd, gyda dau fwthyn gwyn ar ei ymyl](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/pwll-du-bay-rhosili-and-south-gower-wales-1137405.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.
![Mwynhewch y llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas traeth Rhosili, Cymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/1546263-rhosili-beach-gower.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cysylltwch
Ein partneriaid
![Cotswold Outdoor](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/partners/cotswold-outdoor-logo.jpg?auto=webp&width=156&crop=1:1&dpr=2 2x)
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
![Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/southwood-estate/library/visitors-walking-southwood-estate-pembrokeshire-wales-1386592.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
![A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/library/our-cause/communities/hiking-group-on-a-guided-hike-led-by-rangers-at-marsden-moor-west-yorkshire-1618381.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
![An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/baggy-point/library/autumn/adult-child-dog-walking-cliff-baggy-point-devon-1204387.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
![Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/northern-ireland/places/divis-and-the-black-mountain/library/people-walk-divis-black-mountain-1416521.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
![Adeilad gwyn siop a chanolfan ymwelwyr Rhosili, yn y pellter gellir gweld ymyl y clogwyn gyda’r môr a’r awyr las yn cwrdd ar y gorwel.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/built-heritage-history-and-collections/shop-visitor-centre-gower-wales-771732.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
![Ymwelydd yn eistedd gyda’i chefn at y camera yn edrych allan ar yr olygfa o’r bae yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Cymru, i lawr y clogwyn at draeth tywodlyd gyda moroedd glas clir y tu hwnt ac awyr las heulog yn y pellter.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/rhosili-and-south-gower-coast/library/visitor-view-of-bay-rhosili-south-gower-coast-wales-1504652.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
![A person walking along the South West Coast Path at East Soar, South Devon](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/devon/places/east-soar/library/walking-the-south-west-coast-path-east-soar-south-devon-1423843.jpg?auto=webp&width=505&crop=16:9&dpr=2 2x)
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)