![Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/powis-castle-and-garden/library/autumn/powis-castle-and-garden-autumn-powys-wales-1294060-1.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
O balasau bendigedig i beiriannau diwydiannol a thrysorau teuluol, mae casgliadau cyfoethog ac amrywiol i’w darganfod ym mhob cwr o Gymru. Ymwelwch â rhai o’r llefydd arbennig rydym yn gofalu amdanynt a darganfod trysorau cudd, straeon teuluol a chyfrinachau y tu ôl i’r llenni.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.