Llwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn
Ar y llwybr cerdded byr hwn, cewch fwynhau golygfeydd godidog dros Benrhyn Gŵyr a De Penfro. Ymlaciwch gyda phicnic ar un o draethau mwyaf eiconig Penrhyn Gŵyr, gyda golygfeydd o adfeilion Castell Pennard.
Cyfanswm y camau: 4
Cyfanswm y camau: 4
Man cychwyn
Maes parcio Southgate, cyfeirnod grid: SS554874
Cam 1
O’r maes parcio, cadwch i’r dde a dilynwch y llwybr wrth iddo droi a throelli ar hyd y clogwyn. Cadwch olwg am y blodau sy’n dwlu ar bridd calch, sy’n creu arddangosfa arbennig yn y gwanwyn.
Cam 2
Dilynwch yr arfordir tan eich bod yn edrych dros Fae’r Tri Chlogwyn.
Cam 3
Byddwch yn disgyn yn raddol drwy dwyni tywod i Fae Pobbles.
Cam 4
Cerddwch yr holl ffordd i’r gwaelod a mwynhewch bicnic. Os ydych chi’n ymweld pan mae’r llanw ar drai, gallwch gyrraedd Bae’r Tri Chlogwyn ar draws y tywod o Fae Pobbles – ond cadwch lygad ar y llanw a byddwch yn ofalus.
Man gorffen
Bae’r Tri Chlogwyn, cyfeirnod grid: SS535879
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Cylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili
Crwydrwch gaeau’r Vile gyda golygfeydd o Fae Rhosili’n gefnlen berffaith. Yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac yn enghraifft o ddull ffermio lleiniau canoloesol, maent wedi’u hadfer ac yn cael eu ffermio i greu cynefinoedd newydd.
Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth
Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)