Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Darganfyddwch dai llawn trysorau – mae rhai o gasgliadau gorau’r wlad yng Ngogledd Cymru.
Wedi’i achub rhag mynd rhwng y cŵn a’r brain, mae Tŷ Erddig yn oroeswr prin sydd dan ei sang â thrysorau. Dysgwch am fywyd uwchben ac o dan y grisiau mewn cartref sy’n annwyl i lawer, drwy straeon am deulu a’u gweision.
Darganfyddwch gartref teuluol Marcwis Môn ar lannau Afon Menai, rhyfeddwch at furlun enwog Rex Whistler, a chymerwch olwg ar Goes Môn, coes bren gymalog gynta’r byd.
Plasty hyfryd lle gallwch ddysgu am drigolion y gorffennol, o ddisgynyddion Brenin Powys o’r 9fed ganrif i’r chwiorydd Keating, a adferodd y tŷ ym 1939.
Ymwelwch â’r ffermdy 16eg ganrif hwn, lle ganwyd yr Esgob William Morgan, gŵr hynod a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg gan sicrhau parhad a ffyniant i’r iaith.
Darganfyddwch enghraifft brin o ystâd fonedd Gymreig hunangynhaliol o’r 18fed ganrif yng Ngheredigion.
Darganfyddwch y fila Sioraidd hon o’r 18fed ganrif yn nyffryn coediog Aeron. Wedi’i dylunio gan John Nash, mae ganddi ei hiard wasanaeth ei hun gyda llaethdy, golchdy, bragdy a thŷ halltu, sy’n cynnig y profiad ‘lan stâr, lawr stâr’ cyflawn.
Ymwelwch â chartrefi teuluoedd mawr Cymru, o blasty hanesyddol Dinefwr i’r urddasol Dŷ Tredegar.
Dyma un o ryfeddodau pensaernïol Cymru ac un o dai pwysicaf Ynysoedd Prydain ar ddiwedd y 17eg ganrif. Dysgwch fwy am y tŷ hwn a’r Cymry a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd.
Yn sefyll yn falch wrth galon ystâd Dinefwr, roedd Tŷ Newton yn gartref teuluol am dros 300 mlynedd. Dysgwch am hanes y tŷ a’r ystâd drwy gasgliadau hanesyddol ac arddangosfeydd cyfoes.
Darganfyddwch gartref masnachwr Tuduraidd cyfoethog yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Cewch flas ar fywyd masnachwr canoloesol poblogaidd yn oes y Tuduriaid yn y lle arbennig hwn.
Camwch yn ôl drwy amser a darganfod yr oes a fu gydag ymweliad â chloddfa aur, pont neu ganolfan ymwelwyr arforol.
Cerddwch dros y bont enwog hon, a oedd yn borth i Gonwy ers talwm, a darganfod sut yr oedd gŵr a gwraig yn cadw pont Thomas Telford ar agor bob diwrnod o’r flwyddyn, boed law neu hindda.
Dewch am flas ar amodau gwaith tanddaearol y Rhufeiniaid, y Fictoriaid a’r 1930au mewn mwyngloddiau aur a gloddiwyd dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.
Archwiliwch un o safleoedd diwydiannol cynharaf Prydain, a redir mewn partneriaeth â St Giles Trust Cymru, a rhyfeddu at y rhaeadr arbennig a oedd yn gyrru’r holl safle.
Mae pum adeilad Cymreig rhyfeddol yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’r curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am Treleddyd Fawr, Castell Powis, Tŷ Tredegar, Pont Grog Conwy, a Chastell Penrhyn yn ogystal ag adeiladau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Darganfyddwch gasgliadau cyfoethog ac amrywiol ym mhob cwr o Gymru, o gerfluniau, tapestrïau a phaentiadau i drysorau teuluol a beibl o’r 16eg ganrif a achubodd yr iaith Gymraeg.
Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn Eryri i lyn hudol Cwm Llwch.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.