Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn y gogledd i lyn hudol yn y de, mae ‘na hanesyn hudol i bawb, a chyfoeth o draddodiadau i’w darganfod.
Mae Gogledd Cymru’n gartref i rai o chwedlau enwocaf ein gwlad, o stori Dinas Emrys, cartref mynyddig y ddraig a welwch yn cyhwfan ar faner Cymru, i Feddgelert, gorffwysfa ci enwocaf Cymru.
Gyda stori’r cawr, Jack O’Kent, ar Ysgyryd Fawr a Chwm Llwch, ynys hudol a ymddangosai bob Gŵyl Fai, mae straeon chwedlonol am greaduriaid rhyfeddol yn frith dros dirwedd y de.
Dysgwch am rai o draddodiadau enwocaf y wlad, o nawddsant cariadon Cymru i ddathliadau Nos Galan Gaeaf.
Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, oedd y brydferthaf o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog. Cwympodd mewn cariad â Thywysog o’r enw Maelon, ond ni allant briodi. Â hithau’n torri’i chalon, erfyniodd ar dduw i’w helpu i anghofio amdano, felly anfonodd angel ati. Rhoddodd yr angel botes iddi a fyddai’n gwneud iddi anghofio am Maelon a’i droi’n floc o iâ.
Yna rhoddodd duw dri dymuniad iddi. Dymunodd y câi Maelon ei ddadmer, na fyddai hi byth yn priodi, ac y byddai dymuniadau a breuddwydion pob cariad yn cael eu gwireddu. Cafodd pob un o’r tri dymuniad eu gwireddu, ac er diolch am hyn, cysegrodd Dwynwen ei bywyd i dduw, gan sefydlu lleiandy ar ynys Llanddwyn, y mae ei adfeilion i’w weld hyd heddiw.
Mae Cymry ledled y byd yn dathlu Dewi Sant, nawddsant Cymru, ar 1 Mawrth. Gyda chennin Pedr melyn, gwisgoedd traddodiadol lliwgar, gorymdeithiau’r ddraig ac angerdd yr anthem, mae’n un o uchafbwyntiau calendr ein cenedl.
Wedi’i eni yn y 6ed ganrif yn Sir Benfro, Dewi yw unig nawddsant brodorol y DU, ac mae llawer o chwedlau a gwyrthiau’n gysylltiedig â’r gŵr. Byddwch fel y Cymry - ar ddechrau Mawrth, gwisgwch genhinen Bedr neu genhinen, coginiwch wledd Gymreig o gawl neu gacennau cri (neu bice ar y maen), ac ymunwch â gorymdaith neu gyngerdd.
Calan Mai oedd dechrau’r haf, ac ar ôl heriau’r gaeaf llwm fe’i cyfarchwyd gyda dawnsio haf a charolau Mai. Byddai pobl yn addurno’r tu allan i’w cartrefi gyda changhennau draenen wen fel symbol o dwf a ffrwythlondeb, a byddent yn rhoi eu hanifeiliaid allan i bori am y tro cyntaf.
Nos Galan Mai oedd un o dair ysbrydnos, pan fyddai’r llen rhyngom ni a byd yr ysbrydion ar ei theneuaf. Roedd pobl yn adeiladu coelcerthi i’w diogelu eu hunain rhag ysbrydion dieflig ac yn cynnal defodau i ddod â lwc iddynt am weddill y flwyddyn, gan gynnwys neidio dros y fflamau deirgwaith, gyrru gwartheg rhwng tanau, a rhoi lludw yn eu sgidiau (tybiwyd bod gan hyn briodoleddau hudol).
Yr Heuldro (neu Alban Hefin) yw diwrnod cyntaf yr haf astronomegol, a diwrnod hira’r flwyddyn. Yn y calendr Cymreig traddodiadol, roedd yn cael ei groesawu gyda dawnsio, rhialtwch a choelcerthi – dathliadau a oedd i gyd yn hanfodol i gynhyrchu cnwd toreithiog.
Roedd Nos Gŵyl Ifan hefyd yn cael ei galw’n Ddiwrnod Casglu, oherwydd credai’r Derwyddon fod planhigion meddyginiaethol a gasglwyd ar y diwrnod hwn yn arbennig o nerthol. Tybiwyd bod uchelwydd, yn arbennig, yn gwella pob salwch, ac yn ôl rhai roedd yn cael ei dorri â phladur aur a’i ddal mewn lliain cyn iddo gwympo i’r ddaear. Yn ôl y chwedl, petai sbrigyn a gasglwyd ar Nos Gŵyl Ifan yn cael ei roi o da glustog rhywun, byddai ei freuddwydion yn rhagweld digwyddiadau’r dyfodol.
Mae Nos Galan Gaeaf yn nodi diwedd y cynhaeaf a dechrau'r gaeaf. Ar y noson hon, byddai pentrefwyr yn dawnsio o amgylch coelcerth cyn gosod cerrig gyda’u henwau wedi’u hysgrifennu arnynt yn y tân. Wrth i'r tân ddechrau diffodd, byddai’r pentrefwyr i gyd yn rhedeg adref er mwyn bod yn ddiogel rhag yr Hwch Ddu Gwta, sef hwch frawychus ddu heb gynffon, a oedd yn crwydro cefn gwlad gyda'r Ladi Wen, gan eu bod yn credu y byddai’n dwyn eu heneidiau petaent yn loetran yn rhy hwyr.
Fodd bynnag, byddai'r pentrefwyr yn dychwelyd at y goelcerth y bore canlynol i archwilio eu cerrig. Os oedd eu carreg wedi'i llosgi'n lân, y gred oedd bod hyn yn lwc dda, ond os oedd eu carreg ar goll, roedd yn cael ei ystyried i fod yn ddrwgargoel o'u marwolaeth arfaethedig.
Gyda phenglog ceffyl, peli addurno fel llygaid, a mwng o addurniadau lliwgar, fyddwch chi byth yn anghofio'r tro cyntaf i chi weld Mari Lwyd. Yn ystod nosweithiau tywyll y gaeaf, yn aml rhwng Dydd Nadolig a Nos Ystwyll, mae Mari a'i chriw yn teithio drwy bentrefi Cymru, gan greu digonedd o ddrygioni ar hyd y ffordd.
Maent yn gofyn i ddod i mewn i bob tŷ drwy gyfres o benillion neu 'bwnco', ac mae’r unigolion sydd y tu mewn yn ymateb gyda'u penillion eu hunain, gan roi esgus pam na all Mari ddod i mewn. A dyna ddechrau brwydr o odlau chwareus. Os yw perchennog tŷ yn caniatau i Mari a'i chriw ddod i mewn, rhoddir bwyd a diod iddynt, a’r gred oedd y byddai’r aelwyd yn cael ei gwobrwyo gyda lwc dda am y flwyddyn
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon