Plas yn Rhiw
Maenordy hyfryd gyda gardd addurniadol a golygfeydd bendigedig.
Plas yn Rhiw, Rhiw, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8AB

Rhybudd pwysig
Oriau agor ar gyfer 7 Mawrth 2025
Asset Opening time House | Tŷ Ar gau Garden | Gardd Ar gau Tea-room | Ystafell De Ar gau Oherwydd gwaith adeiladu, mae'r tŷ ar gau'r ar hyn o bryd.
LlMaMeIaGwSaSu242526272812345678910111213141516171819202122232425262728293031123456Gardd
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Oedolyn (18+) £5.00 Plentyn (5-17) dan 5 am ddim £2.50 Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) £12.50 Family, 1 adult 3 children £17.50 Dewch yn aelod a darganfyddwch mwy na 500 o lefydd
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn archwilio llwybrau’r coetir isaf (tu ôl i’r dderbynfa ymwelwyr a’r toiledau) ar dennyn byr. Mae croeso iddynt hefyd yng nghwrt yr ystafell de ar dennyn.
Toiled
Cŵn cymorth yn unig
Cŵn cymorth yn unig yn y brif ardd, y coetir uchaf, y berllan a'r tŷ.
Ystafell de
Wedi’i lleoli yn un o’r adeiladau gwerinol sydd wedi’u hatgyweirio ar y stad, mae’r ystafell de yn cael ei rhedeg gan fusnes teuluol lleol o ychydig i fyny’r ffordd yn Rhiw.
Pwynt gwefru cerbydau trydan
Yn gweithredu yn ystod oriau agor.
Maes parcio graean 250 metr i fyny’r allt, parcio hygyrch ger derbynfa’r ymwelwyr a’r tai bach. Grisiau, graean a llwybrau anwastad, cul yn yr ardd.
Grisiau/tirwedd anwastad
Grisiau a thir anwastad o amgylch yr ardd.
Seddi ar gael
Meinciau a meinciau picnic yn yr ardd a thu allan i'r ystafell de.
Parcio dynodedig
Toiled hygyrch
Ar y ffordd
O Bwllheli: Dilynwch yr A449 hyd at Lanbedrog lle trowch i’r dde ar y B4413 i gyfeiriad Aberdaron, gan ddilyn yr arwyddion brown am Blas yn Rhiw. O Nefyn: Dilynwch y B4417 hyd at Bengroeslon, ymunwch â’r B4413 trwy droi i’r dde am Aberdaron neu i’r chwith gydag arwydd Pwllheli. Nid ydym yn argymell dilyn llwybr mwy uniongyrchol trwy Sat Nav, sy'n cynnwys lonydd cul iawn heb unrhyw fannau pasio. O Aberdaron: Dilynwch y B4413 am tua 8 milltir nes bod arwydd Plas yn Rhiw. Bydd lle parcio hygyrch Plas yn Rhiw ar y chwith. Parhewch 80 llath arall i lawr yr allt am y prif faes parcio ar y gornel dde.
Parcio: Prif faes parcio ar y chwith (arwyddbyst) ar dro cyn allt serth. Parcio hygyrch nesaf ar y dde gydag arwydd am Blas yn Rhiw, sylwch at fynediad ar hyd lôn gul nad yw'n addas ar gyfer cerbydau llydan.
Sat Nav: Osgowch ddefnyddio Sat Nav wrth deithio ar hyd y B4417 o Nefyn.
Ar droed
Mynediad o lwybr arfordir Llyn.
Ar y trên
Pwllheli 10 milltir
Ar fws
Pwllheli i Aberdaron (mynd heibio gorsaf drenau Pwllheli), at y giât.
Beicio
Cynllunio eich ymweliad

Ymweld â Phlas yn Rhiw gyda’ch ci
Mae gan Blas yn Rhiw sgôr o un bawen. Dyma i chi ganllaw i’r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth ddod â’ch ci i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru.
Uchafbwyntiau
Tŷ
Plasty o’r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau Sioraidd, wedi’i adfer gan y dair chwaer Keating.
Gardd
Gardd addurniadol â golygfeydd arfordirol godidog a choed a llwyni blodau prydferth, wedi’u fframio gan focs-lwyni a llwybrau glaswellt.
Ystafell de Plas yn Rhiw (ddim yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Ystafell de fechan sy’n cael ei rheoli gan fusnes lleol, yn cynnig detholiad o dameidiau ysgafn, cacennau a lluniaeth gyda golygfeydd hyfryd.
Coetir, dôl a pherllan
Mae’r tiroedd ehangach yn cynnwys coetir llydanddail, sy’n estyn i fyny at ddôl sy’n fôr o flodau a pherllan o ffrwythau brodorol.
Pethau i'w gweld a'u gwneud

Diwrnod allan i'r teulu ym Mhlas yn Rhiw
Mae llawer i deuluoedd ei wneud ym Mhlas yn Rhiw, gan gynnwys llwybrau peillwyr a phecynnau natur. Darganfyddwch beth sydd i'w ddisgwyl ar eich ymweliad nesaf.

Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw
Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.
Prosiect ail-doi Plas yn Rhiw
Ers diwedd 2023, rydym wedi dechrau ar brosiect adnewyddu sylweddol, sydd wedi cynnwys gosod llechi to newydd, paentio ffenestri ac ailosod unrhyw rai sy’n dirywio.

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw
Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.
Prif lwybrau

Taith Plas yn Rhiw a phentref y Rhiw
Taith trwy goetir arfordirol i bentref y Rhiw, gan fynd o amgylch godre’r mynydd ac yn ôl i lawr i Blas yn Rhiw ar hyd lonydd gwledig.
Bwyta

Ystafell de Plas yn Rhiw (ddim yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Ystafell de fechan sy’n cael ei rheoli gan fusnes lleol, yn cynnig detholiad o dameidiau ysgafn, cacennau a lluniaeth gyda golygfeydd hyfryd.
Lleoedd i aros

Bwthyn yr Ardd
Located on a hill above the sea, this rustic garden cottage enjoys stunning bay views.

Tyn y Parc Barn
Next to a pretty farmhouse, groups of friends and families will adore this character packed barn close to the coast.

Pant Rhiw Cottage
Take in the views across Hell’s Mouth Bay from this cottage on the Plas-yn-Rhiw estate.

Tan Y Bwlch
A beautifully restored 19th century cottage with panoramic sea views outside the front door.
Digwyddiadau i ddod
Gwledd y Gwanwyn ym Mhlas yn Rhiw | Festival of Blossom at Plas yn Rhiw
Bob gwanwyn, mae’r blagur yn datgan dyfodiad dyddiau disgleiriach. Mwynhewch y cyrhaeddiad o'r gwanwyn ym Mhlas yn Rhiw. | Every spring, the buds announce the arrival of days brighter. Enjoy the arrival of spring at Plas yn Rhiw
Easter adventures at Plas yn Rhiw| Anturiaethau'r Pasg ym Mhlas yn Rhiw
Dewch a'r teulu cyfan am antur ym Mhlas yn Rhiw ar ein helfa Pasg y gwanwyn hwn. | This spring, treat the whole family to a world of adventure at Plas yn Rhiw on an Easter trail.
Ynghylch Plas yn Rhiw
Achubwyd y tŷ rhag esgeulustod a’i adfer yn gariadus gan y tair chwaer Keating, a’i prynodd ym 1938. Mae’r golygfeydd o’r tiroedd a’r gerddi ar draws Bae Ceredigion ymhlith y mwyaf trawiadol ym Mhrydain. Mae'r tŷ o'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau Sioraidd, ac mae'r ardd yn cynnwys llawer o goed a llwyni blodeuol hardd, gyda gwelyau wedi'u fframio gan wrychoedd bocs a llwybrau glaswellt.
Hanes

Hanes Plas yn Rhiw
Dysgwch ragor am gyn-breswylwyr Plas yn Rhiw, o'r teulu Lewis oedd yn disgyn o Frenin Powys yn y nawfed ganrif, i'r chwiorydd Keating a'i hadferodd yn 1939.
Cefnogwch Ni

Gwirfoddoli ym Mhlas yn Rhiw
Manteisiwch ar gyfle newydd fel gwirfoddolwr ym Mhlas yn Rhiw a dewch yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Ein gwaith ym Mhlas yn Rhiw
Darllenwch sut y trawsnewidiwyd cae yn gynefin llawn bywyd gwyllt ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd.
Y newyddion diweddaraf

Gofalu am y gwenyn – wrth drwsio un o dai hanesyddol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, gwarchodwyd 50,000 o breswylwyr anarferol
Am y tro cyntaf ers 200 mlynedd, mae grwnan y gwenyn yn un o dai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngwynedd, Gogledd Cymru wedi tawelu, gan fod gwenyn gwyllt prin a oedd yn byw yn nho’r tŷ wedi cael eu symud i gartref newydd tra bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud.