Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ Newton | Ar gau |
Parcdir | 10:00 - 16:00 |
Dinefwr Castle | Castell Dinefwr | 10:00 - 15:00 |
Café | Caffi | Ar gau |
Car Park | Maes parcio | 10:00 - 16:00 |
Deer Park | Parc Ceirw | Ar gau |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
£5.00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £11.00 | £10.00 |
Child | £5.50 | £5.00 |
Family | £27.50 | £25.00 |
Family (one adult) | £16.50 | £15.00 |
Mae siop lyfrau ail law ar lawr gwaelod Tŷ Newton.
Er mwynhad pob ymwelydd gofynnir i chi gadw cŵn ar dennyn pob amser, gan sicrhau fod gwastraff cŵn yn cael ei roi mewn bag ac yn y bin pwrpasol. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar lawr gwaelod y tŷ. Efallai y bydd rhaid i ni gyfyngu'r nifer o gŵn yn y tŷ ar yr un pryd.
Mae toiled wedi'i addasu ar gael ger yr hen Ganolfan Groeso, y caffi tecawe nawr yn y maes parcio. Cyfleusterau newid babi yma hefyd.
Parcio Bathodyn Glas, tai bach hygyrch, llwybrau cerdded hygyrch dynodedig, rhywfaint o dir anwastad.
Mae llwybr bordiau gwastad i Bwll y Felin, plis nodwch nad yw'r holl lwybrau o gwmpas yr ystad yn wastad.
Safleoedd parcio hygyrch ar gael ger yr hen Ganolfan Groeso.
Mae'r lifft allan o ddefnydd. Mae mynediad gwastad a llawr gwaelod y Tŷ Newton drwy'r prif ddrws. Mae dau set o risiau pren i gyrraedd y llawr cyntaf a'r islawr ar hyn o bryd. Ry' ni'n ymddiheuro'n ofnadwy am unrhyw anghyfleuster all hyn achosi.
Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. Chwiliwch am ‘National Trust Dinefwr’ ar y map neu dilynwch yr arwyddion deilen dderw brown. Os yn trafaeilio o'r dwyrain neu'r gorllewin o Ddinefwr, defnyddiwch yr A40 i Landeilo neu'r A483 os yn trafaeilio o Abertawe.
Parcio: Nodwch fod pellter tua 50 llath o'r maes parcio i Dŷ Newton.
Sat Nav: Mae’r cod post yn mynd â chi i’r lleoliad anghywir. What3Words: Compelled : Trailer : Park
Yr orsaf drenau agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Lein Calon Cymru yn rhedeg i’r de i Abertawe, neu i’r gogledd i’r Amwythig. Mae amserlenni’n gyfyngedig, felly gwiriwch ar-lein cyn ichi deithio.
Cymerwch gip ar www.traveline.cymru i weld yr amserlenni diweddaraf. Y safle bws agosaf at Barc Dinefwr yw Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo.
Parc Dinefwr, Tŷ Newton, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6RT
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Ninefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd ym mhentref y Tylwyth Teg, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.
Maenordy o’r ail ganrif ar bymtheg yw Tŷ Newton; gofod ar gyfer arddangosfeydd a chreadigrwydd gyfoes sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd yn Dinefwr dros y canrifoedd. Mae’n arwain at yr Ardd Ffownten a’r golygfeydd draw dros y Parc Ceirw.
Dros 800 acer o barcdir, dolydd a choetiroedd, Parc Ceirw canoloesol gyda llwybr bordiau hygyrch ac amryw o goed hynafol.
O fewn Tŷ Newton, ar y llawr gwaelod, yn gweini diodydd, cawl, brechdanau a chacennau. Cewch hyd i’r caffi tecawê ar ymyl y maes parcio yn gweini diodydd a byrbrydau i fynd.
Mae castell trawiadol Dinefwr yn dyddio i’r ddeuddegfed ganrif; castell hollbwysig yn hanes Cymru fel canolfan yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus y Deheubarth. O dan ofal Cadw.
Ardal chwarae yn yr iard i’r teulu cyfan, lle i’r dychymyg grwydro gyda’r chwarae dŵr; wrth fynd ar goll yn y cynfasau neu’n creu perfformiadau ar y llwyfan (ail agor yn y gwanwyn)
Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.
Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfeydd o weledigaeth y nawfed Arglwydd Dinefwr i sefydlu rhaglen gelfyddydol yn y chwedegau.
Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Ninefwr, waeth beth fo’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd ym mhentref y Tylwyth Teg, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.
Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Dewch i eistedd yng nghaffi dan do Tŷ Newton a mwynhewch amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer, cacennau a hufen iâ. Yn y maes parcio, mae’r caffi awyr agored “Rydych Chi Yma” yn lle cyfleus i gael diodydd a byrbrydau tecawê, cyn mynd am dro neu wylio Gwartheg Gwyn y Parc.
Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.
Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
A traditional farmhouse with wooden floors, and a log burner on the beautiful Dinefwr Park.
Nestled on the edge of the Dinefwr Park Estate with a gorgeous garden overlooking the valley, Penparc is a fabulous base for exploring the Welsh countryside
Sitting within Dinefwr Park estate nestled behind Dinefwr Home Farm, Cariad Cottage is cosy and packed with charm and character.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
A magical land of power and influence for more than 2,000 years. Dinefwr is an iconic place in the history of Wales. Two forts are evidence of a dominant Roman presence. The powerful Lord Rhys held court at Dinefwr and influenced decisions in Wales.
Standing proudly at the heart of the estate is Newton House, a family home for over three hundred years to the descendants of Lord Rhys, the powerful Prince of the Welsh Kingdom of the Deheubarth.
The visionaries, George and Cecil Rice designed the superb 18th-century landscape, which is protected as a parkland National Nature Reserve, from flower-rich meadows to dense ancient woodland, it’s all here for you to discover.
“If you take a handful of the soil of Dinefwr and squeeze it in your hand, the juice that will flow from your hands is the essence of Wales” Wynford Vaughan Thomas
Also onsite is Dinefwr Castle which is managed by CADW (see website) and owned by the Wildlife Trust.
Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Dinefwr ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Dinefwr.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.