Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Golygfeydd syfrdanol ar benrhyn Gŵyr
Rhosili, Swansea, SA3 1PR
Asset | Opening time |
---|---|
Morlin | Gwawr - Cyfnos |
Maes parcio | Ar agor trwy'r dyd |
Siop | Ar gau |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Up to 2 hrs: | £4.00 | |
Over 2 hrs: | £8.00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Up to 2 hrs: | £5.00 | |
Over 2 hrs: | £10.00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
up to 2 hrs: | £6.00 | |
Over 2 hrs: | £12.00 |
Welcome on leads, please be aware of livestock
Offering a delightful array of local souvenirs, artisan crafts, and National Trust branded merchandise.
Charges apply 24 hours: for cars - up to 2hrs £4, over 2hrs £8. For motorhomes/minibuses, up to 2hrs £5, over 2hrs £10. For coaches, up to 2hrs £6, over 2hrs £12 Free to NT members, please scan your cards at the Pay & Display machines. Overnight parking and camping are not permitted in the car park or on the headland and are a breach of our byelaws.
Toilets - between car park and National Trust shop.
Maes parcio yn Rhosili, tai bach hygyrch (ddim yn gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Llwybr tarmac byr ar hyd pen y clogwyn i alluogi pawb i fwynhau’r golygfeydd, ond nid yw’n ymestyn ymhellach. Mynediad i draeth Rhosili ar hyd llwybr serth gyda grisiau.
O Abertawe (Cy42) ewch ar yr A483 i Abertawe. Ewch ymlaen i'r A4067. Yn Black Pill, trowch ymlaen i'r B4436. Trowch i'r dde i gadw ar y B4436 ym Mhennard cyn troi i'r chwith i'r A4118. Yn Scurlage, ewch â'r B4247 i Rosili. O Abertawe (C47) cymerwch yr A483 ac yna cymerwch yr A484, trowch i'r chwith i Dregŵyr. Wrth oleuadau, ewch ar y B4295 i Lanrhidian. Yna cymerwch y B4271 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Reynoldston. Ewch ymlaen i'r A4118 a throwch i'r dde. Yn Scurlage, ewch â'r B4247 i Rosili.
Parcio: Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili. Ffi yn berthnasol. Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol barcio am ddim.
Mae Rhosili wedi'i leoli reit ar Lwybr Arfordir Cymru ac ar ddiwedd Ffordd Gŵyr
Wrth gyrraedd y platfform dren yn Abertawe a cherdded neu ddal bws i'r orsaf fysiau. Nodir llwybrau bysiau isod.
Mae gwasanaethau rheolaidd o Abertawe i Rhosili. (Dydd Llun i ddydd Sadwrn, dydd Sul (gwasanaeth yr haf yn unig). Gwasanaethau 118/119 (NAT) a 114 (Sunday First Cymru). Mae gwasanaethau ychwanegol yn cysylltu rhannau tawelach o Gŵyr â'r gwasanaeth 118 a 116 (gwasanaeth Abertawe-Gogledd Gŵyr).
Cymerwch y Llwybr Beicio Cenedlaethol 04 i Killay Uchaf o Abertawe neu Tregŵyr. Oddi yno, trowch i'r A4118 i Scurlage, Ewch â'r B4247 i Rosili. Sylwch y gall ffyrdd Gŵyr fod yn brysur ac nad ydynt yn addas ar gyfer beicio teuluol.
Dewch i ddarganfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU gyda'ch frind pedair-pawen.
Mae traeth Rhosili’n dair milltir o dywod. Pan mae’r llanw ar drai fe welwch weddillion llong yr Helvetia, a ddrylliwyd yma ym 1887.
Dyma'r lle i ymweld os am ddarganfod cofroddion wedi'u crefftio'n lleol ac archwilio treftadaeth gyfoethog Penrhyn Gŵyr.
Fersiwn fodern o lain-ffermio canoloesol, gyda chnydau’n cael eu tyfu ar gyfer bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys blodau haul, had llin a phabïau.
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.
Crwydrwch gaeau’r Vile gyda golygfeydd o Fae Rhosili’n gefnlen berffaith. Yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac yn enghraifft o ddull ffermio lleiniau canoloesol, maent wedi’u hadfer ac yn cael eu ffermio i greu cynefinoedd newydd.
Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.
Mwynhewch olygfeydd trawiadol dros Benrhyn Gŵyr a De Penfro ar y llwybr hwn o Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn.
Dilynwch y gylchdaith hawdd hon yn Rhosili, paradwys i bawb sydd am fwynhau’r arfordir – o gerdded i syrffio neu adeiladu cestyll tywod.
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.
Just metres from the world-famous beach at Rhosili Bay, this cottage offers a unique stay on the Gower Peninsula.
Dramatic sea views and cliff-top walks in all directions make this cottage a must-visit.
A modern farmhouse perfectly placed for exploring the Gower Peninsula.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae'r Hen Reithordy, bwthyn gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn edrych i lawr ar fae syfrdanol Rhosili, gyda'i draeth tywodlyd tair milltir o hyd. O ben Rhosili Down, y pwynt uchaf ar benrhyn Gŵyr, gellir gweld golygfeydd o'r penrhyn yn ogystal ag ar draws y môr i Orllewin Cymru, Ynys Lundy ac arfordir gogledd Dyfnaint.
Mae yna lwybr cerdded ar hyd y clogwyn glaswelltog o siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau. Os yw'r llanw allan, gall y rhai anturus yn ein plith groesi'r sarn creigiog i ynys lanw Pen Pyrod, lle gellir gweld morloi llwyd yn ymlacio ar y creigiau islaw.
Mae tirwedd Gŵyr wedi ei siapio gan ffermio ers Oes y Cerrig. Mae'r Vile, yn Rhosili, yn enghraifft o system llain cae agored Ganoloesol. Gyda llawer o nodweddion archaeolegol yn Rhosili ac ar hyd arfordir de Gŵyr, gan gynnwys siambrau claddu Neolithig, carneddi o'r Oes Efydd a chaerau Oes yr Haearn, mae'n lle delfrydol i ddarganfod gweddillion ein hynafiaid.
Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.
Dysgwch sut mae arferion ffermio hynafol wedi helpu bywyd gwyllt y Gŵyr.
Rydym ni'n aml yn edrych am wirfoddolwyr newydd i ymuno a'n tîm yn Rhosili. . Cadwch olwg yma am gyfleoedd gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.