
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.
Ciliau Aeron, ger Aberaeron, Ceredigion, SA48 8DG
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ | 11:00 - 15:30 |
Gerddi, buarth a’r llyn | 10:00 - 16:30 |
Caffi | 10:00 - 16:00 |
Casgliad Geler Jones | 10:00 - 15:30 |
Derbynfa ymwelwyr a siop llyfrau ail law | 10:00 - 16:00 |
Maes Parcio | 09:30 - 17:00 |
Teithiau cerdded coetir | Ar agor trwy'r dyd |
Mae’r tŷ, gerddi, iard y fferm, Casgliad Geler Jones, y llyn, siop lyfrau ail-law a Chaffi Conti’s (seddi allanol a thecawê) ar agor o Ddydd Mercher i Ddydd Sul pob wythnos yn ystod y prif dymor (nodwch fod mynediad olaf am 4yh). Yn ystod y Pasg, Hanner Tymor mis Mai a Gwyliau’r Haf bydd Llanerchaeron ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £11.00 | £10.00 |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £5.50 | £5.00 |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £27.50 | £25.00 |
1 oedolyn, 2 blentyn | £16.50 | £15.00 |
Grŵp (Oedolyn 18+) | £8.00 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
£3.00 |
Mae croeso i gŵn ar dennyn yn y gerddi muriog, o amgylch y llyn a'r tiroedd pleser, fferm, maes parcio, canolfan ymwelwyr a'r caffi. Does dim mynediad i'r Fila i gŵn (Tŷ)
Cynnyrch o ardd furiog Llanerchaeron ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Siop lyfrau ail law wedi'i leoli yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Toiledau ar gael ger y Ganolfan Ymwelwyr drws nesaf i Gaffi Conti's.
Parcio Bathodyn Glas yn y maes parcio. Rampiau i’r prif safle gyda llwybrau graean drwyddi draw. Ramp i’r tŷ gyda fideo o’r lloriau uchaf ar gael ar iPad. Tai bach hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr ac ar y safle. Cadair olwyn ar gael.
Cadair olwyn i'w gweithio â llaw ar gael yn y dderbynfa
Lleolir Llanerchaeron 2.8 milltir i’r dwyrain o ganol Aberaeron, ar hyd yr A482.
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Mae bws T1 i Aberaeron yn gadael pob awr. Mae'r T5 a X50 o Aberteifi i Aberaeron yn gadael pob awr a hanner. Mae Llanerchaeron 2½ milltir o Aberaeron.
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Cewch wybodaeth ynghylch lle y cewch ac na chewch fynd â nhw a pha gyfleusterau sydd ar gael.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad priodas llawn hanes a chyfaredd Cymreig, mae Llanerchaeron ar gael ar gyfer seremonïau sifil a gwleddoedd priodas.
Fila Sioraidd moethus a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash.
Ystâd sy’n cynnwys llwybrau ag arwyddion a choetir sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt sy’n amgylchynu Dyffryn Aeron ac wedi’i diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Wedi’i hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif, mae’r ardd furiog wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd.
Buarth Cymreig traddodiadol sy'n gartref i amrywiaeth o fridiau Cymreig.
9 – 27 Ebrill (10yb – 4yh). Y gwanwyn hwn dewch i fwynhau byd o antur ar lwybr Pasg Llanerchaeron. Dilynwch yr helfa i weld os medrwch chi ddarganfod y ddrysfa dywarch, rhoi tro ar ras wŷ ar lwy, creu cerddoriaeth a chrefftau. Mae prisiau mynediad arferol yn daladwy yn ogystal â £3.50 yr helfa.
Mwynhewch ddiwrnod allan yn crwydro ystâd draddodiadol Gymreig. Ymwelwch â'r anifeiliaid ar fuarth y fferm, ewch am dro o amgylch yr ardd furiog a chymerwch eiliad i oedi ger y llyn addurniadol. Gadewch i'r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Bydd y daith heriol hon yn eich arwain o harddwch glan y môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd Bae Ceredigion at hen faenor fynachaidd Mynachdy’r Graig.
Mwynhewch gylchdaith ar hyd y clogwyni o fae bychan Cwmtydu i Gwm Soden ger Llanerchaeron, gan wylio glöynnod byw ac amrywiaeth o fywyd gwyllt arall ar hyd y daith.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
The ultimate woodland retreat, this fairy-tale cottage nestles in the Aeron Valley.
A delightful vernacular cottage with a little bit of history in all its nooks and crannies.
Y gwanwyn hwn dewch i fwynhau byd o antur ar lwybr Pasg Llanerchaeron | This spring, treat your little ones to a world of adventure at Llanerchaeron on an Easter trail.
Treuliwch hanner tymor gyda’r teulu yn Llanerchaeron gyda digonedd i gadw’r plant a chithau wedi’u diddanu yn ystod eich ymweliad | Spend half term at Llanerchaeron, there’ll be events and activities to keep both you and the kids entertained.
Bydd Llanerchaeron yn croesawu grŵp cydweithredol o grefftwyr a dylunwyr i arddangos eu creadigaethau arbennig | Llanerchaeron welcomes a talented co-operative of local artists, designers, and craftspeople, to showcase their handmade creations
Dewch draw i Lanerchaeron ar Ddiwrnod Cneifio i weld y ffermwyr wrth eu gwaith | Llanerchaeron's Llanwennog sheep are getting their annual haircut - visit to see what happens on Shearing Day.
Darganfyddwch drysorau cudd Rhos Cwmsaeson mewn ras i gofnodi’r bywyd gwyllt lleol | Discover the hidden wonders of Rhos Cwmsaeson in a race to document local wildlife
Ymunwch gyda ni'r haf hwn am raglen llawn hwyl i'r teulu cyfan | Join us this summer for an action packed programme for the whole family.
Dewch i ddarganfod fila Sioraidd hyfryd Llanerchaeron. Fe’i dyluniwyd yn wreiddiol gan John Nash y pensaer enwog yn y 1790au, ac nid yw’r tŷ wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd. Archwiliwch iard y gweision (sy’n cynnwys llaethdy, tŷ golchi, bragdy a thŷ halltu), a chymerwch gipolwg ar yr ystafelloedd a adnewyddwyd, yn cynnwys ystafelloedd casgliad Pamela Ward. Mae’r ystad wledig, Gymreig, draddodiadol hon yn cynnwys llwybrau cerdded hamddenol o amgylch yr ardd a amgylchynir gan furiau brics coch, a hefyd ceir llyn addurnol a pharcdir gwyllt. Dewch i gyfarfod â’r anifeiliaid yn y buarth traddodiadol, yn cynnwys cobiau Cymreig, moch Cymreig, dofednod a gwyddau. Dysgwch ragor am ein diadell draddodiadol o ddefaid lleol brid prin, defaid Llanwenog. Croesewir cŵn ar y safle i grwydro’r ardd furiog, y tiroedd hamdden, y llyn a'r fferm. Cadwch eich cŵn ar dennyn bob amser, casglwch unrhyw faw a dilynwch ein ‘Cod Cŵn’.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.
Mae prosiect adfer a chreu cynefin bellach ar waith mewn ymgais i achub cartref naturiol pili-pala prin yng Ngheredigion ar lechweddau arfordirol Cwm Soden.
Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.