Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Castell canoloesol odidog Y Mers
Castell Y Waun, Y Waun, Wrecsam, LL14 5AF
Asset | Opening time |
---|---|
Castell | 11:00 - 16:00 |
Gardd | 10:00 - 16:00 |
Tŵr | 12:00 - 16:00 |
Siop | 10:00 - 16:00 |
Caffi | 10:00 - 16:00 |
Dyddiadur Caffi | Ar gau |
Dyddiadur Caffi | Ar gau |
Bydd mynediad olaf i’r castell hanner awr cyn i’r castell gau. Bydd y tocyn mynediad olaf i’r castell yn cael ei werthu am 3.20pm, i sicrhau bod ymwelwyr yn cael digon o amser i gerdded at y castell. Am 3.30pm y caniateir y mynediad olaf trwy ddrws y castell. Mae’r parcdir yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd pan mae’r castell ar gau. Gall oriau agor Ciosg Home Farm amrywio. Rydym yn cau pan ragwelir gwyntoedd cryf, felly gwiriwch am unrhyw hysbysiadau argyfwng cyn teithio. | Last entry to the castle is 30 minutes before closing. Last ticket sold to the castle at 3.20pm to ensure visitors have enough time to walk up to the castle. Last entry through the castle door at 3.30pm. The parkland remains open to the public when the castle is closed. Home Farm Kiosk opening times may vary. We close when high winds are forecast, please check for any emergency notices before travelling.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £17.60 | £16.00 |
Child | £8.80 | £8.00 |
Family | £44.00 | £40.00 |
Family 1 adult | £26.40 | £24.00 |
Group Adult | £15.20 | |
Group Child | £7.60 |
Caffi wedi’i leoli yn iard y castell.
Planhigion ar gael o’r brif siop.
Caniateir cŵn ar yr ystâd, ond nid yn y gerddi ffurfiol, yr ardd gegin, Coedwig y Parc Difyrrwch na’r tu mewn i ystafelloedd y castell.
Siop llyfrau ail law yn Home Farm wrth y maes parcio.
Teithiau tywys boreol pan mae gwirfoddolwyr ar gael.
Siop yn Home Farm wrth y swyddfa docynnau.
Toiledau, gan gynnwys toiledau hygyrch, yn Home Farm ac yn iard y castell.
Yn anffodus, nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na mynediad heb risiau i du mewn y castell. Rydym ni’n croesawu pob ci cymorth cofrestredig. Mae'r bws gwennol yn helpu ymwelwyr i fyny i'r castell ac yn rhedeg trwy gydol y dydd. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac efallai na fydd ar gael bob dydd, gwiriwch cyn ymweld.
Mae canllaw Braille i'r eiddo ar gael o fynedfa’r castell, gofynnwch os hoffech chi neu un o’ch grŵp ei ddefnyddio.
Llwybr hygyrch yn yr ardd.
Mae gennym un Tramper trydan sy’n gallu crwydro’r gerddi a'r ystâd. I gadw hwn, cysylltwch â ni.
Taith rithiol ar iPad ar gael wrth y fynedfa i’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu.
Dolenni sain yn y swyddfa docynnau, siop a’r caffi, ac ar gyfer teithiau tywys.
Mae toiledau hygyrch ar gael yn Home Farm (RH- transfer) ac ar iard y castell LH-transfer).
Mae Castell y Waun 7 milltir i'r de o Wrecsam, 8 milltir i'r gogledd o Groesoswallt a 5 milltir o Langollen. Mae arwyddion clir iddo o'r A5 a'r A483. O'r A5 ewch 1 milltir i bentref y Waun, mae'r fynedfa i'r ystâd 2 filltir i'r gorllewin o bentref y Waun. Sylwch: Pan fyddwch chi'n cyrraedd mewn car at giatiau gwyn haearn Davies, parhewch i'r dde. Mae mynedfa'r stad 1.4 milltir ymhellach ymlaen.
Parcio: Mae'r maes parcio yn Home Farm. Ewch i mewn drwy'r swyddfa docynnau - mae'r fynedfa i'r castell 200 llath (i fyny allt serth).
Sat Nav: Pan fyddwch chi'n cyrraedd y Waun dilynwch yr arwyddion yn lle'ch sat nav oherwydd gall fynd â chi'r ffordd anghywir.
Mae llwybrau troed o bentref y Waun ar agor trwy’r flwyddyn ac o Lwybr Clawdd Offa (Ebrill i Hydref yn unig). Mae’r fynedfa ac allanfa yn darparu mynediad cerdded, mae'r ddau’n bellter tebyg - tua 1½ milltir i swyddfa docynnau Home Farm. Dilynwch yr arwyddion i fynd i’r Swyddfa Docynnau cyn cerdded i fyny at y castell a’r gerddi.
Mae Gorsaf y Waun ar linell Amwythig i Gaer. O orsaf dren y Waun mae'n ¼ milltir i gatiau'r ystâd, ac 1½ milltir i gyd i'r castell. Gweler y cyfarwyddiadau ar droed am ragor o fanylion.
Mae llwybr bws Arriva 2/A o Wrecsam i Groesoswallt yn stopio ym Mhentref y Waun ger yr orsaf drenau.
Mae Castell y Waun yn agos at Gamlas Llangollen, ger Traphont Ddŵr y Waun. Mae angorfa cyfyngedig ar gael ger Twnnel y Waun, ac oddi yno cerddwch tuag at bentref y Waun. Mae'n tua. 1 filltir i gatiau'r stad, a 2 ½ milltir i gyd i'r swyddfa docynnau a mynedfa'r castell.
Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.
Archwiliwch hanes canoloesol a mwy na hynny, gydag ymweliadau grŵp ac ymweliadau ysgol â Chastell y Waun yng Nghymru.
Un o gestyll y Gororau o’r 13eg ganrif, a ddaeth yn gartref i’r teulu Myddelton o 1595 am dros 400 mlynedd.
5.5 erw o erddi clodwiw, gan gynnwys lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio a golygfeydd godidog dros wastadeddau Swydd Gaerlleon a Swydd Amwythig.
480 erw o barcdir gweithiol a chynefin natur pwysig, gyda choed hynafol, dolydd blodau gwyllt a rhan o Glawdd Offa.
Fferm fodel o’r 18fed ganrif, gyda stabl a sgubor dyrnu sydd bellach yn gartref i Dderbynfa’r Ymwelwyr, siop a chyfleusterau i ymwelwyr.
Wedi’i leoli yng ngheginau hanesyddol y castell, mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer, byrbrydau a phrydau ysgafn.
Wedi ei leoli ar y fferm, mae’r llaethdy yn cynnig byrbrydau a diodydd, ar ddiwrnodau prysurach. Pan mae’r tywydd yn garedig, mae ardal fach ar gael i eistedd.
Wedi’i lleoli yn Fferm y Plas, mae’r siop yn gwerthu rhoddion, planhigion a bwyd. Mae yna hefyd siop lyfrau ail-law.
Mae yna ardal chwarae fechan gydag offer chwarae pren ac ardal Chwarae Gwyllt o ddeunyddiau chwarae naturiol.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich tro nesaf fel teulu yng Nghastell y Waun. Dewch i archwilio Tŵr Adam, cwblhau rhai o’r gweithgareddau "50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11¾’," a llosgi ychydig o egni yn ein mannau chwarae naturiol.
Beth am ymgolli mewn profiad hwyliog a llawn hud yn Nadolig hwn yng Nghastell y Waun? Dewch i ddarganfod ceidwaid ffyddlon y gaer wrth iddynt warchod y trysorau lu a gedwir oddi mewn i waliau’r Castell.
Mae digonedd o hwyl i’w gael yng Nghastell y Waun, lle gall eich rhai bach redeg, chwarae a dysgu drwy gydol y flwyddyn.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Taith gerdded gylchol hawdd ymhlith y coed a’r caeau agored o gwmpas Castell y Waun yn Wrecsam, Cymru.
Taith gylchol 3 milltir o Gastell y Waun, yn cynnwys rhan fechan o Glawdd Offa a mynd heibio safle Brwydr Crogen.
Mae’r daith gerdded gymedrol 1.2 milltir hon yn mynd â chi i ardal a elwir yn Hen Golff, gyda golygfa gofiadwy o Gastell y Waun ar hanner ffordd.
Mae’r daith filltir rwydd yma trwy barcdir a ddyluniwyd yn y 18fed ganrif yng Nghastell y Waun yn cynnig golygfeydd cofiadwy tua gwastadeddau Swydd Gaer ac Amwythig.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
At the top of Offa’s Dyke this 1930s villa is in a great spot for exploring nearby Chirk Castle.
Explore the grounds of a 700 year-old castle when you stay in this traditional Welsh cottage.
Close to Chirk Castle with walking trails all around, this pretty stone cottage has an enclosed garden.
This gorgeous half-timbered cottage in the stunning Powis Castle gardens has gorgeous Edwardian interiors.
Create some magical memories with your family by joining Father Christmas for a festive breakfast in our tea room.
Enjoy the gift of giving when you meet Father Christmas by leaving a donation for Oswestry and Borders Foodbank.
Embark on a magical journey at Chirk Castle this Christmas, as you hunt for hidden stars in our frosted gardens.
Get into the Christmas spirit and make some magical memories as you join Father Christmas for a festive supper in our tearoom.
Join Chirk Castle's Rangers on 14 December to make your own wooden reindeer from natural materials.
Mae Castell y Waun yn symbol nodweddiadol o bŵer, a dechreuwyd ei adeiladu oddeutu 1295, yn ystod teyrnasiad y gorchfygol Edward I, er mwyn tawelu tywysogion olaf Cymru.
Fe’i codwyd ar garreg frig uwchben y pwynt lle mae afon Dyfrdwy ac afon Ceiriog yn uno, ac roedd y castell a’i gysgodlun urddasol yn arwydd cythryblus o fwriad y Saeson yn y tiroedd dadleuol hyn.
Prynwyd Castell y Waun ym 1595 gan Syr Thomas Myddelton, groser, masnachwr siwgr a herwlongwr, ac fe’i hetifeddwyd trwy linach teulu Myddelton. Gyda’i hanes yn olrhain yn ôl dros 700 o flynyddoedd, ac fel castell olaf o’i gyfnod lle ceir preswylwyr ynddo hyd heddiw, mae Castell y Waun yn nodedig am foethusrwydd y tu mewn i’r adeilad ynghyd â’r casgliad hardd ac eclectig sydd ynddo.
Y tu mewn i’r Castell ceir Oriel Hir sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, arddangosfa fawreddog o dair Ystafell Wladol sy’n dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif gyda dodrefn moethus, paentiadau a thapestrïau, neuadd unigryw y gweision, ac ystafell Gerdd y Capel wedi’i dodrefnu er mwyn arddangos cysylltiadau bonheddig Castell y Waun yn y 1920au a’r 1930au.
Mae’r gerddi arobryn yn gorchuddio 5.5 erw o lawntiau wedi’u trin, coed yw wedi’u tocio, borderi blodau, gerddi rhosod, prysglwyni a chreigerddi hardd, yn ogystal â’r maes pleser coediog – perffaith ar gyfer mynd am dro. Cofiwch ymweld â’r teras sy’n edrych dros y waliau ‘ha-ha’ yng ngwaelod yr ardd sy’n deillio o'r 18fed ganrif, gyda golygfeydd ysblennydd o wastatir Caer a Swydd Amwythig.
Mae gan Gastell y Waun dros 480 acer o barcdir ystâd ar gael i chi ei archwilio, gyda gwartheg, defaid, coed hynafol, dolau blodau gwyllt a rhan hardd wedi’i gwarchod o Glawdd Offa. Mae’r ystâd wedi’i lleoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac wedi’i dynodi hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, fel cynefin pwysig ar gyfer infertebratau prin, ystlumod, ffyngau a blodau gwyllt.
Ni chynlluniwyd Castell y Waun fel cartref teuluol erioed. Roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.
Wrth fyw mewn castell am 400 mlynedd mae teulu’n crynhoi casgliad amrywiol o gelfyddyd, dodrefn ac eitemau difyr. Dyma rai o’r trysorau yng nghasgliad Castell y Waun.
Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghastell y Waun yng Nghymru.
Mae Castell y Waun yn falch iawn o fod wedi derbyn grant gan Cadwyn Clwyd i greu Dôl Ofalgar yng Nghastell y Waun gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau lleol i gyfrannu at ei dyluniad a'i chreu.
Mae portread gwir faint, hyd llawn prin o was wedi’i arddangos yng Nghastell y Waun yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam yn dilyn gwaith cadwraeth ac ymchwil i ddatgelu cliwiau rhyfeddol am ei gefndir.
Mae 0.65 hectar o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yng Nghastell y Waun wedi ei wella ar gyfer pobl a byd natur wrth i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gydweithio ag ystod o sefydliadau ac elusennau lleol i greu Dôl Ofalgar newydd, lle gall pobl gysylltu â byd natur, gan wella eu hiechyd a llesiant.
Bydd portread trawiadol o’r Fonesig Margaret Myddelton a phortread o Robert Myddelton-Biddulph, a gadwyd yng Nghastell y Waun yn y gorffennol, yn cael eu harddangos am y tro cyntaf. Rhoddwyd y portreadau hyn yn anrheg gan y ddiweddar Fonesig Aird, merch y Fonesig Margaret Myddelton.
Rydym wedi prynu casgliadau sy'n eiddo i'r teulu Myddelton ac sy’n cwmpasu dros bedwar can mlynedd o'u hamser yng Nghastell y Waun. Mae tua thri chant o eitemau o bwys hanesyddol wedi cael eu trosglwyddo i'n gofal ni, ble byddant yn cael eu cadw am byth i bawb eu mwynhau.
Tair cenhedlaeth o’r teulu Williams yn dod ynghyd i blannu coeden ifanc prin yng Nghastell y Waun, coeden ifanc wedi’i thrawsblannu o’r Dderwen wreiddiol Pontfadog a safodd yn ystod gorchfygiad Owain Gwynedd o’r Saeson, ac ymddangosodd yn y Guinness Book of Records fel ‘y goeden letaf ym Mhrydain’.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.